krustysnaks a ddywedodd:Dwi'n meddwl mai rheol eithaf arferol ar gyfer cwrteisi negesfwrdd yw'r rheol 3 dyfyniad.
Pam bod angen ailfeddwl? Does bosib bod angen dyfynnu cymaint â hynny o bobl ar unwaith i oleuo'r darllenwyr yn ddigonol i weld beth yw pwynt y neges?
Na, dim yn broblem, ond weithia ma'n gneud sens i ddyfynu fel'na pan mae bobol erill wedi cyfrannu postiau rhyngddynt. Hawddach i ddallt. Felly oes,
mae na adegau pan mae o'n ddefnyddiol. Mi ddigwyddodd i fi heddiw. Dwi ddim yn mynd i golli cwsg am y peth, ond gan mai edefyn i bobol roi holi/sylwadau am betha newydd ar y maes ydi hwn, roedd gen i funud bach yn sbar i ofyn cwestiwn.
Mr X yn dweud fod stwff Jarman am fod ar gael mewn box set
Mr Y yn ei ddyfynu, gan ddweud "hen bryd"
Mr X yn dyfynu'r dyfyniad, ac ymhelaethu y bydd pob albym "heblaw un", yn y box set
Mr Y yn dyfynu'r dyfyniad o ddyfyniad, a gofyn "pa un?"
Mr X yn dyfynu'r dyfyniad o ddyfyniad o ddyfyniad, a dweud ei bod yn albym sydd ar gaset yn unig
Mr Z (fi) yn rhoi ei big i mewn, yn trio dyfynu'r dyfyniad o ddyfyniad o ddyfyniad o ddyfyniad, wrth ofyn os mai Enka oedd yr albym mae o'n son am.
Ges i neges yn deud "Chei di ddim dyfynu mwy na 3 dyfyniad mewn un". Yn y 6 mlynadd dwi wedi bod yn iwsio'r maes, dwi'n siwr mod i wedi dyfynu mwy na tri oddifewn i un, rywbryd(?). Dyna pam dwi'n recno fod o'n rheol newydd.
Ond peidiwch dyfynu fi ar hynna...