Beth ddigwyddodd i etifeddiaeth Diana: Tywysoges Cymru?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Nanog » Maw 04 Medi 2007 8:04 pm

Roedd y rhaglen gynta' na' am y Fam Teresa yn chwerthinllyd.....'sgraping the bottom....' Dechrau trwy ymosod ar eu henw.....a Hitchens. Mae e' ar grusad yn erbyn crefydd. Beth oeddynt yn disgwyl yn Calcutta.....rhywbeth tebyg i'r Royal Free? Mewn rhaid gwledydd Asiaidd, does dim problem gyda' pobl i 'ahem' of flaen pobl arall. Hyd yn oed gwledydd sydd ddim yn trydydd byd. Ffwdanes i ddim wylio'r ail un......gan taw'r cyntaf sydd fel arfer yn gosod y safon.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Hirbeth » Gwe 07 Medi 2007 4:18 pm

Swn in licio deud de na pobl tlota' cymdeithas sydd rhan fwyaf o'r amser yn fwy parod i gyfrannu a rhoi pres i elusen- sgyno'r diawliaid cyfoethog ma yn y teulu brenhinol ddim syniad.Ma'r rheiny heb ddim yn lot fwy tebygol i roi. Angela's ashes yn llawn o enghreifftiau. Oedd diana yn hogan iawn chwara teg, bach yn loopy ddo.

Ar nodyn arall- nath rywyn wylio ffilm 'the queen'? On in meddwl bod hin blydi brilliant deu gwir, neud i'r frenhines edrych rel bitch ddo a tony bler fatha ryw saviour y teulu.
Rhithffurf defnyddiwr
Hirbeth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 12
Ymunwyd: Llun 11 Meh 2007 6:57 pm
Lleoliad: Caerdydd/Yr Wyddgrug

Postiogan Positif80 » Gwe 07 Medi 2007 4:24 pm

Jest er mwyn cloi'r ddadl am yr hen Teresa, mae arddull Penn and Teller yn gallu bod yn hallt, ond os wyt ti'n trafferthu gwrando ar y ffeithiau, mae sawl peth erchyll am y "santes".
Ysbytai fel y Royal Free? Na, ond eto doedd pobl ddim yn disgwyl i'r miliynau a roddwyd fynd i leianod ac i'r cleifion dioddef oherwydd fod hyn yn gwneud Teresa yn agosach i Dduw.
Roedd hi'n hoff o ddiodef.
A so what os oed gan Hitchens crusade yn erbyn crefydd os mai'r hyn mae o'n honni'n wir? A nid dim ond Hitchens oedd yn dadlau yn ei herbyn, ond awdur arall.
Mae addoli pobl fel hon a Diana yn dangos pa mor wirion mae pobl yn gallu bod. Pam fod yn drist am farwolaeth rywun gafodd bywyd hir, gweddol hapus neu glory hound ofnadwy o privileged nad oeddech yn ei nabod?
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Mali » Sad 08 Medi 2007 3:45 am

Positif80 a ddywedodd: Pam fod yn drist am farwolaeth rywun gafodd bywyd hir, gweddol hapus neu glory hound ofnadwy o privileged nad oeddech yn ei nabod?


Neu i ofyn cwestiwn arall....pam fod rhaid fod yn gas a chrafu o gwmpas er mwyn medru pardduo enw pobl sydd wedi gwneud gwaith da?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan rooney » Sad 06 Hyd 2007 12:04 am

Mali a ddywedodd:Neu i ofyn cwestiwn arall....pam fod rhaid fod yn gas a chrafu o gwmpas er mwyn medru pardduo enw pobl sydd wedi gwneud gwaith da?


hoffwn gynnig eglurhad
mae positif80, dylan, hitchens, dawkins a pobl tebyg gyda agenda gwrth-Gristnogol. Anodd dweud yn union beth yw achos eu chip nhw yn erbyn Iesu Grist, yr Eglwys fyd-eang, Cristnogion, y Beibl... anodd iawn dweud. Falle fod Cristion wedi dwyn eu uwd un tro? Pwy a wyr. (Yn amlach na pheidio, diddorol yw nodi fod y pobl yma wedi cael cefndir Cristnogol.)

Mae nhw'n mynd ati i ymgyrchu yn erbyn Cristnogaeth fel hyn:
1. Fe wnan nhw gefnogi unrhyw fudiad, plaid wleidyddol, unrhywbeth sydd yn mynd groes i'r Beibl. Mae nhw'n neidio ar y bandwagon seciwlar er mwyn tynnu Cristnogaeth allan o bob dim. Mae nhw am weld dylanwad y Beibl yn cael ei dynnu allan o'n cymdeithas yn llwyr, yn wir fe fydde nhw'n hapus pe bai'r Beibl yn cael ei wneud yn anghyfreithlon.
2. Fe wnan nhw fynd allan o'u ffordd i chwarae lawr a gwadu cyfraniadau positif Cristnogaeth tuag at unrhywbeth, a phardduo eglwysi ac unigolion. Gweler fod nhw'n ymgeisio i bardduo y Fam Teresa yn yr edefyn yma.

Cwestiwn: gwaith pwy mewn gwirionedd mae nhw'n ei wneud? Pwy mae nhw'n plesio, tybed?

Ond mae newydd da, newydd da iawn.... ond nid iddyn nhw, os yw nhw'n bwriadu cario mlaen i fod yn bengaled. Y newydd da yw, eu bod nhw'n cwffio yn erbyn Eglwys fyd-eang sydd ddim am ddiflannu, yn union fel nad yw'r bobl Iddewig heb ddiflannu er gwaethaf pawb a phopeth yn trio eu difa ers miloedd o flynyddoedd, a cofiwch mae nhw wedi dod trwy yr holocaust hyd yn oed. Mae Eglwys fyd-eang Crist am fod yma tan ddychweliad Crist. Wneith yr atheists na'r crefyddau eraill ddim llwyddo i'w ddymchwel. Nid yw'r Beibl yn honni y bydd pawb yn troi at Grist, ddim o gwbl! Fe fydd llawer yn ei wrthod, llawer yn ei erlid. Yn y pendraw, brwydro yn erbyn eu hunain mae'r pobl yma. Mae nhw'n spinio popeth, camddehongli popeth, er mwyn trio cyfiawnhau eu hunain... ond wneith eu "rhesymeg" ddim eu achub. Gweddiwn y bydd y gwir, yr unig wir, yn dod i'r amlwg iddynt, y ffeindia nhw ostyngeidrwydd i'w dderbyn, ac y ceith nhw droedigaeth fel Paul ar y lon i Ddamascus.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Macsen » Sad 06 Hyd 2007 11:03 am

£10m o bres y cyhoedd wedi ei wario ar inquest dibwynt! Petai'r holl bres sy'n cael ei wario ar y teulu brenhinol yn mynd i elusen yn lle fe fyddai'n gwneud lot mwy o les na lwyddodd Diana.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dylan » Sad 06 Hyd 2007 12:08 pm

rooney a ddywedodd:hoffwn gynnig eglurhad
mae positif80, dylan, hitchens, dawkins a pobl tebyg gyda agenda gwrth-Gristnogol. Anodd dweud yn union beth yw achos eu chip nhw yn erbyn Iesu Grist, yr Eglwys fyd-eang, Cristnogion, y Beibl... anodd iawn dweud. Falle fod Cristion wedi dwyn eu uwd un tro? Pwy a wyr. (Yn amlach na pheidio, diddorol yw nodi fod y pobl yma wedi cael cefndir Cristnogol.)


be

mae gen i agenda gwrth-ofergoeliaeth yn gyffredinol. Os ydi o unrhyw gysur i ti, dw i'n casáu Islam yn fwy na Christnogaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sad 06 Hyd 2007 1:33 pm

Dylan a ddywedodd:mae gen i agenda gwrth-ofergoeliaeth yn gyffredinol. Os ydi o unrhyw gysur i ti, dw i'n casáu Islam yn fwy na Christnogaeth.


ofergoel? dyna beth ti'n feddwl o hanes Israel a'r Iddewon?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sad 06 Hyd 2007 1:44 pm

wel ia siwr.

onid dyna wyt ti'n ei feddwl o hen straeon y Groegiaid hefyd?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sad 06 Hyd 2007 2:52 pm

gwadu hanes pobl ddim yn beth neis... wyt ti'n wrth-semetig? a beth os wyt ti'n anghywir?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai

cron