Cyfeillion a Gelynion

Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol
Rheolau’r seiat
Polisïau a moesgarwch a lle i nodi unrhyw broblemau technegol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyfeillion a Gelynion

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 20 Ion 2008 12:08 pm

Fe sylwch fod adran newydd yn y 'Panel Rheoli Personol' o'r enw 'Cyfeillion a Gelynion'. Mae’ch rhestr cyfeillion yn cynnwys aelodau rych chi’n cyfathrebu â nhw’n aml. Bydd modd i chi weld os ydynt arlein, neu ddanfon neges breifat yn hawdd.

Mae'r rhestr gelynion yn ddefnyddwyr yr ydych am eu hanwybyddu fel arfer. Ni ddangosir negeseuon gan y defnyddwyr hyn yn llawn, ac ni chaniateir negeseuon preifat. Nodwch allwch chi ddim anwybyddu cymedrolwyr na gweinyddwyr.

Gellir ychwanegu defnyddwyr i'r rhestrau mewn 2 fordd. Tu fewn i broffeil pob defnyddiwr, ceir dolenni i ychwanegu y defnyddiwr i'ch rhestr Cyfeillion neu Gelynion, neu, gellir ychwanegu defnyddwyr i'r rhestrau trwy ychwanegu enw i'r adran 'Cyfeillion a Gelynion' yn y Panel Rheoli. Gellir tynnu defnyddiwr o'r rhestrau hefyd yn yr un modd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan Reufeistr » Llun 21 Ion 2008 11:10 am

Pam fysa chdi isho anwybyddu dy elyn? Na fysa fo'n neud mwy o synnwyr i gadw llygad barcud arnynt? Keep your friends close, but your enemies closer ayb?
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan ceribethlem » Llun 21 Ion 2008 11:23 am

Reufeistr a ddywedodd:Pam fysa chdi isho anwybyddu dy elyn? Na fysa fo'n neud mwy o synnwyr i gadw llygad barcud arnynt? Keep your friends close, but your enemies closer ayb?
Os oes yns aelod sy'n mynd ar dy nerfau, ac nad wyt ti'n mwynhau darllen eu negeseuon nhw, mae'n bosib i ti eu hanwybyddu, ac esgus nad ysynt yn bodoli. Mae'n arbennig o ddefnyddiol gyda'r math o fwlsyn sy'n gweud rhywbeth dibwynt sydd ddim yn effeithio rhyw lawer ar lif edefyn. Mae yna aelodau sy'n ymuno i ddweud dim o werth yn gyson, gellir eu hanwybyddu'n hawdd wedyn.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan Reufeistr » Llun 21 Ion 2008 11:32 am

ceribethlem a ddywedodd:

Digon teg. Ma'r aflonyddwr-Duw "rooney" na'n sbringio i meddwl - fo a'i delusions.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan ceribethlem » Llun 21 Ion 2008 11:38 am

Reufeistr a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd:
Reufeistr a ddywedodd:Pam fysa chdi isho anwybyddu dy elyn? Na fysa fo'n neud mwy o synnwyr i gadw llygad barcud arnynt? Keep your friends close, but your enemies closer ayb?
Os oes yns aelod sy'n mynd ar dy nerfau, ac nad wyt ti'n mwynhau darllen eu negeseuon nhw, mae'n bosib i ti eu hanwybyddu, ac esgus nad ysynt yn bodoli. Mae'n arbennig o ddefnyddiol gyda'r math o fwlsyn sy'n gweud rhywbeth dibwynt sydd ddim yn effeithio rhyw lawer ar lif edefyn. Mae yna aelodau sy'n ymuno i ddweud dim o werth yn gyson, gellir eu hanwybyddu'n hawdd wedyn.

Digon teg. Ma'r aflonyddwr-Duw "rooney" na'n sbringio i meddwl - fo a'i delusions.

'Na fe,. os wyt ti'n clicio arno fe a'i anwybyddu, fe gei di barhau i sgyrsio ag eraill heb fod yn ymwybodol o'r hyn mae'n ei ddweud.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 21 Ion 2008 12:09 pm

ceribethlem a ddywedodd:'Na fe,. os wyt ti'n clicio arno fe a'i anwybyddu, fe gei di barhau i sgyrsio ag eraill heb fod yn ymwybodol o'r hyn mae'n ei ddweud.

Fi heb brofi hwn yn iawn i ddweud y gwir, felly byddwn i'n gwerthfawrogi eich sylwadau ar sut mae hwn yn gweithio yn ymarferol. O'r hyn wy'n ddeall, bydd cofnod yn dangos fod neges gan ddefnyddiwr sydd ar eich rhestr 'Gelynion' yn cael ei guddio, a bydd modd i chi glicio i'w weld os chi moyn, ond fi ddim yn siwr!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan eusebio » Llun 21 Ion 2008 12:15 pm

Nath rhywun ddweud rwbath?

:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan Dylan » Maw 22 Ion 2008 2:17 am

os ydi'r defnyddiwr rydych yn ei anwybyddu'n cael ei ddyfynu gan rhywun arall, oni fydd y neges yna'n ymddangos be bynnag wedyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan ceribethlem » Maw 22 Ion 2008 9:03 am

Dylan a ddywedodd:os ydi'r defnyddiwr rydych yn ei anwybyddu'n cael ei ddyfynu gan rhywun arall, oni fydd y neges yna'n ymddangos be bynnag wedyn?
Bydde, o'r hyn wy'n ddeall. Ond bydde'r rhan helaeth o fewnbwn y person wyt ti'n dewis anwybyddu yn cael ei guddio.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Cyfeillion a Gelynion

Postiogan Reufeistr » Maw 22 Ion 2008 9:41 am

Ti'm yn rili gallu fod mor 'loaded' yn dy ddadl os na ti'n gwybod pob dim sy'n cael ei ddeud mewn edefyn nagwt? Dyna pam nid oes gen i elynion, mond cyfeillion. Dim gymaint a sydd gen i ar Facebook ond ffenomenom arall di hwna.
http://myspace.com/pwsimerimewfunk
The boy who cried 'ball-bearing' / 'Gretsch White Falcon'.
Rhithffurf defnyddiwr
Reufeistr
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 752
Ymunwyd: Llun 09 Ion 2006 12:19 pm

Nesaf

Dychwelyd i Defnyddio maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron