Gorwel Roberts a ddywedodd:Faint bynnag neith y Ceidwadwyr newid neu honni eu bod nhw wedi newid, eu greddf naturiol yw torri trethi a gwariant cyhoeddus, beth bynnag yw delwedd gyhoeddus Cameron a'i debyg. Eniwe dwi ddim yn meddwl bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros glymblaid o'r fath. Byddai'n drychinebus i Blaid Cymru dwi'n meddwl. Yn gam neu'n gymwys, fel y blaid fwyaf o bell ffordd, bydd yn rhaid i Lafur fod yn rhan o lywodraeth nesaf y Cynulliad sut bynnag mae'n cael ei ffurfio.
Mae'n digon posib dy fod yn iawn am reddf naturiol y Toriaid - ond dydy hyn ddim yn berthnasol yng nghyd-destun y Cynulliad. Gan nad oes modd newid y swm o arian sydd ar gael i'r Cynulliad ei wario does yna ddim cyfle i'r Toriaid gweithredu ar sail y reddf yma. A dwi'n sicr fod y Toriaid wedi newid i'r graddau na fyddant yn dychwelyd arian i'r Trysorlys - megis Redwood! Realti sefyllfa'r Cynulliad yw mae hanfod ei swyddogaeth yw penderfynnu ar y blaenoriaethau a dos-rannu'r Gyllideb yn unol a'r blaenoriathau, ac hefyd rheoli gwariant yn effeithiol. Dwi'n ffyddiog y gall clymblaid enfys gwneud tipyn yn well na Llafur yn hyn o beth.
Dwi'n anghytuno bod yna unrhyw reidrwydd moesol i Lafur fod yn rhan o'r llywodraeth nesaf. Maent ond yn cynrychioli 32% o'r bleidlais, a dim ond 47% ynghlwm a'r Rh Cym. Mae'r glymblaid enfys yn cynrychioli 60% o bleidleiswyr Cymru - sef y mwyafrif. Mae yna llawn cymaint o mandad gyda'r glymblaid yma ag unrhyw un arall.
Yn y pen draw yr unig beth sy'n cyfri yw pa ffurf o lywodraeth all gwneud y daioni mwyaf i Gymru yn ystod y 4 mlynedd nesaf. Does gen i ddim diddordeb yn y darlun strategol. Mae'n digon posib mae Plaid Cymru fydd yn colli fwyaf allan o'r berthynas, a'r Toriaid yn elwa fwyaf. Dyna'r peryg - ond dylid canolbwyntio yn hytrach ar y cyfle - a'r cyfrifoldeb o manteisio ar y cyfle i arwain y genedl.