Fe sylwch fod adran newydd yn y 'Panel Rheoli Personol' o'r enw 'Cyfeillion a Gelynion'. Mae’ch rhestr cyfeillion yn cynnwys aelodau rych chi’n cyfathrebu â nhw’n aml. Bydd modd i chi weld os ydynt arlein, neu ddanfon neges breifat yn hawdd.
Mae'r rhestr gelynion yn ddefnyddwyr yr ydych am eu hanwybyddu fel arfer. Ni ddangosir negeseuon gan y defnyddwyr hyn yn llawn, ac ni chaniateir negeseuon preifat. Nodwch allwch chi ddim anwybyddu cymedrolwyr na gweinyddwyr.
Gellir ychwanegu defnyddwyr i'r rhestrau mewn 2 fordd. Tu fewn i broffeil pob defnyddiwr, ceir dolenni i ychwanegu y defnyddiwr i'ch rhestr Cyfeillion neu Gelynion, neu, gellir ychwanegu defnyddwyr i'r rhestrau trwy ychwanegu enw i'r adran 'Cyfeillion a Gelynion' yn y Panel Rheoli. Gellir tynnu defnyddiwr o'r rhestrau hefyd yn yr un modd.