Hen Rech Flin a ddywedodd:Yr unig un yr ydym yn gwybod amdano sydd wedi ei gadw trwy ras Crist o'r Beibl yw'r lleidr a chyd ddienyddwyd gyda Christ. Pe bai rhywun wedi gofyn i'r gwron hwn beth oedd ei farn am athrawiaeth y Drindod, neu beth oedd ei farn am athrawiaeth draws gyfnewidiad yr offeren, ni fuasai ganddo glem. Mi fuasai wedi ei gondemnio fel heretic gan yr uchel Galfiniaid. Ond eto roedd ei ffydd syml, heb ddealltwriaeth athrawiaethol, yn ddigon i'r Arglwydd dweud wrtho Heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.
...Cariad at Grist yw sail ffydd Cristionogol. Ffydd yng Nghrist yw sylfaen gwaredigaeth nid athrawiaeth.
Amen, HRF.
Dyna un o'r digwyddiadau mwyaf anhygoel yn y Beibl. Tra buasai crefyddau dyn yn condemnio y lleidr ar y groes i uffern, fe wnaeth Iesu ei wobrwyo am ei ffydd syml, fel cafodd Abraham, Isaac, Jacob, Moses a phawb arall oherwydd eu FFYDD.
Camddealltwriaeth sylfaenol am Gristnogaeth yw fod cyfiawnder a'ch ticed i'r nefoedd yn dod o'ch gweithredoedd. Nope. Ni fydd eich gweithredoedd byth ddigon da i gael pasport i'r nefoedd.
Rwy'n clywed y sceptics yn barod yn gweiddi- dyw hynny ddim yn deg! Gwn am bobl sydd ddim wedi bod yn lladrata, gwn am bobl sydd wedi rhoi i elusennau... a dyw nhw ddim yn Gristion. Felly pam mae nhw'n mynd i uffern?
Cwestiwn teg. Wel oherwydd ni i gyd yn bechaduriaid, ie, pawb ohonom. Ein pechodau sy'n ein ymatal rhag mynd i'r nefoedd. Crefyddau dynol sy'n dilyn y drefn "rydych chi'n cynilo eich lle yn y nefoedd gyda'ch gweithredoedd". Crefydd Duw yn dweud "wnewch chi byth gyraedd fy safonau sanctaidd trwy eith gweithredoedd. Felly, rhowch ffydd ynddo i, fe wnaf i chi yn gyfiawn, gan mae cyfiawnder ond yn dod gen i, ac fe gewch eich gwobrwyo".
Fydde dim dyn sydd eisiau pwer dros pobl yn creu y fath grefydd, dim ond Duw gyda'i awdurdod fyddai'n gallu cario'r fath beth. Mae'r gras yn anhygoel, mor anhygoel nes fod ein rhesymeg ni methu dygymod gyda dyn ar y groes yn cael ei achub, ond dyna mor anhygoel yw gras Duw, mae tu hwnt i ddealltwriaeth.
Wedyn fe ddweith y sceptic: "ond peth hawdd yw cael ffydd". Fe welwn o brofiad fod ffydd yn beth anodd, ac yn wir, gwobr gan Dduw yw y pendraw a fedr yr unigolyn byth dderbyn y wobr os yw gyda'r agwedd anghywir.