1. Pwy sy’ fwya’ tebygol o lwyddo?
Mae gen i ambell ffrind sydd wedi cael cynnig swyddi gan investment banks eisoes, felly un o'r rheiny, siwr o fod.
2. Pwy sydd â’r llygaid mwyaf pert?
Billy - llygaid maaawr.
3. Pwy yw’r pâr mwyaf ciwt?
Tom a Duncan, ond dwi ddim yn gweld llawer ohonyn nhw bellach, felly Dan a Fiona er bod cannoedd o filltiroedd rhyngddyn nhw ar hyn o bryd (maen nhw'n fwy ciwt trwy Skype, os rhywbeth).
4. Pwy sydd wedi newid fwya’?
Rich. Dim ond o siop y gornel fyny'r allt i'r Brifysgol, ond cam llawer yn fwy na hynny mewn gwirionedd.
5. Pwy yw’r person mwya’ gîcllyd?
Waw, lot o gystadleuaeth am yr un yma. Alice, mwy na thebyg - methu mynd mwy na chwarter sgwrs heb gymharu faint o waith mae hi wedi'i wneud gyda rhywun arall.