rheola newydd y PRS

Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu.

Cymedrolwr: Norman

Rheolau’r seiat
Unrhyw beth "cerddorol" arall gan gynnwys Clecs a Chynhyrchu. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

rheola newydd y PRS

Postiogan Be_ddiawl » Maw 23 Hyd 2007 5:35 pm

rywin arall yn cytuno hefo fi bod rheola newydd y PRS yn hollol 'racist'

90% allan o bob proffit mae bandiau cymraeg yn gwneud a hefyd bandiau dramor

ond mae bandiau saeneg yn gael yr 100% llawn

dyna be rydw i wedi clywad

ydion wir? ne dwi d gamddallt?
Rhithffurf defnyddiwr
Be_ddiawl
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 137
Ymunwyd: Maw 14 Meh 2005 5:04 pm
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Postiogan Dai dom da » Maw 23 Hyd 2007 6:40 pm

Ie ti'n reit. Disaster, total disaster. Sain credu bod e'n ddim byd 'racist' ddo.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan Gruff_Fedwen_Arian » Maw 23 Hyd 2007 7:22 pm

Be fysa chdi'n galw'r peth, pan ma pobl yn cael eu ffwcio drosodd am bod nhw'n siarad iaith gwahanol?
Be ddiawl sydd di digwydd?!
"Math! Tyrd yn ol! Fy ffrog i yw honna!"
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff_Fedwen_Arian
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 57
Ymunwyd: Iau 10 Tach 2005 4:32 pm
Lleoliad: Llangernyw/Llanrwst

Postiogan Gai Toms » Iau 25 Hyd 2007 10:51 am

Job Centre! Ma nhw (PRS) wedi deud -
"PRS takes the concerns of its members very seriously and recognises the very real issues you have raised with us"
Mae na gyfarfod am ddigwydd wythnos nesa' yn ol y son. Ar ol hynny ga'i benderfyny os dwi am gael job 9-5 ta be. Ond dwi'm yn meddwl na hiliaeth dio, ma Regional Radio's eraill etc yn chael hi hefyd! Ond y peth ydi, nid 'region' ydi Cymru nage! Biwrocratiaeth / Maths / £££££???? Prydeinig. Ond yng Nghymru mae diwydiant cyfa yn y fantol i'w gymharu a ee Radio York heb son am ei effaith ar y diwylliant. Full time hobby amdani! A falla neud album Saesneg i dalu bills... os gaiff ei chwara ar Radio 1 neu 2!!!!!! Cychwyn y CHBC (Cymdeithas Hawliau i Berfformwyr Cymraeg) neu y WPRS gyda radio Wales (Cymry Di-Gymraeg) a ballu.

Just when I thought I was gonna get a nice pension, the zimo collapses!
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...

Postiogan Jakous » Iau 25 Hyd 2007 1:14 pm

Sut mae hyn yn gyfreithiol bosib? Oes 'na rhywyn am fynd a hyn i'r cwrt, ta admit defeat?
"If senses fail, then thoughts prevail."
Rhithffurf defnyddiwr
Jakous
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 315
Ymunwyd: Maw 20 Medi 2005 9:26 pm
Lleoliad: Y Byd

Postiogan Nei » Iau 25 Hyd 2007 1:26 pm

alla i rhywun fy mwyntio at y deisebau sydd wedi'u creu yn erbyn y datblygiad yma os gwelwch chi'n dda? Mae angen i ni gyd sgrifennu at PRS hefyd i wneud ein pwynt yn glir.
Me meus nemed naou miz da roul va yaounkiz...
Rhithffurf defnyddiwr
Nei
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 235
Ymunwyd: Llun 27 Hyd 2003 6:37 pm
Lleoliad: Pontypridd

Postiogan Dyl mei » Iau 25 Hyd 2007 2:29 pm

dwim yn meddwl dim byd hiliol ydio, just di newid rheola ma nhw, dwi yn personol ddim yn gweld nhwn mynd nol ar ei dewis yn anffodys. collad
mawr i lot o pobol. a fel udodd gai toms, ella canu yn iaith fain fydd yr unig fordd o neud cash i artistiad cymraeg....
Rhithffurf defnyddiwr
Dyl mei
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1068
Ymunwyd: Maw 07 Ion 2003 7:01 pm

Postiogan Gai Toms » Iau 25 Hyd 2007 3:46 pm

Nei a ddywedodd:Mae angen i ni gyd sgrifennu at PRS hefyd i wneud ein pwynt yn glir.


Wedi sgwennu llythyr personol, fel aelod, at Steve Porter via Joanne Prowse. Pawb arall i wneud hefyd!
Gai Toms
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Maw 14 Awst 2007 3:29 pm
Lleoliad: Dibynnu lle ydw i...

Postiogan gwglwaciwr » Llun 29 Hyd 2007 9:06 pm

Annwyl Gyd-aelodau o'r PRS,
mae'n debyg nad oes angen imi ddweud wrthych fod?taliadau PRS wedi gostwng yn sylweddol iawn.? Mae hyn oherwydd y?modd?y mae'r PRS yn penderfynu sut i ddosbarthu eu harian "allocations", h.y.? yr arian a ddosberthir am y defnydd o ganeuon mewn pob math o sefydliadau, clybiau, discos a thafarndai ac ati, a hynny ar sail y traciau a ddarlledir ar y radio. Gan fod Radio Cymru bellach yn cael ei ystyried ar wahan, mae'r "allocations" wedi disgyn allan fel petai, ac o ganlyniad, mae'r rhan fwyaf ohonom sy'n dibynnu ar Radio Cymru am chwarae ein caneuon wedi gweld lleihad o hyd at 90% yn ein derbyniadau.

Oherwydd difrifoldeb y sefyllfa, a'r bygythiad i'r holl ddiwydiant cerddorol Cymraeg, rhaid inni weithredu gyda'n gilydd, a hynny ar unwaith. Mae ein grym ni yn deillio'n bennaf o'r ffaith na all Radio Cymru fodoli heb ein cynnyrch, na chynnwys cerddorol S4C ychwaith, a rhaid inni herio'r penderfyniad hwn o du PRS. Pe baem yn tynnu allan o'r PRS, byddai'n rhaid i Radio Cymru a phawb arall negodu telerau newydd gyda ni cyn y gellid defnyddio'n?gweithiau, a gallem wneud hynny naill ai fel corff annibynnol, neu fel unigolion, neu fel rhan o gorff arall (megis, er enghraifft, IMRO yn Iwerddon).

Rydym wedi gweithredu fel ffrynt ar ran cyhoeddwyr cerddoriaeth o'r blaen, ond y mae'r bygythiad cynddrwg y tro hwn fel bod yn rhaid taflu'r rhwyd ymhellach, a gobeithio felly y byddwch yn fodlon rhoi eich enw wrth y llythyr a atodir wrth y neges hon. Rhowch eich enw, enw eich cwmni neu eich enw proffesiynol, a'ch cyfeiriad e-bost os ydym wedi eich cyrraedd yn anuniongyrchol, a'i ddychwelyd at dmr@sainwales.com
Byddem yn ddiolchgar o gael eich ymateb?cyn?gynted?⠰hosib, ac os yn bosib, erbyn Hydref 19eg fan bellaf.? Byddwn hefyd yn ddiolchgar petai modd i chi anfon yr e-bost hwn ymlaen?at unrhyw aelod arall o PRS fyddai'n debygol o gael ei effeithio gan y penderfyniad hwn.

Newydd gael hwn trwy e-bost
Rhithffurf defnyddiwr
gwglwaciwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 14 Chw 2007 6:37 pm
Lleoliad: Ar Gwgl (wrth gwrs)!

Postiogan Eric Young » Iau 08 Tach 2007 10:16 am

Hacio, heno 10.30yh - gawn ni weld safon "investigative journalism" HTV
Eric Young
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 73
Ymunwyd: Sad 31 Ion 2004 9:37 pm

Nesaf

Dychwelyd i Cell Gymysg Gerddorol

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai