Pump am y Penwythnos - 11/1/08

Beth arall sydd i'w wneud dros y Sul?

Cymedrolwyr: Gwahanglwyf Dros Grist, Gwen, Dwlwen

Rheolau’r seiat
Dyma le byddwn ni’n postio pum cwestiwn amrywiol bob wythnos ar ddydd Gwener. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau'r Seiat, neu pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

Postiogan huwcyn1982 » Gwe 11 Ion 2008 11:54 pm

1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Dod lawr yr alps ar stretcher

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Ydw, mond yn awstralia hyd hyn

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Dau. Da chi'n coelio pa rhai?

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Yn Gymraeg.. un sy'n swnio fel bachgen Llanhari. Yn saesneg.. sdim acen gen i o gwbl, gweud y gwir.

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Much Ado About Nothing yn Llundain ymhen dwyfis.
Rhithffurf defnyddiwr
huwcyn1982
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 607
Ymunwyd: Sul 25 Gor 2004 11:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Positif80 » Sad 12 Ion 2008 12:11 am

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)

Wnath ryw ddynas mewn tafarn dweud fy mod i'n siarad Cymraeg "fel dysgwr". Neiwidiodd hi ei meddwl ar ol yr ail dyrniad.
Pan yn siarad Saesneg, apparently dw i'n spectrwm o Gymraeg Ogleddol (yn enwedig wrth siarad a Saeson ar y ffon), acen Llanidloes, Brummie a gogledd Lloegr.
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan dewi_o » Sad 12 Ion 2008 12:26 am

1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Rhedeg ar y trac yn Stadiwm Olympaidd yn Berlin (Heb ganiatad)

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Do nifer o weithiau ar draws Ewrop

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Dau yn rhugl ac ychydig o Ffrangeg, llai o Almaeneg

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Acen arfordir Gogledd Cymru

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Wrecsam v Caer ar y Cae ras.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

Postiogan ceribethlem » Sad 12 Ion 2008 11:07 am

1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Gyrru ar y chwith pan yn Ffrainc, wedi mynd rhyw ddwy ffilltir cyn sylwi. Yr unig reswm sylwes pryd 'ny odd achos bod car yn dod yn syth amdana i!
2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Do cwpwl o weithie , ar dripie rygbi gan amla.
3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Cymraeg a Saesneg wrth gwrs, a rhyw fratieth o FFrangeg, felly dau a hanner sbo.
4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Cymraeg a Chymraeg.
5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Pan es i lan i Lunden yn ddiweddar am gwrs hollol craplyd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

Postiogan Sili » Sad 12 Ion 2008 5:12 pm

1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Fi a'r cariad yn methu ffeindio (na fforddio) hotel yn Oban, yr Alban, a hitha'n storom tu allan, cyn gorfod snecio mewn i rhyw seit carafannau a byta ffish a tsips yn socian yn y fan. Rhamantus iawn :rolio:

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Bron i ni neud y noson yna yn Oban, ond fel arall naddo.

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Cymraeg, Saesneg a rhyw dwtsh o Ffrangeg. Ambell i frawddeg Llydaweg a Gwyddeleg 'fyd.

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Yn y Gymraeg, acen hollol ogleddol Pen Llyn. Yn Saesneg, y 'Queen's English' ma gennai ofn :wps:

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Tocyn sinema pnawn 'ma.
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

Postiogan Lowri Fflur » Sad 12 Ion 2008 6:00 pm

1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Mynd ar fys trwy y slyms yn Morocco. Sylweddoli bod dillad pawb yn lot mwy glan na fy nillad i.
.2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?Yn Morocco mewn hostel ar lan mor yn ganol nunlle rwan.
3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Cymraeg a Saesneg yn rhygl.
Dipyn o iaith Sain.
Dysgu Arabeg a Ffraneg.

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
yN fy Nghymraeg, gyna fi acen Ogleddol Cofi cryf.
5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?[/quote] Tocyn o/r ddinas i ganol nunlle yn Morocco.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 12 Ion 2008 6:04 pm

1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.

Ddim yn siwr :? ond y gwlad mwyaf cofiadwy dwi wedi teithio iddi yw Maroc. Yn enwedig y tre lan y môr - Essaouira, a sgwar Marrakesh wrth gwrs!

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?

Ydw, sawl gwaith. Mewn stags fel arfer (dwywaith yn ystod y misoedd diwethaf i ddweud y gwir!)

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?

2

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)

Acen Dyffryn Teifi (hanner Sir Gâr, hanner Cardi) yn y 2 iaith. Bydde ambell i berson yn dweud acen Hambon! :?

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?

Gig Cymdeithas yr Iaith.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

Postiogan anffodus » Sad 12 Ion 2008 6:35 pm

1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Ca'l fy hygio gan ryw hogan hollol ddiarth o flaen neuadd y ddinas, Belffast.

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Naddo.

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Cymraeg, Saesneg, ryw dwtsh o ffrangeg.

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Cymraeg - gogledd orllewin
Saesneg - run peth

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Taith ar y bys.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Postiogan Positif80 » Sad 12 Ion 2008 11:28 pm

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Ym Mhenfforddlas ar daith ysgol yn 1991 neu pryd bynnag ennillodd Man Yoo y Cyp Winnars Cyp.

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Cymraeg, Saesneg, ychydig o Ffrangeg ac Almaeneg.

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer

Y ddigwyddiad reslo diwethaf yn Nghanolfan Port hefo'r Rhyfelwr Celtaidd yn herio ryw foi o America, a llwyth o chavs a ryw foi Albanaidd oedd ar World of Sport ar yr undercard.
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Re: Pump am y Penwythnos - 11/1/08

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Sul 13 Ion 2008 1:12 pm

1. Enwch rywbeth cofiadwy wnaethoch chi tra ar wyliau.
Cerdded yn y Smokies.

2. Ydych chi erioed wedi aros mewn hostel?
Do, mewn sawl lle. Yr un yn Rhufain oedd yr un gorau.

3. Faint o ieithoedd ‘ych chi’n siarad?
Tair.

4. Pa fath o acen sy’ gyda chi? (Yn Gymraeg a Saesneg.)
Acen Ceredigion-aidd yn Gymraeg, ac acen Cymoedd Gwent yn Saesneg. Ond mae acen Saesneg posh 'da fi hefyd.

5. Beth oedd y digwyddiad diwethaf i chi brynu tocyn ar ei gyfer?
Dau docyn i weld Band of Horses ym Mryste fi'n credu.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

NôlNesaf

Dychwelyd i Pump am y Penwythnos

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig ac 1 gwestai

cron