Eeek dwi wedi clywed pethau erchyll am y gêm, digon i fod yn amheugar amdani (ffordd da o wastraffu amser ac ati). Dwi'n nabod un gwr sy wedi rhoi ei gopi yn y sbwriel wedyn dim ond 3 mis o chwarae, oherwydd roedd o wedi treulio cymaint o'i amser rhydd arni, y rhan fwyaf o'r diwrnod neu rhywbeth. Ac hefyd dwi'm yn arfer hoffi gêmau lle mae angen i ti dalu hyd yn oed mwy o arian pob mis, mae hynny'n sketchy uwchlaw popeth oherwydd dwi'n gwybod eisoes bod Warcrack yn gallu bod yn caethiwus, i ddeud y lleiaf.
Pwy sy'n chwarae? Faint o amser dach chi'n cymryd arni yn union? Dwi ddim eisiau penderfynu ar gallineb y chwaraewyr cyn cael y ffeithiau o bawb.