Mici a ddywedodd:Yn mynd i Belfast dydd Gwener, edrych mlaen rwan
Does gennai ddim lot o amser yno, dim ond un diwrnod llawn(Wel llai na diwrnod rhai mi ffendio rwla i wylio gem Cymru bydd
).
Dwi meddwl mai mond amser am daith tacsi neu taith bws open top fydd gennai.
Pa rhun wyt ti gynghori ydi'r gorau S.W? Ges di amser i dynnu lluniau o'r murluniau? Faint ydi cost y ddau?
Fues i yn edrych ar wefan yr 'Historic Pubs Tour' fud, ond ella mai crwydro nai, di ffendio mai'r sesiwns gora ydi'r rhai heb gynllun.
O ran cael amser i edrych o gwmpas y safleoedd yna'r cwmni tacsis ydy'r gorau. Y Black Cab Tours aethon ni hefo. Mi gawsom ni rhyw 10 munud i chwarter awr i grwydro o amgylch y Shankill i dynnu lluniau o'r murluniau. Mi gawsom ni hefyd amser i neidio allan fel y mynom ni i dynnu lluniau o bethau eraill fel y Cofeb i'r IRA a'r gymuned Weriniaethol oddi ar y Falls Road, y wal heddwch ac ati.
Costiodd y daith £27 i ni am tua awr i awr a hanner- werth pob ceiniog.
O ran y bws. Costiodd o £10 am docyn, ac oeddet ti'n gallu neidio ymlaen ac oddi ar y bws fel oeddet ti isio. Oedd y tocyn yn para 24 awr. Doeddet ti ddim yn gallu gweld y safleoedd mewn cweit gymaint o fanylder, ond oedd o'n handi i gael gweld y safloedd o safle uwch. Hefyd oedd y daith bws yn galluogi i ti weld tu allan i Stormont, a'r dociau - craeniau Harland and Wolff ac ati.
O ran yr Historical Pubs tour - cwbwl naethom ni oedd pigo map o'r ddinas i fyny o'r gwesty (mae'n siwr bod yr un map ar gael o Ganolfan Croeso) a roedd y tafarndai hanesyddol i gyd arno olygu fy mod i'n gallu dianc i'r un agosach ar ol cael llond bol o siopa hefo'r wraig. Byddwn i'n awgrymu dy fod yn mynd i'r Crown ar Greater Victoria Street.