costa brava

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

costa brava

Postiogan eifs » Gwe 22 Gor 2005 6:45 pm

oce, dwi di gadael hwn braidd yn hwyr, dwin gadael am y maes awyr yn manceinion mewn 5 awr, i costa brava yn sbaen, gall rhywyn ddweud wrthai yn sydyn, os yw'r lle yn le da, a lle yw'r llefydd sydd yn angenrheidiol i fynd, a ballu

diolch!
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan Siffrwd Helyg » Sad 23 Gor 2005 1:53 pm

Hmmm, ma criw o ni o coleg di bwcio gwylie i Costa Brava ar gyfer Mis Medi... Clywed fod e'n lle da gan 'Methu Meddwl'! Awe! Gobeithio neud trip bach i Barcelona tra ni yno. Rho gwbod sut mae'n mynd Eifs... !
Rhithffurf defnyddiwr
Siffrwd Helyg
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 830
Ymunwyd: Sul 08 Meh 2003 10:38 pm
Lleoliad: Caerfyrddin/Aberystwyth

Postiogan Chwadan » Sul 24 Gor 2005 10:12 pm

Oo, newydd fod yn y Costa Brava. Erbyn i ti weld hwn Eifs fyddi di'n gwbod fod o'n le neisneisneis os gnes ti lwyddo i osgoi'r resorts :ofn:

Nathon ni rentu car a theithio o Barcelona i ochra Figueres gan ymweld â Gerona (werth treulio bore yna) a Cadaqués (braidd yn dwristaidd ond yn werth mynd dros y bryn i weld ty Dali yn Port Lligat a mynd i un o'r bwytai pysgod iymiymiym). Hefyd ma na bentre bach o'r enw Pals rhwng Gerona a Figueres sydd yn sicr yn werth ymweld â fo. Weles i mond cip o'r resorts (Lloret a Blanes ymysg eraill) ac oeddan nhw'n edrych yn eitha ôffyl - sori os oes na rywun yn bwriadu mynd i aros yno, ond os ydach chi, peidiwch.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sul 20 Mai 2007 9:29 pm

Hei Chwads (of S4C ffêm :winc: )
Dwi'n mynd yn ô fuan...tybed alli di awgrymu trydydd lle i fwcio gwesty.
Dan ni'n aros 5 noson ym Marcelona ei hun, 5 arall yn Tossa del Mar, a mae gynnon ni 4 arall i'w treulio'n rwla cyn hedfan yn ôl o faes awyr Barcelona.

Da'ni'n osgoi'r risôrts fel y pla. Ond yn sdryglo gwbod lle i aros am y 4 noson olaf.

Eni syjeshjyns gyd-aderyn?

Mae gynnon/gen n/i 11 diwrnod i benderfynu, a di'r dyn ddim yn llawar o help achos mae o ym Mharis efo'r 'ogia.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan huwwaters » Sul 20 Mai 2007 9:43 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Dan ni'n aros 5 noson ym Marcelona ei hun, 5 arall yn Tossa del Mar, a mae gynnon ni 4 arall i'w treulio'n rwla cyn hedfan yn ôl o faes awyr Barcelona.

Mae gynnon/gen n/i 11 diwrnod i benderfynu, a di'r dyn ddim yn llawar o help achos mae o ym Mharis efo'r 'ogia.


Swnio i fi fel dipyn o 'Tossa del Mar'. :winc:
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 21 Mai 2007 10:05 am

huwwaters a ddywedodd:
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Dan ni'n aros 5 noson ym Marcelona ei hun, 5 arall yn Tossa del Mar, a mae gynnon ni 4 arall i'w treulio'n rwla cyn hedfan yn ôl o faes awyr Barcelona.

Mae gynnon/gen n/i 11 diwrnod i benderfynu, a di'r dyn ddim yn llawar o help achos mae o ym Mharis efo'r 'ogia.


Swnio i fi fel dipyn o 'Tossa del Mar'. :winc:

Eh? Dwi'm yn dalld :wps:
Tossa de Mar ydio 'fyd, fi gam-sillafodd :wps:
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan huwwaters » Mer 23 Mai 2007 10:36 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:
Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Dan ni'n aros 5 noson ym Marcelona ei hun, 5 arall yn Tossa del Mar, a mae gynnon ni 4 arall i'w treulio'n rwla cyn hedfan yn ôl o faes awyr Barcelona.

Mae gynnon/gen n/i 11 diwrnod i benderfynu, a di'r dyn ddim yn llawar o help achos mae o ym Mharis efo'r 'ogia.


Swnio i fi fel dipyn o 'Tossa del Mar'. :winc:

Eh? Dwi'm yn dalld :wps:
Tossa de Mar ydio 'fyd, fi gam-sillafodd :wps:


Dipyn o sarhad diniwed gyda'r gair 'Tossa', am nad yw'n lawer o help.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Chwadan » Mer 23 Mai 2007 10:49 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Hei Chwads (of S4C ffêm :winc: )
Dwi'n mynd yn ô fuan...tybed alli di awgrymu trydydd lle i fwcio gwesty.
Dan ni'n aros 5 noson ym Marcelona ei hun, 5 arall yn Tossa del Mar, a mae gynnon ni 4 arall i'w treulio'n rwla cyn hedfan yn ôl o faes awyr Barcelona.

Da'ni'n osgoi'r risôrts fel y pla. Ond yn sdryglo gwbod lle i aros am y 4 noson olaf.

Eni syjeshjyns gyd-aderyn?

Mae gynnon/gen n/i 11 diwrnod i benderfynu, a di'r dyn ddim yn llawar o help achos mae o ym Mharis efo'r 'ogia.

Crapbags, rwan dwi'n gweld hwn sori. Fydd gennach chi gar? Os bydd, o be aru fi weld o'r ardal, sa Figueres yn base reit dda er mwyn mynd i fyny am Ffrainc neu at yr arfordir i Cadaques neu fyny i gyfeiriad y Pyrennees. Does na'm gymaint a hynna i'w weld yno (blaw amgueddfa Dali, sydd yn must-see - a mi nath y Furries recordio LoveKraft yno rwla) ond di hi ddim yn dref amhleserus. Allsa chi fynd i Gerona ar y ffordd rhwng Tossa a Figueres hefyd. Ma'n dibynnu rili pa mor brysur da chi'n bwriadu bod - ond ella sa'n syniad prynu guidebook er mwyn ffeindio mwy o betha i'w gneud, achos dim ond ryw dridia nes i dreulio yn Barcelona a deuddydd yn busnesa o gwmpas y Costa Brava.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Iau 24 Mai 2007 5:04 pm

Eidial Chwads. Thenciw. O'n i yn gobeithio mynd i Girona am y dydd o Tossa.
Y syniad bellach ydi aros yn Palafrugell neu Llafranc neu rwla (ac ella mynd i Figueres o fan'no), ond dwi ddim 'di bwcio dim byd eto...

Ma'r busnas car yn rwbath sy'n newid o ddydd i ddydd. Erbyn hyn, 'dan ni'n meddwl codi un wrth adael Barcelona, a'i ollwng ar y ffordd nol i'r maes awyr. Dwi'n meddwl 'sa hynny'n syniad da iawn fy hun 8)

Dwi'n aros i'r dyn ddwad i'ngweld i, achos nesh i adael fy llyfra i gyd yno noson o'r blaen (yn llawn gobaith)...!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai