[quote="Madrwyddygryf"] Mae eu syniadaeth yn wirion bost, heb unrhyw sylfaen diwinyddiaeth, traddodiad neu diwylliant.
Nid yw dweud hynny'n deg. Rhaid i bob 'crefydd' ddechrau rywle a rywbryd. Mae ganddyn nhw bob math o lyfrau diwinyddol, a thraddodiadau.....jyst eu bod nhw'n digwydd bod yn ifanc, ac yn fwy pwysig bod rhaid TALU amdanynt!
Cwlt yw scientology, ac nid crefydd, gan bod popeth yn gyfrinachol.
Gall unrhyw godi'r Beibl, er enghraifft, i ddysgu am Iesu Grist...ond cymera gip ar wefan y scientologists i ddysgu amdanynt, a be welwn ni? ambell frawddeg amwys, ac yna linc i brynu rhywbeth!
o.n. cytunaf bod angen achub Katie Holmes!