Yr Etholiad Cyffredinol nesaf

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Yr Etholiad Cyffredinol nesaf

Postiogan Rhods » Maw 24 Gor 2007 2:26 pm

Gweld bod rhywun di son ar edefyn arall bod angen dechre pwnc newydd ar yr etholiad cyffredinol a ffawd Y Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur ar Dem.Rhydd yn dilyn yr is-etholiadau yr wythnos diwetha..cytuno yn llwyr.

Ie - mi oedd yn ganlyniad siomedig ir Ceidwadwyr, heb os. Ma Brown yn mynd trwy rhyw fath o honeymoon period - ond pa mor hir fydd hyn yn para? Jyst gofyn na gyd.

Ma gan y Ceidwadwyr oddeutu 200 sedd a ma angen tua 330ish i ennill, a ydw i yn iawn? Big ask...

Yn bersonnol - sa well da fi sefyllfa ble ma Brown yn ennill da mwyafrif bach o tua 20ish a llai fel nath y Ceidwadwyr neud yn 1992 a wedyn etholiad ar ol hynny - 2013 ish - y Ceidwdwyr yn ennill da mwyafrif mawr YN LLE ennill yr etholiad nesa o lleiafrif bach iawn ac wedyn risgio colli yr etholiad ar ol hynny a diodde hamering fel gwnaeth y Ceidwadwyr yn 97 a cael 10 blynedd+ arall o sosialaeth.

Wrth gwrs byddaf yn dathlu buddugoliaeth ir Ceidwadwyr os ennilliff yr etholiad nesa. Ond ni fyddai'n drychineb o bell ffordd cyn belled ein bod yn codi ein nifer o stoc AS i 250ish+...

Os colli fu'r hanes dwi yn meddwl fod angen plan B...a rhyw clause 4 moment mawr fel nath Blair i Lafur.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Re: Yr Etholiad Cyffredinol nesaf

Postiogan S.W. » Maw 24 Gor 2007 3:08 pm

Rhods a ddywedodd:Gweld bod rhywun di son ar edefyn arall bod angen dechre pwnc newydd ar yr etholiad cyffredinol a ffawd Y Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur ar Dem.Rhydd yn dilyn yr is-etholiadau yr wythnos diwetha..cytuno yn llwyr.

Ie - mi oedd yn ganlyniad siomedig ir Ceidwadwyr, heb os. Ma Brown yn mynd trwy rhyw fath o honeymoon period - ond pa mor hir fydd hyn yn para? Jyst gofyn na gyd.

Ma gan y Ceidwadwyr oddeutu 200 sedd a ma angen tua 330ish i ennill, a ydw i yn iawn? Big ask...

Yn bersonnol - sa well da fi sefyllfa ble ma Brown yn ennill da mwyafrif bach o tua 20ish a llai fel nath y Ceidwadwyr neud yn 1992 a wedyn etholiad ar ol hynny - 2013 ish - y Ceidwdwyr yn ennill da mwyafrif mawr YN LLE ennill yr etholiad nesa o lleiafrif bach iawn ac wedyn risgio colli yr etholiad ar ol hynny a diodde hamering fel gwnaeth y Ceidwadwyr yn 97 a cael 10 blynedd+ arall o sosialaeth.

Wrth gwrs byddaf yn dathlu buddugoliaeth ir Ceidwadwyr os ennilliff yr etholiad nesa. Ond ni fyddai'n drychineb o bell ffordd cyn belled ein bod yn codi ein nifer o stoc AS i 250ish+...

Os colli fu'r hanes dwi yn meddwl fod angen plan B...a rhyw clause 4 moment mawr fel nath Blair i Lafur.


Dwi just isio gweld y Blaid yn ennill o leiaf 2 sedd - Ceredigion ac Ynys Mon yn nol a codi ei niferoedd mewn ardaloedd eraill.

Diom bwys genai am be mae'r gweddill yn neud i fod yn onest.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Yr Etholiad Cyffredinol nesaf

Postiogan Dylan » Maw 24 Gor 2007 3:32 pm

S.W. a ddywedodd: Dwi just isio gweld y Blaid yn ennill o leiaf 2 sedd - Ceredigion ac Ynys Mon yn nol a codi ei niferoedd mewn ardaloedd eraill.


ie wir. Byddai unrhyw beth llai na hynny'n siom anferthol

byddai pum sedd yn San Steffan yn record, ond swn i'n siomedig pe na chyflawnir hynny. Er mod i'n reit hoff o Albert Owen.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Pryderi » Maw 24 Gor 2007 4:56 pm

Gyda phob parch, bydd yna faterion mwy tyngydfenol yn yr etholiad cyffredinol nesaf na'r cwestiwn a all Plaid Cymru ail-gipio dwy sedd.

Os yw'r pleidiau llai am drechu dominyddiaeth y sustem ddau-bleidiol, yr unig ffordd ymlaen yw drwy iddynt gydweithio.

Dylai Plaid ildio i'r Dem Rhydd yng Ngheredigion. Yn drachefn, dylai'r Dem Rhydd gefnogi ymgeisydd Plaid ar Ynys Mon.
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Postiogan S.W. » Maw 24 Gor 2007 5:11 pm

Pryderi, am lol. Neith hynny ddim digwydd, ac i fod yn onest dwim yn meddwl dylse fo ddigwydd. Plaid Unoliaethol yw'r Dem Rhydd, pam sefyll i'r ochr i ymgeisydd Unoliaethol?

Petai ne ymgeisydd annibynol cryf yn sefyll a fyddai'n rhannu credu mewn yr hyn mae'r Blaid yn ei gredu ynddo ond am be bynnag reswm ddim yn aelod - ddim yn credu mewn gwleidyddiaeth pleidiol efallai byddwn yn fodlon cysidro sefyll i'r ochr. Ond i'r Eisteddfwyr Ffens? Dim ffiars o berryg!

Bydde'n ddiddorol gweld Ceidwadyr yn rheoli San Steffan a Llafur a PC yn rheoli Cynulliad, o ran gweld sut effaith a fyddai'n ei gael ar y cytundeb datganoli. Byddai hefyd yn ddifyr o ran gweld os byddai agwedd y Ceidwadwyr Cymru yn y Cynulliad yn newid os bydd eu meistri yn San Steffan yn arddl polisiau sy'n groes i'r Cynulliad. A fydden nhw mor brwd o blaid datganoli wedyn tybed?

Ond o ran pwy fyddai orau gen i Llafur, Ceidwadwyr neu'r Dem Rhydd yn rheoli San Steffan? Mae nhw i gyd mor ddrwg a'u giyldd yn fy marn i.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Ray Diota » Maw 24 Gor 2007 5:43 pm

Pryderi a ddywedodd:Dylai Plaid ildio i'r Dem Rhydd yng Ngheredigion.


:lol:

un clymblaid a ma pawb mo'yn cydweithio dros y siop i gyd :lol:
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan Pryderi » Maw 24 Gor 2007 6:35 pm

S.W. a ddywedodd:Pryderi, am lol. Neith hynny ddim digwydd, ac i fod yn onest dwim yn meddwl dylse fo ddigwydd. Plaid Unoliaethol yw'r Dem Rhydd, pam sefyll i'r ochr i ymgeisydd Unoliaethol?


Yn realistig, dim ond pleidiau Unoliaethol fydd yn ennill etholiadau San Staffan, p'run bynnag. Dydy annibyniaeth ddim hyd yn oed ar yr agenda ym Mae Caerdydd, heb son am yn San Steffan. Mae'r ffordd mae Plaid yn glynnu at ei dyheadau hanesyddol yn glodwiw iawn, ond does ganddi hi ddim gobaith (yn y tymor gweladwy, p'run bynnag) o wireddu'r freuddwyd o gael annibyniaeth.

Gall Cymry sydd yn chwilio am newid cyfeiriad ar ol yr etholiad nesaf geisio trechu'r sustem ddau-bleidiol drwy weithio ar y cyd.

Y dewis arall yw derbyn mai un o'r pleidiau a gefnogodd yr ymosodiad ar Irac fydd yn ennill y dydd.
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Postiogan Dylan » Maw 24 Gor 2007 7:20 pm

wel, Ceredigion siwr o fod ydi sedd lleia gobeithiol y Blaid Lafur ym Mhrydain gyfan. Hollol amherthnasol yng nghyd-destun unrhyw ymgyrch i drechu'r system ddwy-bleidiol.

syniad dwl beth bynnag
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan S.W. » Maw 24 Gor 2007 8:23 pm

Pryderi a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Pryderi, am lol. Neith hynny ddim digwydd, ac i fod yn onest dwim yn meddwl dylse fo ddigwydd. Plaid Unoliaethol yw'r Dem Rhydd, pam sefyll i'r ochr i ymgeisydd Unoliaethol?


Yn realistig, dim ond pleidiau Unoliaethol fydd yn ennill etholiadau San Staffan, p'run bynnag. Dydy annibyniaeth ddim hyd yn oed ar yr agenda ym Mae Caerdydd, heb son am yn San Steffan. Mae'r ffordd mae Plaid yn glynnu at ei dyheadau hanesyddol yn glodwiw iawn, ond does ganddi hi ddim gobaith (yn y tymor gweladwy, p'run bynnag) o wireddu'r freuddwyd o gael annibyniaeth.

Gall Cymry sydd yn chwilio am newid cyfeiriad ar ol yr etholiad nesaf geisio trechu'r sustem ddau-bleidiol drwy weithio ar y cyd.

Y dewis arall yw derbyn mai un o'r pleidiau a gefnogodd yr ymosodiad ar Irac fydd yn ennill y dydd.


Os ti'n edrych ar bwy sydd ar Stryd Downing y diwrnod ar ol yr Etholiad yna ia, pleidiau Unoliaethol neith ennill. Ond, i fi cyfrifoldeb Plaid Cymru ydy edrych ar yr etholiad o safblwynt Cymru a dim ond Chymru. Edrych ar gael mwyafrif pleidlais yma sy'n rhaid i Blaid Cymru ei wneud i lwyddo i gyraedd ei hamcanion. Mae llywodraeth Prydain yn dilyn yr egwyddor "os di mwyafrif pobl....isio annibyniaeth yna mi gawn nhw o". Wrth gwrs bydd Unoliaethwyr yn neud pob dim y gallent i sicrhau nad oes byth mwyafrif yn credu hyn, mae hynny'n gwbl naturiol.

Ond, sut mae Plaid Cymru yn hepgor etholiaeth ennilladwy fel Ceredigion yn mynd i fod o unrhyw gymorth o gwbl i'r Blaid? Petai ti'n dadlau y dylsen nhw hepgor Wrecsam dyweder i sicrhau Ynys Mon a Cheredigion yn yr etholaeth nesaf yna bydd gennyt rhyw bwynt. Ond hepgor sedd ennilladwy i drio ennill sedd ennilladwy (ond llai na Cheredigion)? Lol pur bydde penderfyniad mor wirion!
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Pryderi » Maw 24 Gor 2007 9:41 pm

Y rheswm i mi awgrymu Ceredigion yw bod honno'n sedd y mae'r Dem Rhydd yn gobeithio ei chadw yn yr etholiad nesaf. Mae Plaid Cymru yn gobeithio ad-ennill Ynys Mon ac ennill Llanelli yn senedd San Steffan. Pe bai'r ddwy blaid yn ymatal rhag ymladd yn erbyn ei gilydd yn y seddau mwyaf ennilladwy, byddai gobaith i Blaid Cymru wedyn i gipio seddau fel Ynys Mon, Llanelli ac yn y blaen oddi wrth Lafur.

Y canlyniad felly fyddai rhoi mwy o gynrhychiolaeth i'r pleidiau bychain ar draul Llafur.
Pryderi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 50
Ymunwyd: Sul 24 Meh 2007 11:07 am

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron