Llafur am orfodi rhieni plant bach i weithio

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Llafur am orfodi rhieni plant bach i weithio

Postiogan Chris Castle » Maw 21 Awst 2007 1:50 pm

Pam dylai
Dili Minllyn a ddywedodd:miloedd o’r fath rieni [sydd ]yn gorfod derbyn rhyw swydd ddiflas ar gyflog pitw,
sydd ddim yn rhy snoblyd i weithio yn y swyddi sydd ar gael, yn Talu trethu i gadw y ddiog di-gywilydd ar y dol?
Sosiasiaeth = "i bawb yn ol eu hangen; oddi wrth pawb yn ol eu gallu"
Does dim hawliau heb cyfrifoldebau, gan gynnwys y cyfrifoldeb i weithio.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Blewyn » Maw 21 Awst 2007 5:58 pm

Owain Llwyd a ddywedodd:Am ryw reswm, dw i'n cael fy nghorddi yn fwy o lawer gan weld arian trethi yn mynd at bethau fatha sybsideiddio alcohol i Aelodau Seneddol neu brynu papur wal hurt o ddrudfawr i'r Arglwydd Ganghellor. Mae 'na hen ddigon o bobl ddigon breintiedig sy'n manteisio ar y system dipyn yn fwy na'r 'sbynjars' bondigrybwyll ar waelod y domen gymdeithasol, ond, am ryw reswm, dydi'r rheina ddim yn cael yr un sylw rownd-y-ffycin-rîl â'r mamau sengl aros-adra.

Achos nad yw bar rhad neu un neu ddau o filiau mawr o'r llywodraeth yn effeithio ar ein cymdeithas fel mae rhywbeth - megis arian am ddim i bobl sy'n planta - sy'n effeithio pawb. Dwi'm yn deud ei fod yn iawn fod yr AG wedi gwario'r fath swm ar ei bapur wal, ond mater ar wahan ydyw. Mae ceisio sefydlu rhyw fath o gyfartaledd moesol yn dangos mai cenfigen sydd tu ol i'r gwyn,a digon teg am hynny, ond tydy o ddim yn ymarferol i seilio polisiau ar deimladau o'r fath. Mi faswn i wrth fy modd gallu deud fy mod yn falch o dalu chydig bach mwy o dreth er mwyn cadw mamau ifainc a'i plant petae nhw'n bobl hyderus eisiau dysgu'r gorau i'w plant, er mwyn iddyn nhw gyfrannu at eu cymdeithas a gwneud y byd'ma'n well i bawb - d'oes dim yn gwneud dyn deimlo'n well na gallu cyfleu ar gyfer merched a plant. Ond y gwir yw mai os nad oes raid i bobl ymdrechu i ddarparu ar gyfer eu plant, y cyntaf a amlaf i blanta fydd y rhai sydd leiaf teilwng o'r fraint.

Well i mi gyfaddef ar yr adeg hon mai, gan fy mod yn byw tu allan o'r DU, 'chydig iawn o dreth dwi'n dalu. :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Re: Llafur am orfodi rhieni plant bach i weithio

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 24 Awst 2007 6:56 pm

Chris Castle a ddywedodd:Pam dylai
Dili Minllyn a ddywedodd:miloedd o’r fath rieni [sydd ]yn gorfod derbyn rhyw swydd ddiflas ar gyflog pitw,
sydd ddim yn rhy snoblyd i weithio yn y swyddi sydd ar gael, yn Talu trethu i gadw y ddiog di-gywilydd ar y dol?
Sosiasiaeth = "i bawb yn ol eu hangen; oddi wrth pawb yn ol eu gallu"
Does dim hawliau heb cyfrifoldebau, gan gynnwys y cyfrifoldeb i weithio.

Gwell i ti ddeall Marx cyn ei ddyfynnu. Roedd e'n deall yn iawn mai baich a diflastod yw gwaith am gyflog dan y drefn gyfalafol; profiad gwahanol iawn yw rhoi eich llafur yn rhydd er mwyn boddhad a gwasanaeth mewn cymdeithas gydweithredol o'r math roedd Marx yn gobeithio ei gweld.

Fel y rhan fwyaf o bobl y Blaid Lafur, Chris, rwyt ti'n fwy brwd dros fendithion cyfalafiaeth nag unrhyw Dori.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Llafur am orfodi rhieni plant bach i weithio

Postiogan Nanog » Gwe 24 Awst 2007 8:24 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:Gwell i ti ddeall Marx cyn ei ddyfynnu.


Nage fe o'r Beibl y daeth y geriau hynna? :)
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Llafur am orfodi rhieni plant bach i weithio

Postiogan Dili Minllyn » Sad 25 Awst 2007 7:34 am

Nanog a ddywedodd:
Dili Minllyn a ddywedodd:Gwell i ti ddeall Marx cyn ei ddyfynnu.


Nage fe o'r Beibl y daeth y geriau hynna? :)

Oes, mae rhywbeth tebyg yn Llyfr yr Actau.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Re: Llafur am orfodi rhieni plant bach i weithio

Postiogan Chris Castle » Sul 26 Awst 2007 11:59 am

Dili Minllyn a ddywedodd:
Chris Castle a ddywedodd:Pam dylai
Dili Minllyn a ddywedodd: profiad gwahanol iawn yw rhoi eich llafur yn rhydd er mwyn boddhad a gwasanaeth mewn cymdeithas gydweithredol o'r math roedd Marx yn gobeithio ei gweld.

Fel y rhan fwyaf o bobl y Blaid Lafur, Chris, rwyt ti'n fwy brwd dros fendithion cyfalafiaeth nag unrhyw Dori.


er fy mod i'n "semi-detached" o'r Blaid Lafur ar hyn o bryd, efallai dwi'n anghytuno a Marx.

Mae work ethic protestanaidd yn beth sosialaidd imi. Er fy mod i'n ardell syniadau marcsaidd weithiau dwi ddim yn Marcsydd o Gomiwnydd.

Mae barn 'da fi y mae uwchstrwythur (diwylliant) yn gallu creu amodau sy'n newid y seiliau economig. Mae gorfodi pobl i weithio mewn gwaith y gallen nhw gwneud yn hawdd yn debyg o greu ymwybyddiaeth dosbarth, trwy weithrediad ac addysg yr undebau.
Beth bynnag doedd dim amynedd 'da Marx gyda'r lumpen proletariat

Cofia byddaf i'n trethi a gorfodi gwaith go iawn ar y cyfoethog hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron