a tithe yn ein brandio ni fel pobol "sal" oherwydd ein bod ni wedi profi rhywbeth nad wyt ti hyd yma wedi ei brofi dy hun ac felly dwyt ti methu eu amgyffred.
woah woah woah dal dy ddwr. Ti 'di camddeall yn llwyr Rhys, 180 gradd
nes i ddim galw Cristnogaeth yn salwch. Nes i ddim dweud fod Cristnogion yn bobl sal. Fedra i ddim gweld ble cefaist y fath syniad a dw i'n siomedig dy fod yn fy nghyhuddo o'r fath beth.
y pedestal mympwyol 'ma ydi'r "salwch". Pam fod crefydd yn bwnc sydd yn haeddu cymaint mwy o "barch" nag unrhyw safbwynt arall? Mae lot o bobl yn ystyried eu hideoleg gwleidyddol yn fater digon personol a hunaniaethol, er enghraifft. Ond does dim disgwyl i unrhyw un ochel rhag dweud eu dweud yn blaen am syniadau gwleidyddol; os ydi rhywun yn credu bod ideoleg neu syniad rhywun arall yn dwp, gellir dweud hynny (gan esbonio pam, wrth gwrs) yn ddigon di-flewyn ar dafod, a da hynny. Ond am rhyw reswm mae'n gallu teimlo weithiau bod angen gwisgo
kid gloves wrth drafod crefydd. Os rhywbeth swn i'n dweud fod y confensiwn yma'n ddilornus i bobl crefyddol; mae'n awgrymu y dylid eu cysgodi a'u hamddiffyn rhywsut.