Pryderi a ddywedodd:Y rheswm i mi awgrymu Ceredigion yw bod honno'n sedd y mae'r Dem Rhydd yn gobeithio ei chadw yn yr etholiad nesaf. Mae Plaid Cymru yn gobeithio ad-ennill Ynys Mon ac ennill Llanelli yn senedd San Steffan. Pe bai'r ddwy blaid yn ymatal rhag ymladd yn erbyn ei gilydd yn y seddau mwyaf ennilladwy, byddai gobaith i Blaid Cymru wedyn i gipio seddau fel Ynys Mon, Llanelli ac yn y blaen oddi wrth Lafur.
Y canlyniad felly fyddai rhoi mwy o gynrhychiolaeth i'r pleidiau bychain ar draul Llafur.
Dwi'n meddwl byddai pobl Ceredigion yn anghytuno da ti ar y pwynt yna Pryderi. Ar ol colli'r set yn 2005 nes i weld pa mor galed wnaeth criw Plaid Cymru weithio dros yr ymgyrch am y cynulliad ym mis Mai a dwi'n dychmygu fydd yr un peth yn digwydd eto yn yr etholiad cyffredinol -
Dwi'n meddwl all Plaid Cymru yng Ngheredigion fanteisio ar y system ddwy bleidiol i ennill Ceredigion yn ol - Yn 2005 nath pobl droi at y Rhyddfrydwyr fel dewis arall yn hytrach na Llafur a'r Ceidwadwyr. Yn yr etholiad nesaf brwydyr rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr fydd hi ar lawr gwlad ac fydd y floating voters yr etholiad nesaf droi nol ar y ddwy Blaid dros y wlad a Phlaid Cymru fydd yn manteisio yng Ngheredigion - Dwi'n gweld y Rhyddfrydywr yn colli lot o dir dros Prydain gyfan yn yr etholiad nesaf