Mae yna bosibiliad cryf ein bod ni ar drothwy cyfnod newydd yng nglweidyddiaeth Cymru ac hanes Cymru yn sgil llywodraeth enfys posib rhwng Plaid/Ceidwadwyr/Rhyddfrydwyr a fydd yn torri dominyddiad rheoli Llafur o ganrif yng Nghymru
Ond pwy fydd ar ein cabinet a pa gyfrifoldebau fydd gan y gweinidiogion?????
Ar sail nifer y seddau rhwng y 3 plaid rwyf wedi gweithio fe allan i 4 Plaid 3 Ceidwadwyr a 2 Rhyddfrydwr..(ond nid hwn o angenrhediwrydd yw'r sail cywir)....ta beth, a all y cabinet fod yn edrych fel hyn?.....
Prif Weinidog - Ieuan Wyn Jones (Plaid)
Gweinidog Datblygu Economiadd - Nick Bourne(Ceidwadwyr)
Gweinidog Iechyd - Dai Lloyd (Plaid)
Gweinidog Addysg - Mike German (Rhyddfrywdwyr)
Gweinidog Iaith - Elin Jones (Plaid)
Gweinidog Amgylchedd a Cefn Gwlad - Rhodri Glyn Thomas (Plaid)
Gweinidog Cymdeithasol ac Adfywio - Kirsty Williams (Rhyddfrydwyr)
Y Trenfydd/ Rheolwr Busnes y Cynulliad - Jonathan Morgan (Ceidwadwyr)
Gweinidog Cyllid - Dave Melding (Ceidwadwyr)
Pwy fydd ar eich cabinet chi??? Dwi'n gwbod bod y syniad o glymbaid di trafod droeon ar y maes (HY y pros and cons) - ond be dwi ishe canolbwyntio ar fan hyn - yw tasa fe yn digwydd (innau os i chi yn pro neu yn erbyn) - pwy i chi yn meddwl bydd ar y cabinet ac yn cael y top jobs?