Ie i'r €uro!

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Euro i Brydain? Mmm?

Ie!
38
63%
Naaaaa!
16
27%
Ddim yn bothered.
6
10%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 60

Postiogan S.W. » Maw 24 Ebr 2007 4:15 pm

S.W. :
Dyfyniad:
Wnes i'm dweud y dylid gwahardd pobl rhag pleidleisio petae refferendwm yn cael ei gynnal SW..

Do. Fama:

Dyfyniad:
Beth sydd o'i le efo deud dy fod ddim yn gwybod yr ateb ac felly byset ti ddim yn pleidleisio ?


Na SW. Cwestiwn yw'r uchod sydd yn gofyn beth sydd o'i le efo person yn dewis peidio pleidleisio am nad ydynt yn deall y cwestiwn. Mae hyn yn amlwg or defnydd o 'byset ti ddim' yn hytrach na 'chei di ddim'. D'oes dim awgrym o waharddiad.


Blewyn, dyma ni eto "dim yn dallt". Nath neb ddweud bod nhw'm yn dallt y maes o gwbl. Be ti'n ddweud ydy bod angen dallt system cyfraddau llog i ddallt a ddylid neu naddylid defnyddio'r Ewro. Dwim yn dallt cyfradau llog, ac i fod yn gwbl onest, dwim isio dallt cyfraddau llog chwaith. Dwi wedi seilio fy marn i ar bethau eraill. Pethau mwy emosiynol os lici di. Di hynny ddim yn neud nhw'n llai cyfiawn nag seilio fy marn ar syms.

Os di rhywun hefo barn, diom bwys sut bod hynny wedi ei seilio cyn belled bod modd iddynt ei amddiffyn yna mae hynny'n berffaith gywir.

O ran dy ail bwynt. I redeg rhywbeth yn effeithiol, o bryd iw gilydd mae refferendwm yn rhywbeth defnyddiol. Mae'n sicrhau bod y torfeydd yn cefnogi penderfyniad - boed o blaid neu beidio. Diom byd iw wneud a'r 'great unwashed' fel ti'n rhoi o.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Madrwyddygryf » Llun 19 Tach 2007 7:31 pm

Mae pethau yn edrych ar i fyny i'r Euro. Mae'r Dollar yn colli ei werth ac mae'n cael ei weld fel y cyfred arian 'caled'. Mae hyd yn oed Jay-Z yn hoffi flashio nhw yn ei video newydd.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Jon Bon Jela » Llun 19 Tach 2007 8:37 pm

Ydy, mae mwy o glowt iddi ar hyn o bryd, ac os fydd OPEC yn newid ei arian "default" i'r €uro, a China yn delio a hi yn bennaf - bydd pethau wedi canu ar y doler am byth.
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan Blewyn » Maw 20 Tach 2007 11:38 am

S.W. a ddywedodd:Dwi wedi seilio fy marn i ar bethau eraill. Pethau mwy emosiynol os lici di. Di hynny ddim yn neud nhw'n llai cyfiawn nag seilio fy marn ar syms.

Wrth gwrs ei fod ! Fysa ti'n mynd at llawfeddyg sy'n seilio ei farn am dy afiechyd ar bethau emosiynol yn hytrach na bioleg ?

:? :? :?
o bryd iw gilydd mae refferendwm yn rhywbeth defnyddiol. Mae'n sicrhau bod y torfeydd yn cefnogi penderfyniad

Pwy mae hyn yn helpu ? Ydy o'n hybu penderfyniadau cywir - ta rhoi esgusodion ar blat y gwleidyddwyr ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Nanog » Maw 20 Tach 2007 8:09 pm

Madrwyddygryf a ddywedodd:Mae pethau yn edrych ar i fyny i'r Euro. Mae'r Dollar yn colli ei werth ac mae'n cael ei weld fel y cyfred arian 'caled'. Mae hyd yn oed Jay-Z yn hoffi flashio nhw yn ei video newydd.


Mae'n ddrwg 'da fi ddweud wrthot ond rwyt ti'n edrych ar un darn back or jig-saw. Ti'n iawn i ddweud fod yr Euro yn cryfhau yn erbyn y dollar. Mae'r un peth yn wir am y bunt....h.y. yn cryfhau erbyn y dollar. Mae hi hefyd yn gwanhau erbyn yr Euro. Ond, dim ond darnau o bapur yw bob un ononynt yn y pen-draw. I gael mwy, dyna gyd sydd eisie gwneud yw troi''r peiriant argraffu 'mlan. Un o'r sgams mwya sy'n bodoli ond sydd ddim yn cael ei drafod ar y prif gyfryngau. Beth ydw i mlan o biti? Mae un stor o werth yn ennill tir erbyn y cwbwl lot. Gwybod beth?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Blewyn » Mer 21 Tach 2007 9:22 am

Nifer ohonynt - olew, dur, glo, tir, dwr (mi ddoith medda nhw)......

Pethau'n edrych yn OK i Gymru.....OS gawn ni annibyniaeth !
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan S.W. » Sad 24 Tach 2007 8:47 am

Blewyn a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Dwi wedi seilio fy marn i ar bethau eraill. Pethau mwy emosiynol os lici di. Di hynny ddim yn neud nhw'n llai cyfiawn nag seilio fy marn ar syms.

Wrth gwrs ei fod ! Fysa ti'n mynd at llawfeddyg sy'n seilio ei farn am dy afiechyd ar bethau emosiynol yn hytrach na bioleg ?

:? :? :?
o bryd iw gilydd mae refferendwm yn rhywbeth defnyddiol. Mae'n sicrhau bod y torfeydd yn cefnogi penderfyniad

Pwy mae hyn yn helpu ? Ydy o'n hybu penderfyniadau cywir - ta rhoi esgusodion ar blat y gwleidyddwyr ?


Dyma ni eto 'blurrio issues'. Dwi'm yn siarad am lawfeddyg dwi'n siarad am ffurfio barn. Dau beth hollol hollol wahanol. Genai hawl ffurfio fy marn ar fater fel hwn, does dim rheidrwydd arnaf i ffurfio barn yn union yr un modd a ti (nag vice-versa).

O ran cynnal refferendwm. Enghraifft dda o pryd gall weithio ydy gyda Cyfansoddiad Ewrop. Gyda refferendwm be bynnag y canlyniad bydd hi'n amhosib i unrhyw un o'r ddau ochr ddadlau yn ei erbyn - "mae'r mwyafirf wedi siarad". Gall rhoi sefydlogrwydd i syniad.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Blewyn » Llun 26 Tach 2007 8:59 am

S.W. a ddywedodd:Dyma ni eto 'blurrio issues'. Dwi'm yn siarad am lawfeddyg dwi'n siarad am ffurfio barn.

Beth yw 'diagnosis' ?

Y rwdlyn.
O ran cynnal refferendwm. Enghraifft dda o pryd gall weithio ydy gyda Cyfansoddiad Ewrop. Gyda refferendwm be bynnag y canlyniad bydd hi'n amhosib i unrhyw un o'r ddau ochr ddadlau yn ei erbyn - "mae'r mwyafirf wedi siarad".

Mae'na ddadl o blaid refferendwm i unrhyw fater sy'n golygu newid y cyfansoddiad - ond yn fy marn i t'ydy hyd yn oed refferendwm felly ddim yn weithred doeth, wedi ei resymu. Gweithred ydyw sydd wedi tyfu o'r syniad fod gan ddyn hawl i ddeud pwy mae o'n dilyn, syniad o oes y brenhinoedd. Y ffaith syml amdani yw nad oedd gan y rhan fwyaf o'r bobl a bleidleisiodd yn y refferendwm honno syniad o gwbl am y mater. Gwell petae'r llywodraeth wedi cyfuno comisiwn o ddeallusion o bob cwr i gyrraedd penderfyniad rhesymegol.
S.W. a ddywedodd:Gall rhoi sefydlogrwydd i syniad.

Eglura hynna, os gweli di'n dda......?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan S.W. » Llun 26 Tach 2007 3:03 pm

Blydi hell, ma ni eto. Dwi di egluro yn barod, ti sydd methu (neu gwrthod efallai? ) gweld o'n glir o dy flaen di.

Mae gwahaniaeth enfawr rhwng seilio barn yn y cyd-destyn yma a mynd at lawfeddyg. Hynny'n ddigon blydi amlwg. O iwsio dy logic di dytlswn ni symud i ffwrdd o democratiaeth yn gyfan gwbl a rhoi'r hawl i benderfynu ar wleidyddiaeth yn nwylo'r 'deallusion'. Dwi'n seilio fy marn i ar bethau drwy ddehngli sut byddai'n effeithio ar yr hyn sy'n bwysig i fi. Dwi wedyn yn pleidleisio ar sail hyn. Mae person arall yn neud ei feddwl i fyny mewn ffordd sy'n bwysig iddo fo neu hi.

Dwi'n credu yn bersonol bod yr Ewro'n syniad gwael gan ei fod yn cymryd rhan o 'identity' gwlad dwi yn bersonol yn ei hoffi pan fyddaf yn teithio - arian ar wahan. Bydd person arall yn credu mae economeg dylsai fod sail i dderbyn neu wrthod yr Ewro. Wrth ateb y cwestiwn "Ydych chi'n dymuno cael yr Ewro fel arian Cymru/Prydain", mae'r ddau yn resymeg derbyniol iw wrthod.

Refferendwm - mae o YN gallu dod a sefydlogrwydd i rhywbeth (mae o hefyd yn gallu dod ag ansefydlogrwydd gan ddibynnu ar y canlyniad wrth reswm). Mae hynny'n glir iw weld. Os ydy'r llywordraeth am newid rhywbeth sy'n destyn dadl yna mae rhoi'r peth yn nwylo'r cyhoedd yn gallu tynnu'r ddadl "mynd yn groes i ewyllus y bobl" allan yn llwyr.

Byddai cael 60%+ yn pleldleisio o blaid rhywbeth e.e. Cyfansoddiad Ewrop yn godi dau fys enfawr ar pobl yn dadlau nad ydy pobl am weld Cyfansoddiad Ewrop. Yn hynny o beth byddai'n rhoi sefydlogrwydd i gynllun gan ddangos yn glir bod y cyhoedd ar y cyfan wedi cytuno a nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Madrwyddygryf » Llun 26 Tach 2007 7:34 pm

Dwi erioed wedi hoffi syniad o gael refferendwm ar bethau. Teclyn eithaf amrwd yw hi yn y bôn. Mae’n well genni pe bai’r mater yn cael ei drafod a'i phenderfynu gan ein cynrychiolwyr yn Nhŷ’r Senedd.

Dwi fy hyn ddim yn gweld bydd yr Ewro yn cael ei gyflwyno o fewn 10 mlynedd nesaf. Pan lansiwyd yr Ewro yn 2002, roeddwn yn credu buasai’r Ewro wedi dod i’r wlad ma’ erbyn 2010. Ond mae’r ddadl wedi cilio erbyn hyn a dyw’r ddwy brif blaid ym Mhrydain gyda llawer o awch i ddechrau trafod y syniad achos yr holl dwrw a grëir. Yr unig reswm y gwelai i fydd yn digwydd yw sefyllfa lle byddai’n hanfodol i Brydain ymuno a’r ardal yr Ewro.

Dwi wedi gweld y fantais yn barod y flwyddyn hon pan es i Iwerddon yn fis Mawrth i weld Cymru yn chwarae Iwerddon a chadw’r unrhyw Ewros ar ôl genni ar gyfer taith i’r Almaen yn fis Mehefin ac wythnos diwethaf. Gennyf Ewros ar ôl y daith yna hefyd ac felly dwi’n gallu defnyddio nhw pan ddwi’n mynd drosodd i Antwerp yn y flwyddyn newydd.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai