S.W. :
Mae gwahaniaeth enfawr rhwng seilio barn yn y cyd-destyn yma a mynd at lawfeddyg. Hynny'n ddigon blydi amlwg.
Eglura fo ta genius - sut bo cwestiwn meddygol yn wahanol i gwestiwn economeg/gyfansoddiadol ?
Wel os ti angen help hefo'r cwestiwn yne ti angen mwy o help nag o ni di meddwl.
Swn i'm yn meddwl gofyn i Nain os dylswn i gael operation ar fy nghefn achos does gen hi'm cliw ynglyn ag edrych ar ol cefnau. Ond fel person sy'n byw ym Mhrydain ac yn cael ei phensiwn mewn £oedd byddai perffaith hawl ganddi ddweud "dwi isio cael Ewro neu dwi'n licio cadw'r £.
Dyfyniad:
O iwsio dy logic di dytlswn ni symud i ffwrdd o democratiaeth yn gyfan gwbl a rhoi'r hawl i benderfynu ar wleidyddiaeth yn nwylo'r 'deallusion'.
Sut felly ?
Ti isio i bethau fel yma cael ei benderfynu gan yr economegwyr ayyb. Wel os felly does dim terfyn ar hynny - pwy benderfynith ar ba blaid fyddai orau? Y 3 Gwr Doeth?
Dwi'n seilio fy marn i ar bethau drwy ddehngli sut byddai'n effeithio ar yr hyn sy'n bwysig i fi. Dwi wedyn yn pleidleisio ar sail hyn.
Iesu Goc mae'na rwdls ar maes-e !! Wyt ti'n seilio dy farn nelo problem efo dy beipiau ar be ti'n ddeall (chydig, siawns) wedyn gwneud pleidlais am y peth, ta ti'n codi dy ffon a galw'r plymar ?
Be? Wyt ti off dy ben? Dwi'm yn siarad am peips yma'r idiot? Siarad dwi am pa arian sydd gennym ni yma dim byd arall.
Di'r gallu gen ti i drafod issue yma yn lle trio 'blurrio' ar goll gen ti?
Da ni ddim yn dadlau modd o ffurfio barn SW, dadlau ydym pa gwestiynnau y dylid eu hateb ein hunain a pa gwestiynnau y dyliwn eu hateb drwy ofyn y deallusion.
Ti sy'n dadlau nhw nid fi. Dan ni'm yn dadlau am meddygon na plymars chwaith, ti sy'n codi nhw i drio profi pwynt. "trio" ydy'r gair gorau am wn i.
Os wyt ti am seilio'r Ewrop i Brydain ar sail economeg yn unig wel wrth reswm y dadl economaidd dylid ei drafod. Ond pam bod angen iddo fod yn ecsgliwsif ar economeg? Does ffwc o ddiddordeb gen i mewn economeg achos does dwi'm yn ddallt o. Ond dwi yn credu bod arian wedi ei reoli ar raddfa gwladwriaeth yn hytrach nag lefel trawswladwriaethol yn beth gwell. Dim econemeg, gwleidyddiaeth di hynny.
Dyfyniad:
Refferendwm - mae o YN gallu dod a sefydlogrwydd i rhywbeth (mae o hefyd yn gallu dod ag ansefydlogrwydd gan ddibynnu ar y canlyniad wrth reswm). Mae hynny'n glir iw weld. Os ydy'r llywordraeth am newid rhywbeth sy'n destyn dadl yna mae rhoi'r peth yn nwylo'r cyhoedd yn gallu tynnu'r ddadl "mynd yn groes i ewyllus y bobl" allan yn llwyr.
A be ddiawl mae hyn yn gyflawni ? Ydy o'n gwneud y canlyniad yn gywir ? Na. T'ydi osgoi bai neu lleihau dadlau ddim yn datrys problemau SW !
Ydy o'n neud o'n gywir? Wel wrth ffycing rheswm mae'n neud o'n gywir i'r rhai sy'n cytuno a'r farn dydy?