GT a ddywedodd:Ffordd o ddadlau ymhlith pobl efo gormod amser ar eu dwylo a dim digon o bobl sydd eisiau dadlau efo nhw yn eu bywydau cig a gwaed ydi maes e - dim arall. Does a wnelo'r cyfrwng ddim oll a dyfodol y Gymraeg.
Cywir ac anghywir.
Rwyt ti llygad dy le awgrymu taw y 'rhithfro' yw man cyfarfod y rhai efo gormod o amser ar eu dwylo.
Base'n well gen i taswn i'n gwneud marc yn y byd go iawn na cael fy adnabod fel 'cymeriad' ar sawl negesfwrdd.
Ond yn ddi-os mae negesfyrddau Cymraeg eu hiaith yn berthnasol i ddyfodol y Gymraeg yn 'run ffordd a teledu Cymraeg, radio Cymraeg, papurau newydd Cymraeg, llyfrau Cymraeg ac yn y blaen.
Yn bersonol, dwi ddim yn prynu papurau newydd, dwi'n gwylio'r teledu yn anaml iawn, a nid oes amser na amynedd gen i brynu llyfrau, ac felly y we yw'r cyfrwng pwysicach yn fy mywyd. Dwi'n siwr bod hyn yn wir am y rhan fwyaf o bobl, yn enwedig pobl ifanc, y dyddiau hyn, A baswn i'n awgrymu bod y rhan helaeth o Gymry Cymraeg sy'n ymweld a'r we yn gyson, yn treulio eu hamser mewn safleoedd Saesneg eu hiaith yn bennaf.
Pe na bai'r maes erioed wedi bodoli ni fyddai'r Gymraeg yn marw eiliad ynghynt (nid ei bod yn debygol o farw beth bynnag).
Dwi ddim o'r barn y bydd yr iaith yn marw. Mae'n debygol mynd yr un ffwrdd a'r Wyddeleg, hynny yw iaith swyddogol a ddefnyddir gan y rhai sy'n cael eu cyflogi i'w defnyddio ac ychydig o 'grancs'.
Dydi iaith ddim yn cael ei chynnal yn y rhithfro. ar y stryd, yn y siop, yn yr ysgol, yn y dafarn, yn y garej, yn y cor, yn y capel, ac yn bwysicach na dim yn y cartref mae'r Gymraeg yn gwreiddio yn ymwybodaeth pobl ac yn tyfu.
Y dyddiau hyn, mae'r iaith yn cael eu defnyddio fel iaith gymunedol dim ond yn yr hen Wynedd, ond am ba hir?
Ni all yr iaith goroesi mewn
Cymraegtacht bychain sy'n dechrau yn y Felinheli. Ni all iaith ffynnu fel
patois a defnyddir gan llai na chan mil o bobl er mwyn cyfathrebu gyda chymodogion a theulu yn unig. Rhaid cofio hefyd bod y rhan helaeth o bobl sy'n siarad Cymraeg yn byw tu allan i'r 'fro', ac i lawer iawn o bobl y we yw'r unig cyfle sydd ganddynt i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.