Cwlcymro a ddywedodd: Felly drwy edrych arni fel yna, mae moesoldeb pob unigolyn yn gyfartal.
anghytunaf, dwi ddim yn credu fod moesau pawb yr un mor ddilys a'u gilydd, pa bynnag mor ddiffuant yw nhw am eu safonau moesol
Dwi'n gweld dy fod di wedi sgipio drost bwynt Barbarella a fi fod dy atebion di i gwestiyna Laura yn gwneud ein pwynt ni drosto ni ac yn dangos methiant y beibl i roi moesoldeb sydd o unrhyw iws yn y byd modern.
Mae addysg Iesu am foesoldeb, y deg gorchymun ayyb yr un mor addas ar gyfer heddiw ac erioed. Y broblem yw fod ni dal yn methu cadw at y safonau yma. Myth yw fod ni wedi esblygu heibio hyn, edrych o dy gwmpas. Dirywiad ydw i'n ei weld, gan ddefnyddio safonau moesol y Beibl fel llinyn mesur.