BBC gyda bias 'leftie' - R.Oakley

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cwlcymro » Iau 21 Meh 2007 9:29 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Ray a Macsen.

Nid gender equality ydi ffôn fesur y BBC yn y drafodaeth hon ond cydbwysedd gwleidyddol corff sy'n derbyn cyllid gan drethdalwyr. Falle fod agweddau y BBC yn iach tuag at faterion megis rhywioldeb ayb ond nid dyna'r pwynt mae Andrew Marr yn wneud. Triwch ddeallt! :winc:


Naci ti'n iawn. Pwynt Andrew Marr ydi dad ydi'r mwyafrif o bobl ifanc dyddia yma, na pobl o gymuneda leiafrifol, yn cefnogi'r Toriaid. Ma'n dod nol i'r un cwestiwn o res i i chdi flynyddodd yn ol dros dy syniad di fod BBC Cymru yn pro-Plaid. Os ydi hynny (a hyn) yn wir, dim "pam fod y BBC yn gwyro ir chwith?" ydi'r cwestiwn ddylsa chdi ofyn, ond "pam fod y genhedlaeth iau yn gwrthod y Toriaid"? .
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Iau 21 Meh 2007 11:04 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Naci ti'n iawn. Pwynt Andrew Marr ydi dad ydi'r mwyafrif o bobl ifanc dyddia yma, na pobl o gymuneda leiafrifol, yn cefnogi'r Toriaid. Ma'n dod nol i'r un cwestiwn o res i i chdi flynyddodd yn ol dros dy syniad di fod BBC Cymru yn pro-Plaid. Os ydi hynny (a hyn) yn wir, dim "pam fod y BBC yn gwyro ir chwith?" ydi'r cwestiwn ddylsa chdi ofyn, ond "pam fod y genhedlaeth iau yn gwrthod y Toriaid"? .


Gwranda Cwl bach, does wnelo dy ddadl uchod ddim ar pwynt allweddol, sef fod y BBC yn methu'n llwyr ac adlewyrchu barn gytbwys a hynny yng nghyd-destun cyfres o faterion cyfoes allweddol.

O ran dy ail bwynt - unwaith yn rhagor dy ragfarn sydd yma a dim ffaith. Tydi y genhedlaeth iau DDIM yn gwrthod y Toriaid. Mae pob sylwebydd yn cytuno fod Conservative Future yn meddu ar fwy o aelodaeth na unrhyw fudiad ieuenctid plaid gyfatebol. Dwi'n credu hefyd fod aelodaeth y Ceidwadwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn uwch nac aelodaeth Plaid ac yn wahanol i aelodau Plaid mae nhw'n fodlon bwrw pleidlais :lol:

Felly ac eithrio trio sgorio pwynt be yn union oedd pwrpas dy neges Cwl?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Iau 21 Meh 2007 11:07 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Naci ti'n iawn. Pwynt Andrew Marr ydi dad ydi'r mwyafrif o bobl ifanc dyddia yma, na pobl o gymuneda leiafrifol, yn cefnogi'r Toriaid.


Sori Cwl, ond dylid hefyd nodi nad yw'r cyfraniad uchod yn gwneud unrhyw synnwyr. Pwy yn union ydi Dad? Ac nid dyna ydi pwynt Andrew Marr os bydde ti'n fodlon darllen yr adroddiad - gofyn gormod debyg, go brin fod sialensu dy ragfarn yn apelio. Trist serch hynny fod un mor ifanc mor barod i fod yn gul ei feddwl :crio:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan rooney » Gwe 22 Meh 2007 7:38 pm

Pam fod ni'n cael ein gorfodi i dalu dros ganpunt y flwyddyn i gadw'r BBC sydd yn pro-seciwlar gwrth-Grist, pro-palesteina gwrth-israel, pro-mwslim gwrth-iddew, pro-chwith gwrth-dde, pro-esblygu gwrth-greu, pro-ewrop gwrth-america, pro-hoyw gwrth-deulu, pro-vermin gwrth-hela ayyb?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Gwe 22 Meh 2007 8:07 pm

Macsen a ddywedodd:Petai pob busnes ym Mhrydain gyda enw da fel y BBC am degwch tuag at pobol hoyw ac o leafrifoedd ethnic mi fyddai'r grwpiau rheini wedi eu taenu'n fwy cyrfatal ar draws gweithleoedd Prydain.


Fyddai'r BBC yr un mor barod i gyflogi dwed Iddew sydd yn hoff o'r Torah? Aelod o'r BNP/UKIP/Veritas? Helwr llwynogod? Mwslim sydd yn credu yn neddfau Sharia?

http://theinternetforum.co.uk/bbc/bias5.html
In a related investigation, BBC executives were given a scenario in which comedian Sacha Baron Cohen participated in a program titled Room 101, a programme where guests are allowed to symbolically dispatch things they hate into Room 101.

The executives were asked what they would do if Cohen decided to throw kosher food, the Archbishop of Canterbury, the Bible, and the Koran into Room 101.

They said they would allow everything to be thrown into Room 101 except the Koran as they did not want to offend Muslims
.


Dweud y cyfan dwi'n meddwl. Cwbl annerbyniol.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron