TOKYO

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

TOKYO

Postiogan The Man With Salt Hair » Maw 24 Gor 2007 12:01 pm

Dwi wedi bod yn obsessivly darllen llyfra 'lonely planet' am y ddinas a just a marw isho mynd. Joban ddrud os da chi isho neud hi mewn sdeil o be dwi di weld. Just fansi gwbod os oes rhiwyn wedi bod. 8)

Blade Runner ta be!
Delwedd
"If I am good I could add years to my life,I would rather add some life to my years" JP Spaceman.
Rhithffurf defnyddiwr
The Man With Salt Hair
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 10:48 am
Lleoliad: K-PAX

Postiogan dyfan » Maw 24 Gor 2007 2:42 pm

haili recomendid.

teimlo'n HOLLOL wahanol i unrhywle arall dwi erioed di bod.

nes i ddim ffeindio fe mor ddrud a hynny i ddweud y gwir. don't get me wrong, dyw e ddim yn rhad. 10 / 20 mlynedd yn ol rwy'n siwr ei fod e'n uffernol o ddrud, ond erbyn hyn ma gweddill dinasoedd mawr y byd wedi dal lan . fyddi di ddim yn sylwi fod e lot drytach na rhywle fel llundain

* ma modd cael cinio helaeth mewn lot o fwytai am ¥1000 (tua £4)
* llety yn ddrud, ond eto os wyt ti'n gwneud bach o ymchwil dim gwaeth na llundain
* ma yfed yn eitha drud, ond eto ma na fargeinion i gael (a cyfle i chwerthin ar y dynion busnes yn rolio rownd y lle - ma'n nhw'n genedl o lightweights ar y cyfan!)
* teithio o gwmpas y ddinas yn rhad (ar y subway) a, fel byddech yn disgwyl, yn rhedeg 'bang on time'!
* mantais mawr hefyd yw bod rhan fwyaf o'r pethe i weld yna am ddim (e.e. shrines, ardaloedd gwahanol). ychydig iawn o arian nes i wario i gael mynediad i bethe. un o'r ychydig bethau nethon ni dalu i fynd iddo oedd y mori tower - twr anhygoel yn roppongi hills. datblygiad gorllewinol iawn - ma'n siwr byddai well gan lot o fobl osgoi llefydd fel hyn wrth fynd i weld a dinas gyda gymaint i gynnig, ond roedd yr olygfa yn stunning!
Delwedd

cyfleoedd ym mhob man i wario arian sili ar unrhyw beth - bwyd, diod, dillad, gadgets. consumer nation go iawn!

es i mis Rhagfyr llynedd. er nad yw siapan yn wlad gristnogol, ma nhw'n mynd all out am nadolig - goleuadau addurniadol ym mhob man. fel lot o bethe gorllewinol, ma japan wedi cau mewn ar yr elfen commercial, ond roedd y lle yn edrych yn anhygoel gyda'r nos.

fe aethon ni ar gwpwl o day trips mas o tokyo - un i kamakura (hen brif ddinas siapan) a'r llall i mynydd fuji (a gweld dim o'r copa). ma lot o lefydd i weld o fewn rhyw awr neu ddwy ar y tren o tokyo sy'n werth gweld.
Rhithffurf defnyddiwr
dyfan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 49
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 8:07 pm

cool!

Postiogan The Man With Salt Hair » Maw 24 Gor 2007 7:39 pm

Diolch am yr wybodaeth Dyfan,Sbot on! Am faint o amser oeddach chdi yna? Lot yn son am y 'Mori tower' ma,wedi clwad bod o weth mynd. So syt oedd hi yn gwneud dy ffordd rownd y lle felly? Oedd on andd cal i lle oeddat ti isho mynd? Oeddat ti yn defnyddio tren(underground),taxi ta be?
"If I am good I could add years to my life,I would rather add some life to my years" JP Spaceman.
Rhithffurf defnyddiwr
The Man With Salt Hair
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 29 Ebr 2003 10:48 am
Lleoliad: K-PAX

Postiogan dyfan » Maw 24 Gor 2007 10:03 pm

dim ond wythnos o'n i yno yn anffodus. digonedd i gynnal pythefnos weden i, yn enwedig o ystyried yr holl day trips mas o'r ddinas ma modd gwneud.

ma'n werth mynd i'r mori tower - dyma fe yn y dydd:
Delwedd
ma na loads o siopau, bars, bwytai o'i gwmpas

pethe arall i wneud:
* marchnad bysgod tsukiji ben bore (ma'r lle'n agor bwti 3 fi'n credu). marchnad bysgod mwya'r byd. cyfle i weld pysgod enfawr yn cael eu gwerthu i fwytai japan a gweddill y byd, a stondinau yn gwerthu'r sushi mwya ffresh sydd modd cael!
* shibuya - y sgwar mawr enwog. leicester square / times sq tokyo. touristy falle, ond dal werth gweld.
* shrines a temlau di-ri
* ardal akihabara - gadgets a teganau cutting edge. lot o stwff dwl.

lot o argymhellion da fan hyn o glybiau nos / bars ayb> http://superfuture.com/city/city/city.cfm?city=1 un lle anhygoel - ageha. clwb da pwll nofio eu hunain - decadent!

o ran teithio, nethon ni ddibynnu ar y subway a'r trenau. cymharol rhad - siwrne sengl fel arfer ¥300-500 (£1.50-£2) os gofia i'n iawn. rhwydwaith enfawr o linellau gwahanol yn cael eu rhedeg gan ddau gwmni (jyst i gymlethu pethau). dyma'r map

Delwedd

:ofn: :ofn: :ofn:
system digon logical unwaith i ti ddod i'w ddeall

gethon ni ein rhybuddio i beidio defnyddio tacsis heblaw bod hi'n argyfwng, ond ddefnyddion ni nhw gwpwl o weithie ar ol bod mas gan bod y trenau yn gorffen rhedeg bwti hanner nos, a doedden nhw ddim mor ddrud a hynny i ddweud y gwir. (werth bob ceiniog er mwyn mwynhau drws y tacsi yn swingo ar agor yn awtomatig wrth iddo fe stopio i bigo chi lan!) :D

dim lot o saesneg yn cael ei siarad, ond ma pobl yn barod iawn i helpu, yn enwedig os wyt ti'n ymdrechi da bach o siapanaeg
Rhithffurf defnyddiwr
dyfan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 49
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 8:07 pm


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron