A ddylid dysgu 'Creadaeth' yn yr ysgolion?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A ddylid dysgu 'Creadaeth' yn yr ysgolion?

Postiogan rooney » Sul 06 Mai 2007 1:53 pm

Dylan a ddywedodd:mae sylwadau honedig Millar ar hoywon a chreadaeth am ei flagio fo am y bedair blynedd nesa dw i'n amau


pam fod gymaint o anoddefgarwch tuag at ddaliadau Cristnogol y gwr yma?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Sul 06 Mai 2007 1:56 pm

Dylan a ddywedodd:wyddwn i ddim mo hynny. Chwarae teg os yn wir.

ond mae creadaeth yn rhywbeth dw i'n fwy chwyrn yn ei erbyn nag sy'n iach. Os oes hyd yn oed awgrym ei fod o am drio pwsho'r peth yna bydd fo a fi yn elynion pennaf


rant arall gan y ffwndamentalwr seciwlar, Dawkings loving Dylan, ac mae'n debyg fod Dylan yn awyddus i wthio theoriau heb eu profi (e.g. esblygu) fel ffeithiau ar blant ysgol? pam ddylai dy grefydd di, fod dy gyndeidiau yn fwnciod, gael ei wthio ar blant pobl eraill?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sul 06 Mai 2007 1:57 pm

rooney a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:mae sylwadau honedig Millar ar hoywon a chreadaeth am ei flagio fo am y bedair blynedd nesa dw i'n amau


pam fod gymaint o anoddefgarwch tuag at ddaliadau Cristnogol y gwr yma?


mae'r sylwadau honedig (ac er tegwch dw i dal yn pwyslesio'r "honedig") ynglyn â chreadaeth yn fy ngofidio lot mwy na'r rhai am hoywon. Does bosib bod ti'n cyd-fynd â rheiny hefyd.

os oes unrhyw awgrym bod Millar yn trio pwsho rhyw fath o greadaeth, wir yr fe wna i ymroi fy ngyrfa i'w ddinsitro
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 06 Mai 2007 2:30 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Dwi'n cytuno'n llwyr a Dylan. Does dim lle i greadaeth yng ngwersi gwyddoniaeth. Gwyddoiaeth ydy ffeithiau, hypothesis ag ymchwil. Crefydd ydi credodau a "blind faith" mewn hen lyfrau.


Nonsens llwyr. Mae byd o wahaniaeth rhwng dysgu theoriau a ffeithiau. Theori yw esblygu, a felna dylid ei ddysgu. Nid yw wedi ei brofi o gwbl ac mae llawer iawn o wrthwynebiadau sylfaenol i'r theori. Os am ddysgu theori sydd heb ei brofi yna dylid rhoi darlun cyflawn i'r disgyblion am y dadleuon dros ac yn ei erbyn. Fel arall, chi yn brainwashio plant ac yn honni fod pethau'n ffeithiau pan dyw nhw ddim. Mae'n sgil bwysig mewn gwyddoniaeth i bwyso a mesur y dadleuon dros ac yn erbyn theori. Ac hefyd nid oes dim o'i le yn pwyntio allan y gwrthwynebiadau crefyddol, moesol ac ati i unrhyw theoriau gwyddonol sydd yn cael eu cyflwyno. Hefyd pwyntio allan fod Gwyddoniaeth byth yn sefyll yn yr unfan, mae wastad yn cywiro ei hun ac oherwydd wedi bod yn anghywir, weithiau'n syfrdanol anghywir, trwy hanes.

Does dim "blind faith" gan Gristnogion- mae llu o dystiolaethau sydd yn creu sylfaen gref i'r ffydd. Dwi'n cynnig chi'n rhoi gorau i wrando ar sothach articulate Dawkins a'i debyg a sylweddoli pa mor hurt yw honni fod cred yn Iesu yr un mor ddilys a chred mewn monster spaghetti. Neu wrth gwrs, cariwch mlaen i dalu £20 am bob llyfr hurt mae Dawkins yn ei sgwennu a cariwch mlaen i fyw mewn anwybodaeth.

Yn olaf, mae nifer fawr o wyddonwyr hefyd yn grefyddol. Mae llawer o Gristnogion yn derbyn y theori esblygu, a llawer ddim.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan huwwaters » Sul 06 Mai 2007 2:32 pm

Dyma pam na chafodd Darren Millar fy mhleidlais. Yr pedd yn agos iawn i'w gael fel pleidlais tactegol yn erbyn Llafur. Dwi'n sylweddoli wnaeth rhai ei ddyfynnu allan o cyd destun, ond yr eiliad mae rhywun yn sôn am creadigaeth yn y system addysg fel rhan o wyddoniaeth, mi wnai droi yn eich herbyn.

Nifer o Gristnogion dwi'n eu hadnabod mae nhw'n credu yn y Beibl ond yn cyfaddef fod yr oes cyn Abraham yn amwys iawn, a ddim yn siwr beth i'w wneud ohoni. Mae dull alegoriaidd yn cael ei gynnig ynglyn a'r peth.

Awn ni ddim lawr y trywydd ene fan yma.

Tydi creadigaeth neu unrhyw beth arall fel "intelligent creation" ddim yn perthyn i'r pwnc gwyddoniaeth, gan ar y cyfan ei unig ffynhonell yw llyfr sanctaidd. Cadwch creadigaeth at wersi Addysg Grefyddol.

Nonsens llwyr. Mae byd o wahaniaeth rhwng dysgu theoriau a ffeithiau. Theori yw esblygu, a felna dylid ei ddysgu. Nid yw wedi ei brofi o gwbl ac mae llawer iawn o wrthwynebiadau sylfaenol i'r theori. Os am ddysgu theori sydd heb ei brofi yna dylid rhoi darlun cyflawn i'r disgyblion am y dadleuon dros ac yn ei erbyn. Fel arall, chi yn brainwashio plant ac yn honni fod pethau'n ffeithiau pan dyw nhw ddim.


Bydda'n ofalus cyn gwneud honiadau. Mae esblygiad wedi ei brofi, a mae'n digwydd yn ddyddiol; dyma sut profwyd Lamarck yn anghywir gyda'i theori. Mae wedi ei profi gyda sawl enghraifft.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dylan » Sul 06 Mai 2007 2:32 pm

mae gwyddoniaeth gyfan yn theori y twpsyn

mae gwahaniaeth mawr iawn rhwng ystyr gwyddonol y gair "theori" a'r modd y'i defnyddir ym mywyd pob dydd
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 06 Mai 2007 2:37 pm

dylid dysgu theori fel theori, nid fel ffeithiau, yn enwedig felly y theori hynod fregus esblygu

does gen i ddim gwrthwynebiad dysgu am y theori esblygu, ond fod rhaid rhoi y dadleuon dros ac yn erbyn os am ei gyflwyno

ond ni ddylid banio dysgu am y cread mewn ysgolion

dyma'r gwahaniaeth rhwng barn pobl fel fi a'r ffwndamentalwyr seciwlar- mae nhw eisiau dysgu esblygu mewn ysgolion fel ffaith a banio dysgu unrhywbeth am y cread, yn fy atgoffa o system addysg gwledydd comiwnyddol

ac felly nid yw barn Darren Millar mor hurt ac mae eithafwyr maes-e yn hoffi meddwl, mae'r theori esgblygu yn llawn gwallau ac objections mawr o bob cyfeiriad- gwyddonol, philosophical, crefyddol, hanesyddol... felly pam dysgu rhywbeth fel hyn fel ffaith pan nad yw, a gwrthod cyflwyno'r gwrthwynebiadau a theoriau eraill?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sul 06 Mai 2007 2:53 pm

rooney a ddywedodd:ac felly nid yw barn Darren Millar mor hurt ac mae eithafwyr maes-e yn hoffi meddwl, mae'r theori esgblygu yn llawn gwallau ac objections mawr o bob cyfeiriad- gwyddonol, philosophical, crefyddol, hanesyddol... felly pam dysgu rhywbeth fel hyn fel ffaith pan nad yw, a gwrthod cyflwyno'r gwrthwynebiadau a theoriau eraill?


o ran swmp tystiolaeth, esblygiad ydi'r cysyniad mwya cadarn yn hanes gwyddoniaeth gyfan. Mewn difri. Does gen ti ddim syniad o gwbl am be ti'n mwydro. Wir i ti.

dy broblem fwya ydi nad oes gen ti unrhyw syniad sut mae gwyddoniaeth fel proses yn gweithio a datblygu. Mae "gwyddoniaeth", fel pwnc academaidd, wastad yn cael ei ddysgu fel y modd y deellir pethau ar y funud. Ac ar y funud, does dim theoriau amgen lle mae esblygiad o dan sylw

ac yn waeth byth, dydi CD ("cynllunio deallus", gan gymryd mai hwnnw ti'n ei arddel a nid y greadaeth draddodiadol!) ddim yn esbonio unrhyw beth o gwbl. Shifftio'r cwestiwn, nid ei ateb:

Delwedd

http://www.youtube.com/watch?v=bMEkCHU2KtA
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 06 Mai 2007 3:09 pm

Dylan a ddywedodd:o ran swmp tystiolaeth, esblygiad ydi'r cysyniad mwya cadarn yn hanes gwyddoniaeth gyfan. Mewn difri. Does gen ti ddim syniad o gwbl am be ti'n mwydro. Wir i ti.

dy broblem fwya ydi nad oes gen ti unrhyw syniad sut mae gwyddoniaeth fel proses yn gweithio a datblygu. Mae "gwyddoniaeth", fel pwnc academaidd, wastad yn cael ei ddysgu fel y modd y deellir pethau ar y funud. Ac ar y funud, does dim theoriau amgen lle mae esblygiad o dan sylw


cysyniad mwya cadarn yn hanes gwyddoniaeth gyfan!!!!! blydi hel, yn amlwg does gen ti ddim syniad o gwbl beth ti'n siarad am ac mae pa bynnag "addysg" ti wedi ei gael wedi dy adael lawr yn syfrdanol

dwed, wyt ti'n gwrthwynebu felly dysgu yr holl anhawsterau ac objections i'r theori esgblygu o wyddoniaeth ac o faesydd eraill? PAM? Oherwydd ti eisiau brainwashio plant hefo dy gred fod dy gyndeidiau yn fwnciod?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sul 06 Mai 2007 3:16 pm

rooney a ddywedodd: cysyniad mwya cadarn yn hanes gwyddoniaeth gyfan!!!!! blydi hel, yn amlwg does gen ti ddim syniad o gwbl beth ti'n siarad am ac mae pa bynnag "addysg" ti wedi ei gael wedi dy adael lawr yn syfrdanol


ia. Wir i ti, ti'n neud ffwl o dy hun.

dwed, wyt ti'n gwrthwynebu felly dysgu yr holl anhawsterau ac objections i'r theori esgblygu o wyddoniaeth ac o faesydd eraill? PAM? Oherwydd ti eisiau brainwashio plant hefo dy gred fod dy gyndeidiau yn fwnciod?


gweler uchod. Yli, wir i ti, cer i ddarllen bach o lyfrau ac wedyn gei di ddod ôl i ddadlau'n gall efo'r bobl mawr
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron