Fe sylwch chi fod Hedd wedi newid y seiat breifat 'Criw Duw' i fod yn seiat gyhoeddus 'Ffydd a Chrefydd' roedd y seiat Criw Duw wedi datblygu yn fwy na'r amcan gwreiddiol ac roedd tipyn o drafod am grefydd a ffydd yn diwgydd yn y seiadau cyhoeddus eraill felly roedd hi'n gwneud sens i droi Criw Duw yn gyhoeddus a rhoi enw llai Judeo-Christian i'r seiat.
Ond fe fydd yna gylch preifat newydd yn dechrau yn fuan yn benodol i Gristnogion, fel cylch Cymdeithas yr Iaith a chylch Plaid Cymru ni fydd yn agored i bawb ac mi fyddw ni'n gofyn i aelodau gydnabod Iesu Grist fel gwaredwr personol wrth ymuno a'r cylch - ni fydd aelodaeth yn ddibynnol ar fy sel bendith i fel cymedrolwr wrth reswm ond yn hytrach mi fydd yn ddibynnol ar yr unigolyn ei hun a'i berthynas a Iesu.