Cymeriadau Saesnig yn y nofel Gymraeg

Y Babell Lên ar lein

Cymedrolwr: Llewelyn Richards

Rheolau’r seiat
Y Babell Lên ar lein. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cymeriadau Saesnig yn y nofel Gymraeg

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 15 Ion 2008 3:02 pm

(hmmm...yn swnio fel teitl Ph.D, eniwe....)

Darllennais yn ddiweddar adolygiad o "Marged, Jac a Shanco" (neu pa bynnag drefn mae'r enwau), ar Gwales.com, ac un cwyn oedd fod y portread o'r prif gymeriad Saesnig - "ffansi ledi" Jac - yn un ddau-ddimensiwn, anghydymdeimladol, debyg i Paul Rushmere yn llyfrau Ffowc-Elis (wrth gwrs, mae pob cymeriad yn llyfrau Lleifior yn weddol fflat a chartwnaidd, ond trafodaeth arall ydi honno....)

Mi wnaeth hyn achosi i fi feddwl am y ffordd mae Saeson yn cael eu portreadu yn y Nofel Gymraeg(TM) - hynny yw, nofelau sy'n delio gyda themau'r Gymru gyfoes yn y Gymraeg, o safbwynt cymeriadau Cymraeg eu hiaith.

Rwan, fedra i ddim honi i mi ddarllen gymaint a hynny o nofelau, ond ar wahan i un cymeriad (a hwnnw'n Dori, nid llai) yn "Rhaid I Bopeth Newid" gan Grahame Davies, cymeriadau ymylol a negyddol yw'r di-Gymraeg "Saesneg" (bydded hwy'n fudwyr neu'n enedigol yng Nghymru) ran amlaf yn fy mhrofiad i. Ydi hyn yn deg, ynte oes yna gymeriadu gwell mewn rhai nofelau?
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan Macsen » Maw 15 Ion 2008 3:36 pm

Roedd cymeriad y saesnes yn Martha, Jac a Sianco yn wall eitha amlwg ar lyfr gwych fel arall.

Mae llyfrau Llwyd Owen yn cynnwys cymeriadau 'crwn' sy'n saeson. Ond gan bod rhan fwya o'i gymeridau yn lofruddwyd, treiswyr, ayyb falle nad dyna'r esiampl gora.

Mae Season yn ddihirod yn pob peth Americanaidd hefyd (acen posh = evil!!!) felly nid ni yw'r unig rai. ;)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Reufeistr » Maw 15 Ion 2008 3:44 pm

Ella bo na reswm.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 16 Ion 2008 3:10 am

Mae Season yn ddihirod yn pob peth Americanaidd hefyd (acen posh = evil!!!) felly nid ni yw'r unig rai.

Ia mae hynny'n gael ar fy nerfau ambell waith, edrychwch ar Star Wars er enghraifft. Gwrthryfelwyr = Americanaidd, Ymerodraeth = Saeson. Chwildro Americanaidd ac ati...
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Postiogan Prysor » Mer 16 Ion 2008 10:33 am

Reufeistr a ddywedodd:Ella bo na reswm.


Yn bendant.

Profiad hanes a phrofiad dyddiol ydi o. Mae o'n rhan o psyche cenhedloedd sydd wedi bod dan lach y Saeson. Dwi'm yn meddwl fod'na bropaganda cenedlaetholgar ar waith.

Ond mae 'na wastad beryg i agweddau fod yn rhagfarnllyd, a mi all cymeriad droi'n stereoteip arwynebol os na fydd yr awdur yn ofalus. A mae rhaid cofio pwy ydi'r gelyn go iawn - ein cyd-Gymry sy'n gweithio i'r Ymerodraeth, i'r Sefydliad, ac i'r cyfalafwyr corfforaethol.

Dwi'n trio portreadu cymeriadau am be ydyn nhw, dim am o lle mae nhw'n dod. Ond rhaid cofio fod lle mae nhw'n dod o (a lle mae nhw'n byw rwan) yn rhan o be sy'n ffurfio'u hagweddau, ac felly eu cymeriad. A mae lleoliad fy nofelau, a'r ffaith eu bod yn gomedis, yn gofyn am ymdrin â'r tensiynau sy'n bodoli yn y gymuned go iawn.

Mae'r Sais Tiwlip yn fy nofelau i, er ei 'broblemau', yn foi positif, ac yn ddyn da yn y bôn. Mae'n gefnogol i'r Gymraeg, yn ymwybodol ei fod mewn gwlad arall, yn cyfrannu i fywyd y pentref, ac yn cymysgu'n braf a naturiol efo'r locals. Y Cymro Sid Finch yw'r arch-ddyn drwg. Deud gwir, Cymry ydi'r 'gelynion' bron i gyd (yr heddlu, y mesyns etc).

Mae 'na Saeson sy'n gymeriadau ymylol - boed ymwelwyr, mewnfudwyr neu bobl lleol - yn cael eu lampŵnio er mwyn comedi, ond ar sail bodolaeth cymeriadau o'r fath (a'u gwerth i gomedi), nid ar sail unrhyw stereoteipio diog ar sail tras. Mae nhw hefyd yn werth eu lampŵnio er mwyn dangos fod gan y Cymry ragfarnau anheg/negyddol am y Saeson hefyd.

A mae'r Cymry'n cael eu lampwnio jesd run fath. Mae'n bwysig adlewyrchu'r gwir. Tydi agweddau gwrth-Gymreig rhai mewnfudwyr ddim i gyd yn deillio o agweddau ôl-imperialaidd. Mae peth o'no fo'n deillio o'r ffaith fod achos cyfansoddiadol a diwylliannol Cymru yn cael ei gambortreadu, gan y Cymry eu hunain, fel rhywbeth gwrth-Seisnig, yn hytrach na pro-Gymreig.

I rai carfannau myfyrwyr Cymraeg, er engraifft, mae hyrwyddo'r Gymraeg yn golygu ymosod ar y Saesneg. Wedyn, mae nhw'n methu deall pam fod myfyrwyr Saesneg sy'n cefnogi diwylliannau lleiafrifol dros y byd, yn galw canu Cymraeg yn "this Welsh shit".


Pwnc difyr, Dafyddiwanynyglaw!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Mer 16 Ion 2008 11:46 am

Chris Cope wedi sylwi ar hyn hefyd.
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan SerenSiwenna » Mer 16 Ion 2008 12:03 pm

Gwenci Drwg a ddywedodd:
Mae Season yn ddihirod yn pob peth Americanaidd hefyd (acen posh = evil!!!) felly nid ni yw'r unig rai.

Ia mae hynny'n gael ar fy nerfau ambell waith, edrychwch ar Star Wars er enghraifft. Gwrthryfelwyr = Americanaidd, Ymerodraeth = Saeson. Chwildro Americanaidd ac ati...


Ddim cweit yn wir - un or gwrthryfelwyr fwyaf prominent, Obi Wan Kanobi, yn cael ei chwarae gan Sir Alec Guinness.....sais adnebyddus a ganddo un or acenion saesneg anghyffredin o lyfli....Darth Vader hefo llais americanaidd er, gwrthryfelwr wedi troi'n baddie oedd e....dwi'n credu mai americanaidd oedd yr emperor hefyd? Fellu dim ond Peter Cushin oedd yn amlwg a acen saesneg posh yn yr ymerodraeth...ac dwi'n meddwl mai ei "look" gafodd y "part" iddo yn hytrach na'r acen, er, roedd y llais a'r acen yn ffitio rywsut!
Rhithffurf defnyddiwr
SerenSiwenna
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 602
Ymunwyd: Gwe 10 Chw 2006 2:58 pm
Lleoliad: Cilgwri

Postiogan Prysor » Mer 16 Ion 2008 1:09 pm

Ond gochel rhag i ni gael ein gwahardd rhag beirniadu ein meistri pan fo rhaid, a lle!

Mae sensoriaeth drwy ddemocrasi, a gorthrwm y dorf, yn hybu ac esgusodi anghyfiawnderau di-ri.

Yng Nghymru, does ond rhaid galw am gartrefi i bobl leol a mae'r gwleidyddion a'r wasg boblogaidd yn ein dwrdio am fod yn hiliol, ac yn ein rhoi yn ein lle. Does dim dadl ddeallusol yn erbyn y galwad am gartrefi i locals - mae'n digwydd ym maes cynllunio mewn rhanbarthau drwy Loegr eisoes. Mae'r unig reswm dros ein slapio ni i lawr yn un gwleidyddol. Yn absenoldeb y lleisiau beirniadol mae'r anghyfiawnder yn parhau.

Mae'r un peth yn digwydd os ydym yn meiddio cefnogi'r tim sy'n chwarae yn erbyn Lloegr. Gweler y gwleidyddion yn dod allan fesul un i'n condemnio, y llythyrau yn y wasg gan wladychwyr Seisnig - yn llawn agweddau, gosodiadau a sylwadau imperialaidd gan wladychwyr Sesinig - yn ein condemnio fel y pobl mwyaf anoddefgar a mewnblyg yn y byd (pot, kettle), a cholofnau golygyddol y wasg Brydeinig yng Nghymru yn hefru am ein diffyg brawdoliaeth!

A mae effaith y sensoriaeth yma ar gymdeithas yn ffiaidd. Dro ar ôl tro dw i wedi gweld Saeson yn ymosod yn gorfforol ar Gymry am gefnogi'r tim arall. Mae nhw'n teimlo'n gyfiawn i wneud hynny. Mae'r waldwriaeth a'r Sefydliad ar eu hochr nhw.

Mae'r un peth yn wir am fwio God Save the Queen mewn gemau pel droed. Dim smic am y Saeson yn bwio Hen Wlad Fy Nhadau mewn gem flaenorol, ond os y meiddia'r ignorant taffies fwio GSTQ, mae'r opinion makers i gyd ar yr attack yn y wasg ac yng nghoridorau grym unwaith eto.

Waeth be di'r ddadl foesol-ddeallusol (dosbarth canol, neis) yn erbyn bwio anthems, y wasg a'r gwleidyddion sy'n gyrru'r ddadl honno, yn ein cyflyrru i gwestiynnu ein hunain drwodd a thraw.

Mae nhw'n gwbod be di'n cryfderau a'n gwendidau fel cenedl, a mae nhw'n gwbod sut i droi'n cryfderau'n wendidau i weithio'n ein herbyn. Un o'n cryfderau ydi ein bod yn bobl sydd â natur goddefgar, egwyddorol, brawdgarol, cydweithredol ac athronyddol. Rydan ni'n parchu diwylliannau eraill lawer mwy na'r Saeson. Mae'r Wladwriaeth yn gwybod hyn felly, er fod Lloegr ymysg y gwledydd mwyaf hiliol ac imperialaidd a welodd hanes, mae nhw'n dod allan efo'r mantra ei fod yn rong i feirniadu, neu amharchu mynegiant o hunaniaeth cenedl arall. Mae'n wir, felly rydym ni'r Cymru'n dueddol i ufuddhau - heb feddwl dros ein hunain a gweld ei fod yn <b>iawn</b> i fynegi'n hanfodlonrwydd â agweddau imperialaidd, a system sy'n ein hambygio, drwy ymateb yn negyddol i symbolau'r system honno. Mae'n beth hollol gwahanol i barchu/amharchu diwylliannau eraill.

Tydi'r Cymry byth yn bwio anthemau gwledydd eraill. Dim ond God Save The Queen. Mae rheswm am hynny, a dim amharchu diwylliannau eraill ydi o.

Mae'n wir hefyd am Blaid Cymru, yn dewis ufuddhau i'r wasg a gwleidyddion Llafur drwy gydol y ffrae am dai i bobl leol. Yn ymuno hefo nhw ar adegau, i ymosod ar ymgyrchwyr. A phan mae'n dod i gefnogi gwrthwynebwyr Lloegr mewn gem beldroed, daw aelodau Plaid Cymru allan i ddatgan eu cefnogaeth i ymdrechion ein cymdogion yn y DU, Lloegr.

Hyd yn oed ar ôl taflu ymaith rhesymau gwleidyddol/hanesyddol, mae cynnal y reifalri iach, ac ysbryd yr underdog, yn bwysig. Mae'n rhan o'n hunaniaeth, a rhan o'n diwylliant poblogaidd. Ond ymddengys fod ni'r Cymry'n barod i dderbyn fod hynny, hefyd, yn anghwrtais, amharchus, neu hyd yn oed yn eithafol a hiliol! A dyna ffordd dda o ladd ein hunaniaeth, ddarn wrth ddarn - ei ddymchwel, garreg wrth garreg, frican wrth fricsan, a cael ni'n hunain i wneud y gwaith budr drostynt!

Mor wahanol ydi hi yn yr Alban. Mae'n dderbyniadwy yno i 'gasau' Saeson. Mae'n dderbyniadwy yn Lloegr, i Albanwr 'gasau' Saeson. Ddydd ar ôl dydd yn ystod Cwpan y Byd, roedd y wasg, y cyfryngau a'r gwleidyddion yn cael hwyl efo hyn. Haha fawr bob tro oedd gwleidyddion, sportsmen a pobl amlwg Albanaidd yn datgan eu cefnogaeth i wrthwynebwyr Lloegr ar y teledu neu'r radio. Hyd yn oed trafodaeth ar mor iach oedd y peth, yn aml! Dyna'r norm, felly dyna fo.

Ond y smic lleiaf o rywbeth tebyg yng Nghymru, a mi oedd penawdau a datganiadau ac ymosodiadau yn tasgu o gwmpas fel sbarcs. Cyffyffyl go iawn.

A'i effaith? Ein cyflyrru i beidio beirdniadu beiau'n meistri. Ffordd dda o gadw pobl i lawr - eu gorfodi i feio'u hunain, i blismona eu meddyliau eu hunain, ac i lastwreiddio eu hymwybyddiaeth o arwahanrwydd.

Felly, er fod peryg i ninnau stereoteipio Saeson mewn llenyddiaeth, mae i fyny i ni ein hunain wneud ein meddyliau ein hunain i fyny be sy'n wir a be sy'n rhagfarn. Tydi popeth ddim yn ddu a gwyn. Does dim pwynt lluchio'r babi allan efo'r dŵr. A dyna fyddwn i'n ei wneud os fyddwn yn derbyn dadleuon yr 'opinion makers' hwc, lein a sincar, ac yn dechrau sensro'n hunain - a hynny ar delerau ac yn ôl safonnau'r rhai sydd gan gymhellion hunanol dros ei hybu.

Os y collir ein llwyfannau i feirniadu, i wneud safiad, i ddychan, i feddwl dros ein hunain, ac i fynegi'r meddwl hwnnw, yna bydd y ffordd yn glir i'r sawl sy'n ein manipiwleiddio wneud unrhyw beth y mynn.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 16 Ion 2008 1:35 pm

Teimlais fod y cymeriad Judy yn nofel Caryl Lewis braidd yn ddiangen a gyda dim ond un dimensiwn. Ond dwi yn drwgdybio ei bod hi wedi gwneud y cymeriad yn Sais oherwydd buasai ei chynulleidfa wedi deall y cymeriad a’i chymelliau yn llawer gwell na pe bai’n Gymraes Cymraeg.

Fe ddarllenais Wythnos yng Nghymru fydd yn ddiweddar, ac mae ru’n peth yn digwydd yn y nofel yna. Megis y Cyrnol y Crysau Porffor sydd a bron a lladd y prif cymeriad gyda chwistrelliadiau peryglus ond i gael ei stopio a’i harestio gan yr aelodau Cymraeg o’r Crysau.

Ond mae’n rhywbeth sydd yn digwydd mewn diwylliannau eraill. E.e. Mewn rhaglenni teledu a ffilmiau, mae’r Almaenwyr yn cael yn portreadu yn gyson fel cymeriadau oer, mecanyddol ac yn barod i gario arall gorchmynion boed bod nhw’n gywir neu beidio.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Reufeistr » Mer 16 Ion 2008 2:15 pm

Prysor a ddywedodd:Yng Nghymru, does ond rhaid galw am gartrefi i bobl leol a mae'r gwleidyddion a'r wasg boblogaidd yn ein dwrdio am fod yn hiliol, ac yn ein rhoi yn ein lle. Does dim dadl ddeallusol yn erbyn y galwad am gartrefi i locals - mae'n digwydd ym maes cynllunio mewn rhanbarthau drwy Loegr eisoes. Mae'r unig reswm dros ein slapio ni i lawr yn un gwleidyddol. Yn absenoldeb y lleisiau beirniadol mae'r anghyfiawnder yn parhau.


Yn union. Dwi di dod ar draws dwnim faint o Saeson sy'n ystyried y galwad gan Gymry am gartrefi i bobol lleol, Cymry'n brwydro dros yr iaith, y galwad gan Gymry am annibyniaeth (!), ayb, ayb, fel "alienation" a fedrai'm dallt sut bo nhw'm yn sylwi fod awgrymu'r fath beth i fi (fel Cymro) yn "alienation" ynddo'i hun! Hollol hurt.


Prysor a ddywedodd:Mae'r un peth yn digwydd os ydym yn meiddio cefnogi'r tim sy'n chwarae yn erbyn Lloegr. Gweler y gwleidyddion yn dod allan fesul un i'n condemnio, y llythyrau yn y wasg gan wladychwyr Seisnig - yn llawn agweddau, gosodiadau a sylwadau imperialaidd gan wladychwyr Sesinig - yn ein condemnio fel y pobl mwyaf anoddefgar a mewnblyg yn y byd (pot, kettle), a cholofnau golygyddol y wasg Brydeinig yng Nghymru yn hefru am ein diffyg brawdoliaeth!
.......Dro ar ôl tro dw i wedi gweld Saeson yn ymosod yn gorfforol ar Gymry am gefnogi'r tim arall. Mae nhw'n teimlo'n gyfiawn i wneud hynny. Mae'r waldwriaeth a'r Sefydliad ar eu hochr nhw.


Dwi'n nabod Cymro gath ei ymosod ar gyda ciw pool mewn tafarn yn Aberstwyth am feiddio wisgo crys ffwtbol Argentina.

Hefyd, dwi'n cofio rhyw Brummy yn gofyn i fi (pan yr oeddwn innau'n gwisgo top Argentina mewn tafarn yn Aberystwyth): "Why are you wearing that top? Is it because you hate the English?"
A finna'n ymateb trwy ofyn: "Does that mean you hate Argentinians?"
Sydyn iawn sylwodd fod y drafodaeth ddim yn mynd i nunlla ac yna stopiodd siarad hefo fi. (dead loss)

Prysor a ddywedodd:Waeth be di'r ddadl foesol-ddeallusol (dosbarth canol, neis) yn erbyn bwio anthems, y wasg a'r gwleidyddion sy'n gyrru'r ddadl honno, yn ein cyflyrru i gwestiynnu ein hunain drwodd a thraw.


Yr un pobol "dosbarth canol, neis" a'u moesau Cristnogol "high and mighty" a'r British Raj a fwrdrodd pobol India yn ystod gwladychiad Prydeinig y wlad, a'u hongian ar ochor y strydoedd fel rhyw arddangosfa afiach a perverse.
Yr un "pobol dosbarth canol neis" a chwalodd cymunedau Aboriginal yn Awstralia (ac nawr yn eu bychanu a'u cofleidio am eu problemau gyda cyffuriau, alcohol, trosedd, ac am fod yn 'ddibynol' ar handouts y llywodraeth).
Yr un pobol "dosbarth canol neis" sydd nawr (ynghyd a'r Americanwyr - wyrion yr hen Sais a'i foesau "dosbarth canol, neis") hefo'r Dwyrain-Canol mewn strangle-hold.
Ac yn y blaen, ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Prysor a ddywedodd:Felly, er fod peryg i ninnau stereoteipio Saeson mewn llenyddiaeth, mae i fyny i ni ein hunain wneud ein meddyliau ein hunain i fyny be sy'n wir a be sy'n rhagfarn. Tydi popeth ddim yn ddu a gwyn. Does dim pwynt lluchio'r babi allan efo'r dŵr. A dyna fyddwn i'n ei wneud os fyddwn yn derbyn dadleuon yr 'opinion makers' hwc, lein a sincar, ac yn dechrau sensro'n hunain - a hynny ar delerau ac yn ôl safonnau'r rhai sydd gan gymhellion hunanol dros ei hybu.


Ffwcio nhw. Beth sy'n bod ar gwffio propaganda gyda mwy o bropaganda? Mae gennym berffaith hawl.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Nesaf

Dychwelyd i Llenyddiaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron