rooney a ddywedodd:Positif80 a ddywedodd:Yn bersonol, os oes Duw, dwi'm yn meddwl ei fod o'n un da.
Ni wedi cael rhyddid i ddilyn Duw neu dilyn Satan. Yn anffodus mae rhai pobl yn cael eu swyno gen Satan. Sut fedri di egluro
evil gyda dy
worldview di? Sut fedri di egluro fod rhywun wedi gwneud rhywbeth ofnadwy fel hyn?
Dwi'm yn dilyn yr un ohonyn nhw - mae gen i ymenydd a dwi'n ei defnyddio, ac yn dewis i beidio bod yn ddrwg gan fod gweithredoedd drwg yn cael effaith negyddol ar bobl eraill. Syniad syml - dim rhaid coelio mewn ysbryd holl-alluog i ddod i'r casgliad yna.
Pam bod pobl yn gwneud pethau fel hyn? Pwy a wyr? Natur/magwraeth, efalla? Mae rhai pobl yn dda, eraill yn ddrwg a'r rhan fwyaf ohonom ni'n rywle yn y canol.
Efalla bod Duw yn bodoli, ac os ydi o'n Duw y Beibl (yr un petulant, plentynaidd sydd hefo hanes o ladd a gwrthdweud ei hun) dwi'n
fucked .
Mae'r crefydd Cristianaidd (a'r gweddill, mae'n siwr) yn llawn casineb a contradictions, felly pendefynais ymadael a'r brainwashing a gwneud fy newisiadau fy hun.
Mae'r pobl yma hefo ewyllys rydd, ac mae nhw (neu fo/hi) wedi gwneud rywbeth erchyll.
Pwy a wyr beth sy'n gwneud rywun yn ddrwg? Ond dwi'n sicr ddim am esbonio'r peth trwy ddefnyddio syniadau pobl sy'n dilyn Duw sy'n cyfiawnhau lladd eich fab os ydi o'n "rebellious".
Beth bynnag, pam bod y crefyddwyr yn cwyno jest am bod y byd seciwlar wedi cymeryd drosodd, pan wnaethon nhw stwffio byd i fyny am 2000 o flynyddoedd?