nicdafis a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:Un peth - oes posib cael y rhithffurfiau etc yn ol i ochr chwith y sgrin mewn edefion - mae'n ei gwneud yn haws cysylltu'r neges a'r negeseuwr.
Dw i'n synnu bod mwy o bobl ddim wedi sôn am hyn cyn ti. Dw i'n eitha lico'r drefn newydd.
Wy'n lico'r drefn newydd hefyd - 'neud e'n haws i ddilyn trywydd trafodeth, plys ma'r ffaith bod y blychoedd trafod yn cael 'u cywasgu yn help mawr (diolch!)
Ma'r cyfan yn edrych yn crisp. Neis iawn. Un cwyn bach though...
nicdafis a ddywedodd:Dw i'n edrych ymlaen at gael defnyddio maes-e fel Defnyddiwr am y tro cyntaf.
Nag o'n i'n gyfrannwyr o'r blaen? Ma'r statws 'defnyddiwr' newydd 'ma'n 'neud i fi deimlo bach yn frwnt