Credo posib i glymblaid enfys?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A fydde chi'n derbyn y credo isod fel sail/gweledigaeth i glymblaid enfys?

Byddwn
17
50%
Na Fyddwn
17
50%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

Credo posib i glymblaid enfys?

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 16 Mai 2007 3:18 pm

Dyfyniad yw hwn gan R. Tudur Jones o ddechrau'r 80au, dwi'n meddwl ei fod yn coleddu'r gorau o wleidyddiaeth canol chwith a chanol dde i fod yn gredo a sail posib i glymblaid enfys.

"I mi mae'r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda'r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a'r cwbwl trwy ei gilydd a chyda'i gilydd yn galluogi pobl i fyw'n rhydd a ffyniannus – i mi, mae'r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. "

A fydde chi'n cytuno gyda'r fath gredo?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 16 Mai 2007 3:40 pm

Wir? Bydden i'n dweud y byddai'n well gen i rwygo fy ngherdyn aelodaeth Plaid Cymru na mynd i glymblaid gyda'r blaid a ddinistriodd fy nghymuned.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Clebryn » Mer 16 Mai 2007 3:50 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Wir? Bydden i'n dweud y byddai'n well gen i rwygo fy ngherdyn aelodaeth Plaid Cymru na mynd i glymblaid gyda'r blaid a ddinistriodd fy nghymuned.



A pha blaid fyddai hynny?

Y Blaid Lafur sydd yn sylfaenol wrth-gymreig ac sydd yn gwrthod deddfu o blaid yr iaith gymraeg, i ariannu ein hysgolion cymunedol, i ehangu'r ddarpariaeth gymraeg yn ein prifysgolion, sydd wedi dinistrio ein cymunedau gwledig a'n diwydiant amaeth?

Plaid Lafur sydd wedi gwastraffu arian amcan un ar greu swyddi di-werth yng ngymoedd glofaol De Cymru yn hytrach na chreu swyddi hir-dymor o safon ar hyd a lled Cymru?
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Re: Credo posib i glymblaid enfys?

Postiogan Clebryn » Mer 16 Mai 2007 3:53 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Dyfyniad yw hwn gan R. Tudur Jones o ddechrau'r 80au, dwi'n meddwl ei fod yn coleddu'r gorau o wleidyddiaeth canol chwith a chanol dde i fod yn gredo a sail posib i glymblaid enfys.

"I mi mae'r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda'r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a'r cwbwl trwy ei gilydd a chyda'i gilydd yn galluogi pobl i fyw'n rhydd a ffyniannus – i mi, mae'r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. "

A fydde chi'n cytuno gyda'r fath gredo?


Mae'r syniadau a fynegir gan R Tudur Jones yn adleisio nifer o syniadau y traddodiad "One Nation" Ceidwadol, megis y pwyslais ar ryddir yr unigolyn a'r wladwriaeth yn un actor gwan o blith nifer

Nid sosialaeth mo hyn, na chwaith sosialaeth gymunedol Rhys.

Piti nad yw Plaid Cymru yn arddel gwerthoedd tebyg heddiw ac yn dilyn esiampl doethineb R Tudur.
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 16 Mai 2007 4:05 pm

Dwi wedi sefydlu iDdeiseb amhleidiol i bobl sydd am gefnogi'r safbwynt chwith-ganol yma ac am amlw am ffurfio llywodraeth ar ei sail er lles pobl Cymru.

iDdeiseb
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Credo posib i glymblaid enfys?

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 16 Mai 2007 4:08 pm

Clebryn a ddywedodd:Piti nad yw Plaid Cymru yn arddel gwerthoedd tebyg heddiw ac yn dilyn esiampl doethineb R Tudur.


Maen nhw yn. Dyma yw'r gwerthoedd sy'n cael eu nodi ar y wefan:

"Sicrhau llewyrch economaidd, cyfiawnder cymdeithasol a lles yr amgylchedd naturiol, yn seiliedig ar sosialaeth ddatganoledig."

Call it 'sosialaeth ddatganoledig' if you want ond yr oll yw hyn yw yr un gwerthoedd ag yr oedd Tudur Jones yn pledio ddechrau'r 80au yn fy nhyb i.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Mer 16 Mai 2007 4:10 pm

Clebryn a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Wir? Bydden i'n dweud y byddai'n well gen i rwygo fy ngherdyn aelodaeth Plaid Cymru na mynd i glymblaid gyda'r blaid a ddinistriodd fy nghymuned.



A pha blaid fyddai hynny?

Y Blaid Lafur sydd yn sylfaenol wrth-gymreig ac sydd yn gwrthod deddfu o blaid yr iaith gymraeg, i ariannu ein hysgolion cymunedol, i ehangu'r ddarpariaeth gymraeg yn ein prifysgolion, sydd wedi dinistrio ein cymunedau gwledig a'n diwydiant amaeth?

Plaid Lafur sydd wedi gwastraffu arian amcan un ar greu swyddi di-werth yng ngymoedd glofaol De Cymru yn hytrach na chreu swyddi hir-dymor o safon ar hyd a lled Cymru?


Paraseit fuodd y Blaid Lafur erioed ar fy ardal i, ond dyw hi heb wneud hanner y difrod maleisus gwirioneddol a wnaeth y Toris. Achos ymddiswyddo fyddai mynd i glymblaid gyda'r naill neu'r llall.

Ac, wrth gwrs, pe bai hynny'n digwydd, byddai'n ta ta ar unrhyw fath o bleidlais ar y blaid yn ne Cymru. Ewch amdani os y'ch chi am Blaid Cymru ymylol.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Re: Credo posib i glymblaid enfys?

Postiogan Clebryn » Mer 16 Mai 2007 4:18 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Clebryn a ddywedodd:Piti nad yw Plaid Cymru yn arddel gwerthoedd tebyg heddiw ac yn dilyn esiampl doethineb R Tudur.


Maen nhw yn. Dyma yw'r gwerthoedd sy'n cael eu nodi ar y wefan:

"Sicrhau llewyrch economaidd, cyfiawnder cymdeithasol a lles yr amgylchedd naturiol, yn seiliedig ar sosialaeth ddatganoledig."

Call it 'sosialaeth ddatganoledig' if you want ond yr oll yw hyn yw yr un gwerthoedd ag yr oedd Tudur Jones yn pledio ddechrau'r 80au yn fy nhyb i.


Nid Sosialaeth Ddatganoledig yw'r hyn sy'n cael ei arddel yn y dyfyniad gan R Tudur Jones.

Dwi'n gwybod dy fod ti'n sosialydd ac yn genedlaetholwr o argyhoeddiad Rhys bach, ac wedi ymrwymo dy fywyd academaidd i astudio gwaith a bywyd R Tudur Jones.

Mi fyddai cydnabod yn wahanol a derbyn taw ffurf ar One Nation Conservatism yw syniadau Tudur Jones yn tanseilio popeth wyt ti'n ei gredu ynddo yn wleidyddol ac yn ergyd drom i dy edmygaeth o R Tudur.

Ond o'r hyn rwyf wedi ei gasglu o'r dyfyniad uchod nid sosialaeth mohonno!
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 16 Mai 2007 4:20 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ac, wrth gwrs, pe bai hynny'n digwydd, byddai'n ta ta ar unrhyw fath o bleidlais ar y blaid yn ne Cymru....


Yn ateb i hyn gai ddyfynu Pleidiwr tra amlwg o Geredigion wrth wynebu sylwad tebyg i dy un di wrth i rywyn wrthod ei syniad i fynd gyda'r Ceidwadwyr: "Pam ddylai Cymru fel cenedl lusgo ei draed tra'n aros am y cymoedd?"
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Clebryn » Mer 16 Mai 2007 4:22 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ac, wrth gwrs, pe bai hynny'n digwydd, byddai'n ta ta ar unrhyw fath o bleidlais ar y blaid yn ne Cymru....


Yn ateb i hyn gai ddyfynu Pleidiwr tra amlwg o Geredigion wrth wynebu sylwad tebyg i dy un di wrth i rywyn wrthod ei syniad i fynd gyda'r Ceidwadwyr: "Pam ddylai Cymru fel cenedl lusgo ei draed tra'n aros am y cymoedd?"


Ac faint o bleidleisiau sydd iw hennill yn y cymoedd tabeth?

Fel y profodd canlyniadau mis mai roedd y cymoedd yn fangre etholiadol siomedig i Blaid Cymru.

Mae na bleidleisiau i'w hennill yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac yn Ne Orllewin Cymru.

Nid oes ishe ildio i'r "cymoedd" ac arddel credodau sosialaidd methiedig gan nad oes unrhyw gyfalaf gwleidyddol i ennill drwy wneud hynny, hyd y gwelaf i!
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron