Cabinet Clymblaid Enfys

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cabinet Clymblaid Enfys

Postiogan Rhods » Gwe 18 Mai 2007 2:32 pm

Mae yna bosibiliad cryf ein bod ni ar drothwy cyfnod newydd yng nglweidyddiaeth Cymru ac hanes Cymru yn sgil llywodraeth enfys posib rhwng Plaid/Ceidwadwyr/Rhyddfrydwyr a fydd yn torri dominyddiad rheoli Llafur o ganrif yng Nghymru

Ond pwy fydd ar ein cabinet a pa gyfrifoldebau fydd gan y gweinidiogion?????

Ar sail nifer y seddau rhwng y 3 plaid rwyf wedi gweithio fe allan i 4 Plaid 3 Ceidwadwyr a 2 Rhyddfrydwr..(ond nid hwn o angenrhediwrydd yw'r sail cywir)....ta beth, a all y cabinet fod yn edrych fel hyn?.....

Prif Weinidog - Ieuan Wyn Jones (Plaid)
Gweinidog Datblygu Economiadd - Nick Bourne(Ceidwadwyr)
Gweinidog Iechyd - Dai Lloyd (Plaid)
Gweinidog Addysg - Mike German (Rhyddfrywdwyr)
Gweinidog Iaith - Elin Jones (Plaid)
Gweinidog Amgylchedd a Cefn Gwlad - Rhodri Glyn Thomas (Plaid)
Gweinidog Cymdeithasol ac Adfywio - Kirsty Williams (Rhyddfrydwyr)
Y Trenfydd/ Rheolwr Busnes y Cynulliad - Jonathan Morgan (Ceidwadwyr)
Gweinidog Cyllid - Dave Melding (Ceidwadwyr)

Pwy fydd ar eich cabinet chi??? Dwi'n gwbod bod y syniad o glymbaid di trafod droeon ar y maes (HY y pros and cons) - ond be dwi ishe canolbwyntio ar fan hyn - yw tasa fe yn digwydd (innau os i chi yn pro neu yn erbyn) - pwy i chi yn meddwl bydd ar y cabinet ac yn cael y top jobs?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Cabinet Clymblaid Enfys

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 18 Mai 2007 2:37 pm

Rhods a ddywedodd:Mae yna bosibiliad cryf ein bod ni ar drothwy cyfnod newydd yng nglweidyddiaeth Cymru ac hanes Cymru yn sgil llywodraeth enfys posib rhwng Plaid/Ceidwadwyr/Rhyddfrydwyr a fydd yn torri dominyddiad rheoli Llafur o ganrif yng Nghymru

Ond pwy fydd ar ein cabinet a pa gyfrifoldebau fydd gan y gweinidiogion?????

Ar sail nifer y seddau rhwng y 3 plaid rwyf wedi gweithio fe allan i 4 Plaid 3 Ceidwadwyr a 2 Rhyddfrydwr..(ond nid hwn o angenrhediwrydd yw'r sail cywir)....ta beth, a all y cabinet fod yn edrych fel hyn?.....

Prif Weinidog - Ieuan Wyn Jones (Plaid)
Gweinidog Datblygu Economiadd - Nick Bourne(Ceidwadwyr)
Gweinidog Iechyd - Dai Lloyd (Plaid)
Gweinidog Addysg - Mike German (Rhyddfrywdwyr)
Gweinidog Iaith - Elin Jones (Plaid)
Gweinidog Amgylchedd a Cefn Gwlad - Rhodri Glyn Thomas (Plaid)
Gweinidog Cymdeithasol ac Adfywio - Kirsty Williams (Rhyddfrydwyr)
Y Trenfydd/ Rheolwr Busnes y Cynulliad - Jonathan Morgan (Ceidwadwyr)
Gweinidog Cyllid - Dave Melding (Ceidwadwyr)

Pwy fydd ar eich cabinet chi??? Dwi'n gwbod bod y syniad o glymbaid di trafod droeon ar y maes (HY y pros and cons) - ond be dwi ishe canolbwyntio ar fan hyn - yw tasa fe yn digwydd (innau os i chi yn pro neu yn erbyn) - pwy i chi yn meddwl bydd ar y cabinet ac yn cael y top jobs?


Blydi hel Rhods ti yn keen! :winc: Bydden i efallai yn newid portffolio Elin Jones a Rhodri Glyn Thomas yn dy rhestr di.
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Cabinet Clymblaid Enfys

Postiogan Rhods » Gwe 18 Mai 2007 2:49 pm

Griff-Waunfach a ddywedodd:
Blydi hel Rhods ti yn keen! :winc: Bydden i efallai yn newid portffolio Elin Jones a Rhodri Glyn Thomas yn dy rhestr di.


Wel - mae'n rhiad meddwl amy pethe ma Griff!!!! :winc:

Ie - falle bo ti yn iawn. Wrth feddwl am y peth mi wnaeth Elin siarad yn arbennig o dda yn hustings yr etholiadau yn Ceredigion pan yn trafod amaeth - mae'n amwlg bod hi yn deall y pethe ma, a ma da hi atebion/cynlluniau da ar gyfer trafod y materion ma...so ie - Elin am Amaeth a Rhodri Glyn yn Weinigog Iaith....er dwi yn sicr yn meddwl fydd na siawns ffantastig y cawn ni Deddf Iaith Newydd cryf a Coleg Ffedral gyda innau Rh Glyn neu Elin yn weinidiog iaith - garantid!

Dwi yn onestli yn meddwl - ma'r fath o enwau posib da ni yn siarad am i fod yn aelodau cabinet llywodrath Cymru mewn clymblaid enfys yn gyffrous uffernol - lot fawr o dalent a syniadau gwych...
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Cabinet Clymblaid Enfys

Postiogan ceribethlem » Gwe 18 Mai 2007 3:01 pm

Rhods a ddywedodd: ... Gweinidog Addysg - Mike German (Rhyddfrywdwyr)
...
Blydi Hel :ofn: Gobitho na.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cabinet Clymblaid Enfys

Postiogan Rhods » Gwe 18 Mai 2007 3:10 pm

ceribethlem a ddywedodd:
Rhods a ddywedodd: ... Gweinidog Addysg - Mike German (Rhyddfrywdwyr)
...
Blydi Hel :ofn: Gobitho na.


Bydd pethe dal ddim yn 'berffaith' o bell ffordd menw clymblaid enfys( :winc: ) - dim fe fydd fy newis i o rheidrwydd- ond er mwyn cadw'r 'package' yn un heddychlon - dyma o bosib fydd y 'cyfaddawd' (HY job fel hyn iddo fel arweinydd y lib.dems)

Sa ni yn meddwl - mai 4 'top' swydd y cabinet yw PW, Gw.Iechyd, Gw.Dat.Ec., Gw.Addysg - o ran fod yn 'deg' (seilir hyn ar nifer y seddi rhwng y 3 plaid - fydd Plaid Cymru a 2, Ceidawdwyr ac 1 , Dem.Rhydd ac 1 - yn naturiol IWJ fydd y PW achos Plaid yw'r plaid fwyaf o ran seddi....ma croeso i ti newid e- pwy i ti yn meddwl gall fod yn y cabinet ???
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

cabinet posib

Postiogan aled g job » Gwe 18 Mai 2007 3:23 pm

Dwi'm yn amau bo ti'n iawn efo dy gyfuniad 4:3:2 Rhods, gosa y byddan nhw'n mynd am gabinet tynnach, er mwyn gwneud yn siwr na fydd Llafur yn gwneud gormod o ddifrod ar y pwyllgorau...
O ran Gweinidog Addysg: synnwn i damaid gweld Gareth Jones yn cael y portffolio hwn. Cyn brifathro, cadarn iawn ei gefnogaeth i'r Gymraeg.Yr elfen hon llawn mor bwysig os nad pwysicach ar gyfer y swydd hon ag ar gyfer y Portffolio Iaith a Diwylliant.
Mike German- Datblygu Economaidd?
Nick Bourne- Trafnidiaeth?
Dai Lloyd- Iechyd?
Elin Jones- Amaethyddiaeth?
Peidiwch a synnu'n ormodol chwaith gweld enw Dafydd El yn ymddangos: mae o am fod yn Weinidog am rywbeth neu'i gilydd yn ol y son......

Cofiwch hefyd bod angen cyfreithiwr/bargyfreithiwr ar y cabinet newydd. Onid oes yna fargyfreithiwr Cymraegyn cicio'i sodlau tua San Steffan na dwch....??
Aled G Job
aled g job
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 102
Ymunwyd: Llun 26 Medi 2005 8:33 am

Postiogan Cwlcymro » Gwe 18 Mai 2007 3:38 pm

Pam fod pawb yn rhoi Dr Dai fel iechyd - onid Helen Mary oedd darpar-weinidog iechyd Plaid? Shwr i fi gofio Dafydd Iwan ne riwun yn ei chyfarch hi fel "Gweinidog iechyd nesaf Cymru" yn ystod yr etholiad.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 18 Mai 2007 4:05 pm

Dyma farn Glyn Davies:

Ieuan Wyn Jones - First Mimister
Nick Bourne - Deputy First Minister and Finance Spokesman
Mike German - Deputy First Minister and Local Government Spokesman
Rhodri Glyn Thomas - Health Spokesman
Helen Mary Jones - Social Justice Spokesperson and Business Manager
Elin Jones - Environment and Countrtyside Spokesperson
Jonathon Morgan - Education Spokesman
Alun Cairns - Ecomomy Spokesman
Jenny Randerson - Culture Spokesperson


Bydden i am weld Plaid Cymru yng ngofal Diwylliant/Iaith ac Addysg, ac unrhywun ond y Ceidwadwyr yng ngofal Iechyd!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cabinet Clymblaid Enfys

Postiogan dave drych » Gwe 18 Mai 2007 4:08 pm

Rhods a ddywedodd:Gweinidog Datblygu Economiadd - Nick Bourne(Ceidwadwyr)
Gweinidog Cyllid - Dave Melding (Ceidwadwyr)


Typical Toris - isho cael eu dwylo ar yr arian a'r economi yn syth byn! :winc:
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Ger27 » Gwe 18 Mai 2007 5:18 pm

O edrych ar yr unioglion fyddai a'r potensial i fod ar glymblaid enfys o gymharu a un Llafur, byddwn i'n dweud fod yr un enfys yn dipyn gryfach.

Fodd bynnag, byddai'n rhoi andros o lot o ammunition i Blaid Lafur yn erbyn y 3 plaid arall yng Nghymru yn yr etholiadau nesaf. Bydd llawer o bobl yn disgwyl iddo fethu, felly bydd yn rhaid iddynt sicrhau bod y peth yn mynd i weithio.

Byddai'n braf medru cael rhywun fel Wigley gyda rheolaeth dros economi Cymru, ond dyna fo.
Ond, efallai y bydd Clymblaid Enfys YN rhoi'r siawns i Dafydd Wigley ddychwelyd i Fae Caerdydd. Nid fel AM, ond fel y Counsel General. Dwi'm yn siwr sut mae sgiliau cyfreithiol Dafydd Wigley, ond mae'n swydd bwysig a dwi'n siwr fydde Wigley yn un da.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron