Ond am bethau heblaw hynny, ia mae pobl heddiw'n colli tipyn bach o foesau (er fy mod i ddim yn dweud nad oes unrhyw trosedd yn y gorffennol) a mae hynny'n gael ei gweld yn fy ninas ambell waith. Fel ti dwi wedi bod yn meddwl am y bwnc 'ma ond i ddeud y gwir dwi'm yn gallu dod o hyd i unrhyw ateb heblaw deddfau cras, sy'n risgio creu cymdeithas erchyll yn le cymdeithas erchyll arall. Yn anffodus, allan o'r ffordd 'hwn dwi'm yn gweld llawer arall. Cristnogaeth? Wel dwi'n llai optimistaidd amdani 'na ti, mae'r credo'n darfod yn fy ardal a bydden ni angen llawer o lwc i gyfnewid y ddigwyddiad 'na mewn un diwrnod. Pan mae pobl'n clywed y term 'na, di nhw ddim eisiau gwybod neu gwrando arni, o leiaf, fel arfer, yn y rhan fwyaf o achosion (hmmm does neb arall sy'n edrych ar dy neges, prawf ydy hynny). Ambell waith dwi'n credu'n wir bod y byd yn rili f****** wp ond wel, dwi'n gobeithio na bydd unrhyw anarchiaeth neu unbennaeth cyffredinol nes fy farwolaeth, o leiaf.
Ar wefan ymgeisydd arlywyddol America Mike Huckabee mae'r slogan "Family, faith, freedom". Credaf fod y tri peth yma'n mynd gyda'u gilydd law yn llaw.
Llaw yn llaw? Wel dwi'n cytuno fy-hun, ond mae llawer o bobl dwi'n nabod yn anghytuno, pan mae pobl yn rhy ddifrif am bob math o "rhyddid" maen nhw'n arfer poeri ar Grefydd. Libertarians/anarchydd ac ati. Os wyt ti'n siarad am rhyddid yn rhy aml bydd pobl yn credu bod rhaid iddynt lladd pob Crefydd yn hollol i fod yn rhydd (yn eironig wrth gwrs mae hwn yn lladd rhyddid y bobl i benderfynu eu-hun os ydy nhw eisiau cymryd rhan mewn crefydd). Dyma problem enfawr dwedwn i...bydd rhaid i Gristion neu credwyr arall egluro pam di ffyrdd eithaf fel hwn ddim yn angenrheidiol (neu syniad da yn y lle cyntaf). Ma gynnon nhw waith os dwi'n nabod sefyllfa fy ngwlad ar y funud.
--
Dwi'n gobeithio bod fy Nghymraeg yn bosib i ddall, ro'n i wedi blino pan ro'n i'n ysgrifennu.