Cau ysgolion yng Ngwynedd

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Maw 18 Rhag 2007 10:41 pm

Mae hi'n amlwg fod dy gyfraniad di yn un sydd yn hynod o wybodus a theg. Ond eto, dwi'n anghytuno a rhai o dy brif bwyntiau di.

GT a ddywedodd:
Rwan, mae problemau gwirioneddol yn codi o hyn [y drefn newydd] nodaf y rhai amlycaf:

(1) Does yna ddim lle o gwbl i dybio bod yr haenen newydd reolaethol am fod yn ddefnydd effeithiol o adnoddau. I'r gwrthwyneb, mae'r dystiolaeth sydd ar gael (sydd yn brin rhaid cyfaddef) yn awgrymu bod uno ysgolion yn erbyn eu hewyllys yn gyrru safonau addysgol i lawr. Mae swydd ddisgrifiadau'r swyddi newydd arfaethiedig yn wirioneddol broblematig. Ymddengys bod disgwyl i ddeiliaid y swyddi newydd 'arwain yn gymunedol a ieithyddol'. Dydi hyn ddim yn rhan o swydd pennaeth yn ol diffiniad statudol y swydd honno. Mewn geiriau eraill bydd deiliaid y swyddi newydd yn cael eu talu am gyflawni tasgau nad oes unrhyw ffordd o'u gorfodi i'w cyflawni.


Mae'r pwynt ynglyn a effaith ffederaleiddio ar safonau yn un y gellir ei ddadlau hyd Sul y Pys, ac yn abesnoldeb tystiolaeth ddigamsyniol, gwell fyddai cytuno i anghytuno, dwi'n credu.

O ran yr "arwain cymunedol a ieithyddol", mae'r peth yn amlwg yn ffwlbri. Yn bersonol, dwi'n credu mai sop i'r gwrthwynebwyr yw hyn, er mwyn ceisio ail-feddianu'r rhethreg "cymunedol". Hynny yw, gweithred wleidyddol, hen unrhyw bwrpas ymarferol, yw cynnwys y cymal hwn.

GT a ddywedodd:(2) Er mwyn talu am yr haenen hon (ac mae'n rhyfeddol o ddrud - yn ddrytach na Chanolfan Denis Arfon a Phwll Nofio Bangor efo'i gilydd) ni fydd llawer o adnoddau i'w dosbarthu i ysgolion mawr trefol, lle mae gwariant y pen y plentyn yn isel. Er enghraifft yn Ysgol yr Hendre - ysgol fwyaf y sir o ddigon mae'r cynllun hwn fel mae'n sefyll yn gwarantu cynnydd o £60 y plentyn y flwyddyn. Piso dryw yn y mor ydi hyn - digon i gyflogi un gweinyddes - ar y gorau. Neu i edrych arno mewn ffordd arall mae'n bosibl dadlau mai cau fydd Ysgol Llanystumdwy er mwyn cyflogi gweinyddes ychwanegol yn yr Hendre.


Neu ffordd arall o edrych ar y peth yw fod Ysgol Llanystumdwy yn cau er mwyn adeiladu Ysgol Ardal yng Nghricieth?

Y pwynt dwi'n ei wneud yw bod y newidiadau arfaethedig yn digwydd er mwyn creu trefn gyllidol sydd yn fwy cynaladwy a theg yn y tymor hir, nid er mwyn symyd arian o'r wlad i'r dre yn y tymor byr. Ti'n iawn i nodi y bydd costau gweinyddol y cynllun yn y blynyddoedd cyntaf yn uchel, ond dwi'n tybio mai dyma'r pris sy'n rhaid ei dalu am system hir-hoedlog.

GT a ddywedodd:(3) Nid ydi'r cynllun mewn gwirionedd yn delio efo'r gwahaniaeth mewn gwariant y pen - ond bydd yn ei guddio. O osod cyllid ysgol fechan iawn mewn cyfundrefn ffederal yna mae'r gwariant yn ymddangos yn is gan bod nifer y plant yn y tair neu bedair ysgol yn cael ei rannu efo cyfanswm cyllid y dair neu bedair ysgol. Ond, os ydi'r safle fechan yno o hyd mae'r gwariant y plentyn ar y safle honno yr un mor uchel ag erioed - ond gyda dau wahaniaeth - nid oes rhaid cyhoeddi'r ffigwr a bydd y faich o gynnal yr ysgol yn cael ei drosglwyddo oddi wrth y gyfundrefn yn ei chyfanrwydd i ddwy neu dair uned arall yr ysgol ffederal.


Ti'n dewis disgrifio'r hyn sydd yn digwydd fel "cuddio" y gwariant y pen. Ond dwi'n credu mai'r hyn a ddigwyddith o dan y drefn newydd yw y bydd cyfrifoldeb dros y gwariant uchel yn cael ei drosglwyddo i lywodraethwyr yr ysgolion ffederal - a felly ei ddatganoli i lawr i lefel leol. Fydd y gwahaniaeth cyllidol ddim yn diflannu, ond yr hyn a ddigwyddith yw y bydd yn rhaid i'r gymuned leol benderfynnu ar werth cynnal safle gyda nifer fach iawn o blant, yn hytrach na dibynnu ar Gyngor Gwynedd i benderfynnu ffawd y lle.
Yn hyn o beth, mae Cymdeithas yr Iaith, a nifer o'r rhieni, wedi deallt peryglon ffederaleiddio i ysgolion bychain. O dan y drefn bresennol, arian o'r gyllideb addysg ganolog sydd yn cynnal ysgolion bach gwledig. Mewn ysgol ffederal, bydd y safleoedd mwyaf yn gorfod cynnal y safleoedd llai, gan olygu y bydd pwysau yn dod o du'r safleoedd mawr i gau y rhai bychain. Byddai rhieni mewn ardaloedd gwledig yn gorfod wynebu cost cynnal ysgolion bychain. Fy hun, dwi ddim yn gweld bod hyn yn ddrwg o beth, gan ei fod yn gorfodi rhieni i wynebu realiti llywodraeth leol.

GT a ddywedodd: Byddai cau llai o lawer o ysgolion a dosbarthu'r arian fydd yn deillio o'r cau hwnnw i gyllidebau ysgolion er mwyn creu swyddi i athrawesau a gweinyddesau yn hytrach nag i greu haenen reolaethol NHSaidd yn ddefnydd llawer callach o adnoddau prin.


Dwi ddim yn siwr os yw hi'n deg ceisio troi'r penaethiaid ffederal newydd yn rhyw fath o fwystfilod biwrocrataidd. Mewn ysgol fach, mae'r baich o orfod gweinyddu ysgol yn golygu bod y penaeth yn aml yn gorfod dewis rhwng y gwaith papur a'r disgyblion. O dan y drefn newydd, mae'r penaethiaid safle yn cael eu rhyddhau i dreulio llawer iawn mwy o amser yn gweithredu fel athrawon, yn hytrach na rheolwyr.
Wedi'r cyfan, mae ein hysgolion uwchradd ni wedi mynd i lawr y trywydd hwn - y penaeth fel rheolwr, gyda'r dirprwyon yn gweithredu fel prifathrawon traddodiadol - ers blynyddoedd lawer, a hynny yn llwyddianus.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Prysor » Iau 20 Rhag 2007 1:55 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Felly beth am yr anghyfiawnder o gymeryd arian o bocedi plant ardal fel yr Hendre - un o ardaloedd mwyaf di-freintedig, a Chymreiciaf Cymru - i gynnal hanner dwsin o blant yn Rhydygwystl?


Felly pam cau Ysgol Manod, sydd efo 90 o blant Cymraeg eu iaith, safonnau ac adnoddau ardderchog, sy'n cael ei defnyddio ar fin nosau i amrywiol weithgareddau cymunedol, ym Mlaenau Ffestiniog - tref ddifreintiedig, ddiwydiannol, Gymraeg ei hiaith?

Mae egwyddor dy bwynt yn un teg er na alla i gredu fod y pwynt yn dod o safbwynt egwyddorol. Yr ateb, fodd bynnag, ydi ffendio'r ffycin pres i roi addysg teilwng i bawb. Ffendio fo - boed allan o bensiynau gor-hael, o fiwrocratiaeth, neu drwy setliad teilwng gan lywodraeth Llundain i Fae Caerdydd ei basio lawr. (Sa ffracsiwn cost wythnosol rhyfel Irac yn ddechrau da).

Mae addysg yn hawl sylfaenol. Da ni'n talu trethi, felly dylai'r wladwriaeth ei ddarparu. Cough up, mewn geiriau plaen.

Ond mae cynghorwyr yn gwneud safiad egwyddorol yn syniad afresymol, yn anffodus. Yn enwedig pan fo nhw o'r un Blaid â'r llywodraeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan GT » Gwe 21 Rhag 2007 10:27 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae'r pwynt ynglyn a effaith ffederaleiddio ar safonau yn un y gellir ei ddadlau hyd Sul y Pys, ac yn abesnoldeb tystiolaeth ddigamsyniol, gwell fyddai cytuno i anghytuno, dwi'n credu.


Ti'n gywir wrth gwrs nad oes cytundeb ynglyn a chanlyniadau tebygol ffederaleiddio, ond dydi'r pwynt yn gyffredinol ddim yn un cryf.

Mae'r drefn bresenol yn un effeithiol - ond yn gwegian o dan straen pwysau ariannol. Rydym yn symud tuag at drefn a allai fod yn effeithiol, ond a allai yr un mor hawdd fod yn aneffeithiol. Mi fyddwn i'n dweud mai'r tebygrwydd ydi y bydd y drefn yn llai effeithiol. Mae'r rhan fwyaf o ddigon o bobl sydd 'ar y job' yn cytuno efo fi. Mae'r rhan fwyaf o gynghorwyr Gwynedd a'r holl swyddogion yn anghytuno a ni.

'Rwan, ffederaleiddio ydi craidd y cynllun hwn. Oherwydd y penderfyniad i ffederaleiddio mae'r cynllun yn ddrud. Dyma hefyd pam fod cymaint o ysgolion yn gorfod cau. Yn wyneb ansicrwydd go iawn ynglyn ag elfennau creiddiol y cynllun, oni fyddai'n syniad da i asesu pam mor effeithiol ydi ysgolion ffederal enfawr sydd wedi eu creu yn erbyn ewyllys yr unedau unigol yn debygol o fod cyn symud ymlaen?

Garnet Bowen a ddywedodd:Neu ffordd arall o edrych ar y peth yw fod Ysgol Llanystumdwy yn cau er mwyn adeiladu Ysgol Ardal yng Nghricieth?


Wel ia a naci. Dydi cau Llanystumdwy ddim yn sicrhau ysgol newydd i Gricieth - rhaid gwneud cais i lywodraeth y Cynulliad er mwyn gwireddu hynny. Ond mae'n sicrhau y bydd adnoddau yn cael eu rhyddhau - adnoddau a allai gael eu defnyddio ar hyd a lled y sector - gan gynnwys yn Ysgol yr Hendre.

Garnet Bowen a ddywedodd:Ti'n iawn i nodi y bydd costau gweinyddol y cynllun yn y blynyddoedd cyntaf yn uchel, ond dwi'n tybio mai dyma'r pris sy'n rhaid ei dalu am system hir-hoedlog.


Garnet Bowen a ddywedodd:O dan y drefn bresennol, arian o'r gyllideb addysg ganolog sydd yn cynnal ysgolion bach gwledig. Mewn ysgol ffederal, bydd y safleoedd mwyaf yn gorfod cynnal y safleoedd llai, gan olygu y bydd pwysau yn dod o du'r safleoedd mawr i gau y rhai bychain. Byddai rhieni mewn ardaloedd gwledig yn gorfod wynebu cost cynnal ysgolion bychain. Fy hun, dwi ddim yn gweld bod hyn yn ddrwg o beth, gan ei fod yn gorfodi rhieni i wynebu realiti llywodraeth leol.


A dyma ni yn agos at graidd pethau.

Dydi'r drefn newydd ddim am fod yn ariannol gynaladwy am llawer o amser - bydd straen sylweddol oddi mewn i'r ysgolion ffederal newydd. Ti'n gwbl gywir i ddweud y bydd unedau mawr yn cynnal rhai bach - neu bydd pentrefi mawr yn gorfod cynnal safleuoedd mewn pentrefi bychain a allai fod 8 neu 9 milltir i ffwrdd. Y drefn naturiol ydi y bydd y pentrefi mawr yn cau unedau y pentrefi bychain rhag cael dosbarthiadau enfawr yn eu hunedau eu hunain. Mae hyn yn gwbl ddealladwy - ond yn anheg a phawb - y pentref mawr a'r un bach.

Mi fydd y Gwasanaeth Ysgolion yn ceisio adeiladu dull o osgoi hyn i mewn i'r gyfundrefn. Hyd y gwelaf i mae dwy ffordd o wneud hyn:

(a) Llunio 'cyfansoddiad' i'r ysgolion ffederal fyddai yn cynnwys cymal sy'n gwahardd cau'r unedau llai am hyn a hyn o flynyddoedd.

(b) Creu pwysiad sylweddol oddi mewn i'r drefn gyllido newydd fyddai'n rhoi lwfans (mawr) am pob uned, ac a fyddai'n arwain at sefyllfa lle byddai cau uned yn golygu colled ariannol i'r ysgol ffederal.

'Dwi ddim yn meddwl y byddai (a) yn gweithio. Yn y pen draw gallai'r Corff Llywodraethu newid y cyfansoddiad - nhw sy'n rhedeg y sioe. Yr unig beth mae'r Cyngor yn ei reoli ydi'r dull cyllido. Felly (b) sy'n fwyaf tebygol o gael ei ddefnyddio.

Ta waeth, bydd (a) (os byddai'n gweithio) a (b) yn creu drwg deimlad sefydliadol o fewn y gyfundrefn - plant mewn pentref mawr mewn dosbarthiadau o 30 yn ariannu dosbarthiadau o 10 mewn pentref naw milltir i ffwrdd - a neb yn medru gwneud dim am y peth. Byddai gwenwyn ac anghytgord wedi eu hadeiladu i mewn i'r gyfundrefn.

Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi ddim yn siwr os yw hi'n deg ceisio troi'r penaethiaid ffederal newydd yn rhyw fath o fwystfilod biwrocrataidd.


Yn sicr, dwi ddim yn galw neb yn fwystfil - ond swydd reolaethol ac nid un addysgu ydi hi.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Ioan_Gwil » Iau 03 Ion 2008 3:31 pm

ma PC di saethu eu hunain yn eu troed braidd yn fan hyn dwin meddwl!!

dyla nhw di cau rhai ysgolion flynyddoedd yn ol, fydda na ddim gymaint o stwr wedyn am gau cymaint efo'u gilydd

ar y cyfan, does na neb yn enill yn y penderfyniadau yma! ma plaid am golli dipyn o seddi yn yr etholiada nesa, nid yn hanfodol i lais y bobol, ond os ydy llais y bobol yn dwyn pledleisia rhai o gefnogwyr plaid, man agor y ffordd i llafur ne'r rhyddfrydwyr gamu mewn!

angen synnwyr cyffredin sydd wan, ar bob ochor!
John ddwynodd y beans
Rhithffurf defnyddiwr
Ioan_Gwil
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 689
Ymunwyd: Iau 06 Hyd 2005 8:49 pm
Lleoliad: Prentec, Port Madocks

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 17 Maw 2008 3:17 pm

oddi ar wefan cymdeithas.org a ddywedodd:Croesawu cyfle newydd i Ysgolion Gwynedd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r cyhoeddiad heddiw gan y Cyng. Dyfed Edwards (cynghorydd gyda phortffolio addysg Cyngor Gwynedd) y bydd y cynllun i ad-drefnu a ffedereiddio degau o ysgolion yng Ngwynedd y cael ei ohirio am flwyddyn hyd nes bod canllawiau newydd y Cynulliad ar ffedereiddio a chlystyru ysgolion yn glir. Mae'r Gymdeithas yn galw am ddefnyddio'r flwyddyn trwy ddychwelyd at bob ardal gan geisio atebion 'o'r gwaelod i fyny'. Mae'r Gymdeithas hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod y bygythiad i gau 7 ysgol bentrefol Gymraeg yng Ngwynedd yn ystod y flwyddyn nesaf yn parhau.

Dywedodd Osian Jones - trefnydd y Gymdeithas yn y Gogledd - mewn ymateb:

"Croesawn y datblygiad hwn a chredwn mai arwydd o gryfder, nid gwendid, yw parodrwydd i wrando a newid safbwynt. Llongyfarchwn hefyd bawb sydd wedi bod yn ymgyrchu. Yr ydym wedi dadlau o'r cychwyn mai cwbl anymarferol oedd ceisio mynd trwy'r broses fanwl o benderfynu ar ddyfodol dau ddwsin o ysgolion y flwyddyn nesaf a'i bod yn wirion i geisio gwneud hynny cyn i ni wybod am yr holl bosibiliadau newydd o ran cydweithio rhwng ysgolion a ddaw o ganllawiau newydd y Cynulliad.

"Yr ydym yn cydnabod fod Cyngor Gwynedd wed dangos parodrwydd i gynnal cyfarfodydd anffurfiol i drafod gyda chymunedau lleol ddyfodol addysg yn yr ardal - yn wahanol i siroedd fel Caerfyrddin sy'n benderfynol o wthio'i agenda trwodd. Galwn am ddefnyddio'r flwyddyn hon yn awr trwy gynnal cyfarfodydd cwbl agored ym mhob ardal i geisio cytundeb am atebion o'r gwaelod i fyny sy'n addas i'r ardaloedd unigol."

"Tynnwn sylw, fodd bynnag, at y ffaith fod bygythiad o hyd i ddyfodol 7 o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir a bwriad i fynd trwy'r broses statudol i benderfynu ar eu dyfodol yn ystod 4 wythnos olaf tymor yr haf. Gan fod y rhan fwyaf o raglen ymgynghori'r flwyddyn nesaf wedi'i gohirio, gwell o lawer fyddai rhoi cyfle teg i edrych ar ddyfodol y 7 ysgol hyn yr Hydref nesaf."
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 17 Maw 2008 7:06 pm

Mae'r stori ar wefan BBC Cymru erbyn hyn:

Addysg Gwynedd: Gohirio?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan Waen » Llun 17 Maw 2008 11:45 pm

Croesawn y datblygiad hwn

Cytuno'n llwyr gyda Osian yn fama - mae gohirio am flwyddyn yn beth da, yr unig beth ydi....., (a galwch fi yn hen synic) mae Dyfed Edwards yn dweud " Y rheswm, yw bod Llywodraeth y Cynulliad yn paratoi rheoliadau newydd." -
sori Dyfed ond roedd pawb a'i frawd yn gwybod fod y Cynulliad yn paratoi rheoliadau newydd. Ond fuasa fo'r un mor wir i ddweud "Fod Plaid Cymru a'u cefnau yn erbyn y wal ac wedi gorfod ildio ar hyn."

Gohirio tan ar ol yr etholiad? Bydd yr etholwyr yn gweld trwy'r symudiad gwan yma a gweld mae ymgais sâl i lluchio llwch i wynebau pleidwyr ffyddlon, athrawon, llywodraethwyr a rhieni plant sydd yn mynychu ysgolion mewn cymunedau Cymraeg bregus.

Tynnwn sylw, fodd bynnag, at y ffaith fod bygythiad o hyd i ddyfodol 7 o ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir a bwriad i fynd trwy'r broses statudol i benderfynu ar eu dyfodol yn ystod 4 wythnos olaf tymor yr haf
- Mae hwn yn aros!

Fel y mae Ffred Ffransis wedi dweud yn gyson mae ffederaleiddio drwy gau cynifer o ysgolion yn weinyddol amhosibl, felly beth mae Dyfed Edwards wedi ei ddweud mewn gwirianadd ydi, fod y Blaid yn argymell i'r Cyngor oedi cyn symud ymlaen i wneud rhywbeth sydd yn gwbwl amhosib i'w wneud. Y peth mae angen iddy nhw ei wneud ydi cyfadde fod y ddogfen wallus yma ar pryder amdani ar gwrthwynebiad sydd iddi angen ei rhoi yn y bin.

Dwi yn teimlo fod nad oes yna ddim llawer o newid wedi digwydd o gwbwl. :crio:
http://ysgol.co.uk
Rhithffurf defnyddiwr
Waen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 227
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 2:45 am

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 17 Maw 2008 11:57 pm

Dwi tipyn mwy optimistig i ddweud y gwir.

I ddechrau, mae'r Blaid wedi gwrando ar lais y bobl, ac mae hynny'n beth da. Er nad yw'r opsiwn o ffedereiddio yn mynd i fod yn addas ym mhob ardal, rhaid edrych ar opsiynau newydd o gydweithio rhwng ysgolion, ac mae rheoliadau newydd y Cynulliad yn holl bwysig yn hyn o beth, felly mae'n gwneud synnwyr perffaith fod y Cyngor yn atal y broses tan fod y rheoliadau yma wedi cael eu cyhoeddi'n llawn.

Ar hyn o bryd, er mwyn creu ffederasiwn, rhaid cau yr holl ysgolion unigol yn swyddogol, cyn agor ysgol ffedereiddedig yn eu lle. Does dim yn atal y Bwrdd Llydwodraethol (neu'r Cyngor) wedyn i gau un o'r 'safleoedd' yma os yw arian yn brin, ac felly mae nifer fawr o bobl yn ddrwgdybus iawn o'r syniad. Ond gyda'r rheoliadau newydd, bydd hi'n bosib creu ffederasiwn heb orfod cau yr un ysgol. Bydd yr holl ysgolion yn aros ar agor, gyda chydweithio agos rhwng y gwahanol ysgolion. Byddant hefyd yn rhannu'r un Llywodraethwyr a Phrif Athro mwy na thebyg. Er hyn, bydd rhaid mynd trwy'r broses statudol o gau ar gyfer pob un ysgol sy'n rhan o'r ffederasiwn petai'r Cyngor am gau unrhyw ysgol yn y dyfodol, ac felly bydd statws yr ysgolion unigol yr un mor gryf ag yr oeddynt cyn ffedereleiddio.

Newyddion da iawn ar y cyfan, ond rhaid cadw ymgyrchu o blaid y 7 ysgol sydd dal yn wynebu cau :(
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan Genesis » Llun 28 Ebr 2008 10:00 am

Gall rhywun cyfianwhau cadw ysgol ar agor i lai na 10 plant plis? :rolio:

Pobl dim mynd mlaen am cymuned etc ond yn anghofio son am addysg y plant, sydd wedi'r cyfan y peth pwysia
Genesis
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 2
Ymunwyd: Gwe 18 Ebr 2008 1:56 pm

Re: Cau ysgolion yng Ngwynedd

Postiogan BOT » Mer 21 Mai 2008 3:25 pm

Er gwybodaeth. Tra'n galonogol gweld bod gwrando wedi bod mae yna rhyw gic, ac eco o'r cyngor blaenrol, yn y frawddeg olaf.....

Grwp Plaid Cymru Group, Cyngor Gwynedd Council
Mai 20fed, 2008
I'w ryddhau'n syth - For immediate release
Addysg Gynradd : Cyfeiriad newydd i Blaid Cymru yng Ngwynedd

Mewn cyfarfod o grŵp Plaid Cymru, Cyngor Gwynedd a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn y 17eg o Fai, amlinellodd Dyfed Edwards, arweinydd newydd y grŵp, ei weledigaeth ar gyfer dyfodol addysg gynradd yn y sir.
“Mae'n amlwg fod diffyg cytundeb wedi bod i agweddau o'r cynllun drafft presennol.” meddai “Mae rhaid ystyried cyfeiriad newydd ar gyfer y gwaith yma rwan, gan gydweithio gyda chymunedau Gwynedd er mwyn creu cyfundrefn addysg gynradd ar gyfer y ganrif newydd.”
Mae Dyfed Edwards yn cydnabod bod yn rhaid edrych eto ar y cynllun drafft a luniwyd gan y Cyngor blaenorol, gan weithio i adeiladu consensws rhwng y Cyngor, trigolion Gwynedd, ac athrawon a phenaethiaid ysgolion y sir. Er mwyn dod i gytundeb, mae'n anorfod y bydd rhaid edrych ar ymarferoldeb y cynllun yn ei gyfanrwydd, a gweld pa agweddau ohono sy'n dderbyniol.
Serch hynny, mae arweinydd Plaid Cymru yn pwysleisio bod yn rhaid i'r Cyngor wynebu'r her sylfaenol o greu trefn addysg gynradd gynaliadwy, sydd yn sicrhau tegwch i bob un o blant y sir. Mae problemau sylfaenol yn bodoli gyda'r drefn bresennol, a does dim modd dianc rhag y problemau hynny. Dyw cynnal y status quo ddim yn ddewis i Plaid Cymru.
Rhithffurf defnyddiwr
BOT
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 71
Ymunwyd: Sad 05 Ebr 2008 8:18 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron