Enwau Cymraeg ar awledydd De ddwyrain Asia

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Enwau Cymraeg ar awledydd De ddwyrain Asia

Postiogan Y Crochenydd » Sul 06 Ion 2008 3:34 pm

Dim bod fi moen swnio'n smyg, ond dwi di bod yn dianc yr oerfel dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd trwy fynd am antur bach i Thailand a Cambodia (dwi yn Bangkok reit nawr yn teipio hwn, gyda llaw 8) ). Ond oes rhywyn yn gallu rhoi'r enwau Cymraeg cywir i mi am y gwledydd yma? Mae'r pobol Khmer yn Cambodia yn galw Kampuchea ar eu gwlad ac hen enw Thailand yw Siam. Eniwe, mae'n amazing yma. Ac yn rhyfeddol o gynnes. Mynd am swim fach yn y pwll ar to'r gwesty bore fory :winc:
Y Crochenydd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 195
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 6:44 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan sian » Sul 06 Ion 2008 3:51 pm

Est ti ddim â Geiriadur yr Academi gyda ti? :?

Thailand = Gwlad y Thai / Gwlad y Tai / Siám

Cambodia = Cambodia

Dim byd o dan Kampuchea yn GyrA


Swnio'n grêt!
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Gowpi » Llun 07 Ion 2008 10:48 am

Swnio'n wych. Off y pwynt tamed bach (ond ymwneud a'r ochr ieithyddol Gymreig / Asiaidd) fues i'n treulio pythefnos yng Nghambodia rhai blynyddoedd yn ol, es i dalaith Mondulkiri yn y dwyrain ac aros mewn ty gorffwys Madame Deu.
Fe wnes i drefnu mynd ar daith beic modur gyda'i mab, aeth a fi i ymweld ag un o bentrefi brodorol yr ardal a ymdebygai i Ddinas Henllys yn sir Benfro. Ces wahoddiad i fewn un o'r tai a ceisiwyd fy nysgu i ddweud ambell i air yn eu hiaith (nid Khmer) wrth bwyntio at anifeiliaid - mochyn oedd 'tsor' ac ati, pwyntiwyd at iar a dywedwyd taw 'iar' ydoedd yn eu hiaith hwythau!!!!!!
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Postiogan Rhys » Llun 07 Ion 2008 11:56 am

Am restr enwau Cymraeg gwledydd, tria Wicipedia.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Geraint Edwards » Llun 07 Ion 2008 9:47 pm

Ystyriwch y canlynol:

Saesneg - Cymraeg
Thailand - Gwlad Tai
Cambodia - Cambodia
Vietnam - Fietnam
Laos - Laos
Myanmar - Myanmar
Malaysia - Malaysia
Singapore - Singapôr
Indonesia - Indonesia
Phillipines - (Ynysoedd y) Pilipinas
Brunei - Brwnéi
East Timor - Dwyrain Timor
Papua New Guinea - Papwa Gini Newydd
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan Y Crochenydd » Llun 14 Ion 2008 2:52 pm

sian a ddywedodd:Est ti ddim â Geiriadur yr Academi gyda ti? :?

:D

Diolch bawb, braidd yn siomedig fod yr enwau Cymraeg mor debyd i'r rhai Saesneg, ond dyna ni. Oes yna wlad arall yn y byd sy'n galw Cymru ar ein cornel fach ni o'r byd? Synwn i os oes 'na...
Y Crochenydd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 195
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 6:44 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan huwwaters » Llun 14 Ion 2008 9:48 pm

Geraint Edwards a ddywedodd:Ystyriwch y canlynol:

Saesneg - Cymraeg
Myanmar - Myanmar


Y llywodraeth cyfredol (totalitaraidd - helynt gyda'n mynachoedd) sydd wedi newid enw ffurfiol y wlad i Myanmar. Burma neu Bwrma yw'r gwreiddiol a hefyd yr enw mae mwyafrif y wlad yn ei ffafrio gan gynnwys y wraig ne sydd o dan aresitiad tŷ sydd yn gwthio am lywodraeth democrataidd.

[Wedi gneud cywiriad bach uchod.]
Golygwyd diwethaf gan huwwaters ar Maw 15 Ion 2008 3:52 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Gowpi » Maw 15 Ion 2008 2:05 pm

huwwaters a ddywedodd:
Geraint Edwards a ddywedodd:Ystyriwch y canlynol:

Saesneg - Cymraeg
Myanmar - Myanmar


Wy'n credu o't ti'n olygu huwwaters...?!
Laos - yn yr iaith Laos 'Lao' ydyw'r ynganiad. Dyma'r ffordd o'i ynganu mewn llawer iawn o ieithoedd eraill hefyd, a deallais pan yno, mai dim ond Saeson oedd yn ei ynganu gyda'r lythyren 's' ddiwethaf.
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn


Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron