gan Jeni Wine » Gwe 26 Hyd 2007 2:16 pm
a rwan dwi am drio atab mewn ffordd fydd yn neud i mi swnio fatha person diddorol
1. Losin neu lanast (trick or treat) - p’un fyddwch chi’n ei roi?
Ho ho ho, dwi'n cofio un tro pan o'n i'n hogan bach... acshyli, na, sgenaim mynadd.
Dwi'm yn meiddio rhoi afal/oren i blant Llan, cofn iddyn nhw chwara nocdors arnan ni bob dydd am weddill f'oes, felly dwi'n ffendio'n hun yn rhoi newid man iddyn nhw. Nes nad oes gen i ddim newid man ar ol, wedyn dwi'n goro rhoi ffiffti-pis a punnoedd iddyn nhw : ofn :
2. Calan gaeaf, neu ch’lennig - p'un sy' orau 'da chi?
Calennig achos ma na deimlad fresh, newydd sbon danlli grai iddo fo. Neu ella na'r cyffuriau yn dal i fod yn y system ers y noson gynt ydi hynna.
3. Sut ‘ych chi’n cadw’n gynnes yn y tywydd oer ‘ma?
Ciw rant am pa mor ffwcedig o ddrud ydi olew.
4. Oes gyda chi hoff gân oddiar hysbyseb?
Dwi'm yn ffan o hysbysebion achos mae nhw'n difetha caneuon, ond dwi yn licio 'Just Another Diamond Day' Vashti Bunyan (hysbyseb vodafone?) a 'Aint Got No/I Got Life' Nina Simone ar yr hysbyseb Muller na.
5. Ble mae Gwahanglwyf Dros Grist, a pam nag yw e wedi sgwennu 'pump am y penwythnos' ers deufis?
Gwerthu ei geilliau i Gymdeithas y Deillion
Aimable petite conne