1. Pryd oedd y tro diwethaf i chi ddihuno ganol nos (a beth oedd y rheswm)?
Pwy nosweth. Y gath yn rhoi ei bawen yn 'y ngheg i yn mynnu cael ei fwydo.
2. Beth oedd y freebie diwethaf i chi dderbyn?
Enilles i gopi o Half Nelson mewn cystadleuaeth S&S.
3. Pa mor aml ‘ych chi’n torri eich gwallt?
Bob ryw fis, gyda fy nghlippers fy hun.
4. Pa mor aml ‘ych chi’n siopa bwyd?
Gweddol aml. Newydd ddod nol o'r farchnad fel mae'n digwydd, gyda chynhwysion cawl i bobl sy'n dod draw heno i wylio arwyr glan De Affrica yn trechu lluoedd Orcs Lloegr.
5. Pe bai chi’n rhedeg ‘ffwrdd o adref, i ble fyddech chi’n mynd?
I Ffrainc, fel Stephen Fry.