Dwi newydd ddechrau ar botaid o saws Swazi Fire ges i o'r siop fasnach deg yn Nhreganna. Mae'n saws ynfyd o boeth, ond o leiaf mi gei di ei fwyta fe gyda chydwybod tawel, gan wybod, wrth i dy geg ffrwydro , bod rhyw ffermwr tsilis yng Ngwlad Swazi yn bellach gallu fforddio addysu ei blant.
Maen nhw hefyd yn gwneud amrywiaeth o sawsiau a jamiau sy'n debyg o fod at ddant mwy o bobl.