Pryderi a ddywedodd:Rwyt ti'n cyfeirio at y Beibl fel y sail i benderfynu beth sy'n bechod.
ydw, mae'r "pechod" rydw i'n gyfeirio ato wedi ei ddiffinio gan air Duw nid gan ddyn a nid gen ti na fi.
Pa adnodau yn y Beibl sydd yn dweud na all pobl hoyw ddim gwasanaethu yn y fyddin, neu enwebu rhywun o'r un rhyw fel next of kin, neu adrodd am droseddau homoffobaidd i'r heddlu heb ofn sarhad? Ymhle mae'r Beibl yn dweud ei fod hi'n bechod i blant cael eu dwyn i fyny gan ddau riant o'r un rhyw sydd wedi mynd drwy'r broses drylwyr o fabwysiadu? A beth yw'r pechod o gael amddiffyniad deddf sydd yn atal rhagfarn i wasanaethau na swyddi ar sail rhwyioldeb?
Nid 'pechodau' yw'r buddugoliaethau mae pobl hoyw wedi eu hennill dros y blynyddoedd ond hawliau sylfaenol mae pobl sydd ddim yn hoyw yn eu cymryd yn ganiataol.
Oes pwrpas trafod hyn ymhellach? Rwyf i'n cytuno a moesau y Beibl, yr wyt ti'n cytuno gyda moesau y byd/seciwlar (beth bynnag yw'r rheiny, pwy bynnag sydd yn eu llunio).
Os fydd asiantaethau mabwysiadu Pabyddol yn cau, ar bwy fydd y bai - pobl hoyw neu'r asiantaethau am gael agwedd mor gul?
Mae disgwyl i'r pabyddion roi plant at gartrefi hoyw yr un mor hurt a disgwyl iddyn nhw roi plant at gartrefi hindw, mwslim ayyb. mae'n groes i'w cred. Mae nhw'n bodoli i roi plant, sydd wedi bod trwy brofiadau anodd iawn, at deuluoedd addas Pabyddol h.y. cwpl priod (h.y. dyn a dynes) Pabyddol. Mae nhw'n gwneud gwaith ardderchog, yn rhoi cartrefi da iawn i'r plant.
Mae asiantaethau eraill yn rhoi plant i gwplau hoyw fel mae hi. Pam gorfodi'r Pabyddion i wneud hyn yn erbyn eu cred? Biti fod eu cred a'u gwaith nhw ddim yn cael ei barchu gan y ffasgwyr gwleidyddol gywir.
Y pobl gwleidyddol gywir sydd ddim yn parchu eu cred nhw sydd yn gyfrifol am eu gorfodi i roi'r gorau iddi. Peate nhw wedi rhoi exemption i'r asiantaethau ffydd fyddai dim problem.
Mae'n ormod o risg i nhw gario mlaen i weithredu fel mae nhw'n groes i'r ddeddf newydd gan fydda nhw'n darged gan ymgyrchwyr y lobi hoyw er mwyn dod ac achosion hostile costus yn erbyn yr Eglwys Babyddol.