Owain Llwyd a ddywedodd:Am ryw reswm, dw i'n cael fy nghorddi yn fwy o lawer gan weld arian trethi yn mynd at bethau fatha sybsideiddio alcohol i Aelodau Seneddol neu brynu papur wal hurt o ddrudfawr i'r Arglwydd Ganghellor. Mae 'na hen ddigon o bobl ddigon breintiedig sy'n manteisio ar y system dipyn yn fwy na'r 'sbynjars' bondigrybwyll ar waelod y domen gymdeithasol, ond, am ryw reswm, dydi'r rheina ddim yn cael yr un sylw rownd-y-ffycin-rîl â'r mamau sengl aros-adra.
Achos nad yw bar rhad neu un neu ddau o filiau mawr o'r llywodraeth yn effeithio ar ein cymdeithas fel mae rhywbeth - megis arian am ddim i bobl sy'n planta - sy'n effeithio pawb. Dwi'm yn deud ei fod yn iawn fod yr AG wedi gwario'r fath swm ar ei bapur wal, ond mater ar wahan ydyw. Mae ceisio sefydlu rhyw fath o gyfartaledd moesol yn dangos mai cenfigen sydd tu ol i'r gwyn,a digon teg am hynny, ond tydy o ddim yn ymarferol i seilio polisiau ar deimladau o'r fath. Mi faswn i wrth fy modd gallu deud fy mod yn falch o dalu chydig bach mwy o dreth er mwyn cadw mamau ifainc a'i plant petae nhw'n bobl hyderus eisiau dysgu'r gorau i'w plant, er mwyn iddyn nhw gyfrannu at eu cymdeithas a gwneud y byd'ma'n well i bawb - d'oes dim yn gwneud dyn deimlo'n well na gallu cyfleu ar gyfer merched a plant. Ond y gwir yw mai os nad oes raid i bobl ymdrechu i ddarparu ar gyfer eu plant, y cyntaf a amlaf i blanta fydd y rhai sydd leiaf teilwng o'r fraint.
Well i mi gyfaddef ar yr adeg hon mai, gan fy mod yn byw tu allan o'r DU, 'chydig iawn o dreth dwi'n dalu.