S.W. :
Dyfyniad:
Wnes i'm dweud y dylid gwahardd pobl rhag pleidleisio petae refferendwm yn cael ei gynnal SW..
Do. Fama:
Dyfyniad:
Beth sydd o'i le efo deud dy fod ddim yn gwybod yr ateb ac felly byset ti ddim yn pleidleisio ?
Na SW. Cwestiwn yw'r uchod sydd yn gofyn beth sydd o'i le efo person yn dewis peidio pleidleisio am nad ydynt yn deall y cwestiwn. Mae hyn yn amlwg or defnydd o 'byset ti ddim' yn hytrach na 'chei di ddim'. D'oes dim awgrym o waharddiad.
Blewyn, dyma ni eto "dim yn dallt". Nath neb ddweud bod nhw'm yn dallt y maes o gwbl. Be ti'n ddweud ydy bod angen dallt system cyfraddau llog i ddallt a ddylid neu naddylid defnyddio'r Ewro. Dwim yn dallt cyfradau llog, ac i fod yn gwbl onest, dwim isio dallt cyfraddau llog chwaith. Dwi wedi seilio fy marn i ar bethau eraill. Pethau mwy emosiynol os lici di. Di hynny ddim yn neud nhw'n llai cyfiawn nag seilio fy marn ar syms.
Os di rhywun hefo barn, diom bwys sut bod hynny wedi ei seilio cyn belled bod modd iddynt ei amddiffyn yna mae hynny'n berffaith gywir.
O ran dy ail bwynt. I redeg rhywbeth yn effeithiol, o bryd iw gilydd mae refferendwm yn rhywbeth defnyddiol. Mae'n sicrhau bod y torfeydd yn cefnogi penderfyniad - boed o blaid neu beidio. Diom byd iw wneud a'r 'great unwashed' fel ti'n rhoi o.