Yn bersonol, dwi'n defnyddio
http://www.tvtorrents.com. Ti'n gallu llwytho'r ffeiliau i lawr o'r wefan hon, a'u cadw ar dy gyfrifiadur, neu (gyda dipyn o wybodaeth dechnolegol) eu llosgi i DVD. A dyma'r detholiad gorau o raglenni dwi wedi ei weld yn unman - pob cyfres o The Wire, Sopranos, Six Feet Under, 24, Prison Break, Lost ayyb. Ond hefyd, sdwff llai adnabyddus, sydd heb groesi'r Iwerydd (e.e. John from Cinncinati), a hen raglenni Americanaidd (e.e. Degrassi Junior High). Mae'n hollol anghyfreithlon, wrth reswm, ond dwi'n cymeryd bod pob gwefan arall sydd wedi ei chrybwyll hefyd.
Er mwyn defnyddio'r wefan, ti angen cael gafael ar raglen sy'n llawrlwytho torrents, megis
utorrent (sydd am ddim). Wedyn, ti'n talu 10 ewro am 10 gigacredit. Y peth sy'n wych am y wefan yw bod modd gwneud i'r 10 gigacredit yma bara am byth. Egwyddor y wefan yw bod lwytho 1 gigabyte i lawr yn costio 1 gigacredit. Ond os wyt ti'n llwytho rhaglenni i fyny - hynny yw, gweithredu fel
seeder - ti'n cael 1.5 Gigacredit am bob Gigabyte ti'n ei lwytho. Felly unwaith ti wedi llawrlwytho rhaglen, ti'n gadael i utorrent redeg dros nos, ac fe fyddi di wedi ennill dy gredits i gyd yn ol, a wedi ennill credits ychwanegol. A canlyniad hyn yw bod pobl yn dal i
seedio rhaglenni am yn llawer iawn hirach, a felly mae'r safle yn gynt ac yn fwy dibynadwy na Pirate Bay ayyb - dwi newydd gael gafael ar ail gyfres Prison Break (24 pennod), wnaeth lawrlwytho dros nos (12 awr).