Siapan

Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes.
Rheolau’r seiat
Llefydd i fynd atynt, pobl i'w gweld. Seiat ar gyfer teithwyr y maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Siapan

Postiogan Curlydog » Sul 13 Ion 2008 11:41 am

Heia,

Es i i Siapan 日本 mis Ebrill dewthaf fel 'exchange student' am chwech wythnos. Nes i aros ym Omi hachiman efo 'host family' ac es i i ysgol yno yn Omikyodaisha. Ges i lawr o hwyl ac darganfodais fod Siapan yn wlad ychwynol o wych. Nes i lawer o deithio efo fy 'host family'. Dwi'n awgrymi dy fod di'n hefyd mewn trwy Tokyo 徒居 neu Osaka 小坂 ac hedfan allan o'r llall. Fy hoff le oedd Kyoto 寄与と. Mae yna llawer o fethau i'w weld yno. Mae rhaid i chi ymweld a'r kinkakujo sefo y temple sydd wedi ei adeiladu allan o aur. Mae'n hawddi teithio o gwmpas Kyoto ac mae tocyn bws dim ond yn costi tua 650 yen am y ddydd ac mae'r bwsiau yn rhedeg i fobman. Mae Osaka hefyd yn werth i weld. Fy hoff le yna oedd Osakajo sef y castell. Mae yn lift yn ganol y castell sydd yn eitha unreal ond mae'n dangos i chi shwt technogol mae'r lle. Mae'r bwyd yn Siapan 日本yn amazing ac dros yr holl 6 wythnos nes i fyw yno nes i dim fwyta unrhywbeth o ni dim yn lico. Mae rhaid i chi trio y fara パン。
Paid a fesco os dy wyt ti ddim yn gallu siarad lawer o Siapaniaidd mae lawer o fobol yn gallu siarad Saesneg ac mae nhn'n wastad yn neis i'r gaijin. Mae rhan fwyaf o'r arwyddion yn yr orsafau tren etc yn Saesneg hefyd ac fel arfel mae yna llawer o gaijin eraill ichi helpi chi hefyd. Dwi wedi fod yn dysgu Siapaniadd yn ysgol yma yn Sealand Newydd am 4 flwydd ac dwi dal ddim yn gallu darllen y kanji so mae'r pobl Siapaniaidd yn deall fod e'n galed i darllen pobeth ac mae nhw'n bylon helpi. Mae'r pobl Siapaniaidd yn hyfryd ac yn hoff iawn o rhoi anrhegion so falle fydd e'n tallu i chi fynd a cwpwl o anrhegion fach Cymraeg gyda chi.
Gobeithio chi'n mwynhae dy taith yno.



Rwy'n flin amdano fy Gymraeg, mae'n eitha wael ond does gen i ddim llawer o gyfle i ddefnyddio fe yma yn Seland Newydd.
Curlydog
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 1
Ymunwyd: Sul 13 Ion 2008 10:59 am
Lleoliad: Seland Newydd

Postiogan ffrwyth melys! » Llun 14 Ion 2008 1:16 pm

Fues i yna ym mis Hydref 2005, a syrthio mewn CARIAD efo'r lle. Y wlad, y bobl a'r diwylliant. Aaaaandros o culture shok!
Naethon ni hedfan i Kyoto, wedyn draw i Hiroshima - sgoriadn llygad ofnadwy, anodd coelio fod affliw o ddim byd ar hyd y ddinas 60 mlynadd yn ol, a wedyn fe orffennom ni ein taith yn Tokyo.
Dwi mor genfigennus o unrhywun sy'n deud i bod nhw'n mynd i Japan, trip anhygoel. Mi fydd rhaid cael go ar carioci! A hefyd - tria bob dim alli di i'w fwyta! WAW.
Mwynha dy daith!
Rhithffurf defnyddiwr
ffrwyth melys!
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 205
Ymunwyd: Maw 01 Tach 2005 9:24 pm
Lleoliad: Caernarfon

Re: Siapan

Postiogan Llefenni » Maw 22 Ion 2008 11:43 am

Diolch i bawb am eu cyngor trafeilio!

Yn enwedig i Curlydog gyda'i ysgrifen Siapaneiaidd :D Dwi di bod ny ailfeddwl mynd, gan fy mod yn hogan a ddim yn rhy hyderus mewn lle diarth, nenwedig gan fy mod yn un croen gole uffernol a gwallt golau - ydw i'n debygol o gael hassle yna tybed?

Wel eniwe, diolch eto i chi gyd!
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Re: Siapan

Postiogan Emma Reese » Mer 30 Ion 2008 4:25 am

Wow! Mae 'na gymaint o Gymry sy wedi ymweld â Japan! Fues i erioed yn Hiroshima er mod i wedi byw yn Kobe am bum mlynedd. Mi ges i fy ngeni yn Tokyo a fy nwyn i fynny yn Kawasaki (ger Tokyo.) Mi nes i syrthio mewn cariad efo Cymru, ffrwyth melys. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Emma Reese
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 94
Ymunwyd: Mer 12 Hyd 2005 1:29 pm
Lleoliad: UDA

Re: Siapan

Postiogan Llefenni » Mer 30 Ion 2008 9:42 am

Waw! Stori a hanner Emma! Dyle ti sgwennu hunangofiant i ni i gyd gael gweld sut oedd hi arna ti yn Siapan! 8)
I'm Brian Fantana.
Rhithffurf defnyddiwr
Llefenni
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1658
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 2:35 pm
Lleoliad: Gwêl Y Stadiwm, Rhif 9

Nôl

Dychwelyd i Crwydro

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron