Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 23 Ion 2008 12:45 am

Dyma'r safonau Beiblaidd o redegl system cyfiawnder:-

Wel yn y lla cyntaf, mae llawer o systemau modern (yn yr orllewin) yn dilyn syniad gyffredinol y system mae'r beibl yn ymddangos. Nid yn hollol wrth gwrs, ond ia wel... Ac eto, am yr enghraifft wyt ti'n rhoi i mi, wel buasai hynny'n weithio'n dda tasai pawb yn berffaith a gonest. Wyt ti'n dweud dy-hun (ym mhwnc arall) bod pawb yn pechadur. Felly, hyd yn oed tasai pawb yn defnyddio'r system 'ma (a mae'r syniad cyffredinol yn cael ei weld yn systemau cyfiawnder heddiw), buasai problemau'n digwydd oherwydd natur dynol. Hyd yn oed da system "perffaith" buasai pobl yn amryfuso, dylen ni risgio llofruddio pobl ein-hun, gan anhap? Risg ydy hynny, pan mae pobl yn defnyddio unrhyw system, perffaith neu dim. Roedd Adam ac Eve yn sefyllfa berffaith, ond be digwyddodd iddynt yn union?

Di hynny ddim yn cyfnewid y bwynt sylfaenol o gwbwl.

Ac hefyd, dwi'm yn gweld unrhywbeth yn dy enghraifft sy'n dweud bod RHAID i ni ladd llofruddwyr pob amser heb eithriad. Pan mae Duw (neu pobl fel Moses ac Iesu) yn siarad am gosb eithaf, fel arfer cyfeiriad (nid gorchymyn) ydy hwn , cyfeiriad at arfer sy wedi bod yn aml ers dechrau yn yr wledydd Paganaidd lle roedden nhw'n byw. Di hwn ddim cael ei gwahardd, dwi'n cydnabod, ond lle ydy'r rhan lle mae Duw yn gorchymyn cosb eithaf yn uniongyrchol?

darllenaist ti y linc o gwbl?

Darllenais i hi, a dwi'n cytuno da'r syniad yn gyffredinol, ond nid ar y bwynt union dan ni'n dadlau yn y bwnc 'ma.

Does dim rhagrith. Nid pobl diniwed mae'r wlad (ie y wlad, nid unigolion yn tynnu'r ddeddf i'w dwylo eu hunain) yn rhoi'r gosb eithaf i ond pobl sydd wedi llofruddio.

Wel os oes rhaid i mi egluro, dyma'r rhagrith: Hyd yn oed os ydy'r wlad yn lladd neb ond llofruddwyr, maen nhw'n arddangos neges od: mae lladd yn drwg, felly, maen nhw'n lladd i brofi bod lladd yn drwg. Hmmm. Dyna'r rhagrith yn fy marn i.

The Christian position is that all authority comes only from God

Wel dwi'm wedi anghytuno ar y bwynt 'na, ond dwi'm yn cytuno ar dy ffordd o ddehongli be mae o'n dweud yn y beibl. Wel mae hynny'n ddigwydd ambell waith, hyd yn oed rhwng Cristion. Ond os dan ni ddim yn lladd ein-hun arni, problem dydi hwn ddim.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan rooney » Mer 23 Ion 2008 12:52 am

Gwenci Drwg a ddywedodd:Ac eto, am yr enghraifft wyt ti'n rhoi i mi, wel buasai hynny'n weithio'n dda tasai pawb yn berffaith a gonest.


fydd hyn yn helpu pobl fod yn onest:-

Secondly, perjury is punishable by the same punishment as would have been
inflicted upon the innocent man were he to have been found guilty. The witnesses
bear the primary responsibility of conviction. See: Deut 17:07, 19:15-20, 1 Kgs
21:13; Est 7:10.



Ac hefyd, dwi'm yn gweld unrhywbeth yn dy enghraifft sy'n dweud bod RHAID i ni ladd llofruddwyr pob amser heb eithriad. Pan mae Duw (neu pobl fel Moses ac Iesu) yn siarad am gosb eithaf, fel arfer cyfeiriad (nid gorchymyn) ydy hwn


Gan pwy derbyniodd Moses y ddeddf?
Ni wedi penderfynnu peidio cosbi y llofruddiwr yn ol ei drosedd. Pam? Gan ni'n meddwl ni'n gwybod yn well na Duw. Ac ni'n talu'r pris am hyn.

Wel os oes rhaid i mi egluro, dyma'r rhagrith: Hyd yn oed os ydy'r wlad yn lladd neb ond llofruddwyr, maen nhw'n arddangos neges od: mae lladd yn drwg, felly, maen nhw'n lladd i brofi bod lladd yn drwg. Hmmm. Dyna'r rhagrith yn fy marn i.


dyna mae'r byd yn ddweud, nid dyna mae'r Beibl yn ddweud. Cyfiawnder yw cydbwyso'r drosedd gyda'r gosb, fel arall does dim cyfiawnder. Yn dilyn logic y ddadl yna'n bellach fydde ti ddim yn cosbi neb. Mae troseddwyr wedi troseddu yn erbyn pobl diniwed ac felly'n haeddu cosb yn ol eu trosedd, syml + cyfiawn.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 23 Ion 2008 1:32 am

Yn dilyn logic y ddadl yna'n bellach fydde ti ddim yn cosbi neb

Nid o gwbwl.

Does dim angen i ni ddefnyddio'r un trosedd i'u cosbi nhw. Pan dan ni'n rhoi pobl yng ngharchar, dan ni ddim yn gwneud hwn achos eu bod nhw newydd roi rhywun arall yng Ngharchar arall i rheswm anghyfreithlon. Na, i bob trosedd arall, mae'r cosb yn arfer gwahanol o'r trosedd (sbel yn y carchar i ladrad, dirwy i amlygiad*). Pam dylai hwn fod yn wahanol mewn achos llofruddion?

*Pan mae rhywun yn amlygu ei-hun yn y cyhoedd, di'r heddlu ddim yn gwneud yr un beth iddynt wedyn, dwi'n gobeithio!
Gan pwy derbyniodd Moses y ddeddf?

Wel mewn yr achos 'na roedd y ddeddf yn cael ei gorfodi yn mwy uniongyrchol o Dduw, gan proffwyd sydd newydd siarad â fo. Heddiw does gynnon ni ddim bobl fel hynny, ti'n gallu bod yn siwr.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan ceribethlem » Mer 23 Ion 2008 8:31 am

rooney a ddywedodd: Pam ti'n meddwl fod Duw wedi newid ei feddwl ynglyn a difrifoldeb llofruddio, a sut i gosbi llofruddwyr? Mae llofruddio yn drosedd hynod o ddifrifol ddoe a heddiw. Beth sydd wedi newid? Dim byd heblaw fod pobl yn meddwl fod nhw'n gwybod yn well na Duw ac yn ei anwybyddu.
Fi ar goll yn rhywle nawr, ti'n gweud fod Duw wedi newid ei feddwl ar ol iddo osod y Deg Gorchymyn? Ai oherwydd ymddygiad pobol mae e wedi newid ei feddwl? Pam na fyddai Duw holl-wybodus yn gwybod hyn yn y lle cyntaf ac yn creu'r gorchymyn cyntaf yn un addas?
Yn bersonol dwi o'r farn mai pobol sydd wedi cynnig y gosb eithaf nid Duw, ac mai syniad Duw yw 6: Na ladd. heb unrhyw clause 6b.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan Rhys Llwyd » Mer 23 Ion 2008 10:55 am

Cwlt Cristnogol adain-dde (sydd wedi lleoli yng Nghymru fel maen digwydd :ofn: ) ydy Christian Voice Rooney. Dwyt ti'n gwneud dim lles i dy ddadleuon yn pwyso ar ddadleuon a rhesymeg Christian Voice. I ddechrau gwerth nodi nad oes unrhyw gyfeiriadaeth gan Christian Voice at hanfod Cristnogaeth real - sef cyfiawnhad drwy ffydd nid drwy weithredoedd. Fel llawer o Gristnogion Efengylaidd Adain-Dde mae Christian Voice yn swnio'n Arminaidd iawn i mi, hynny yw pwyslais ar weithredoedd yn hytrach na'r traddodiad Cymreig o Galfiniaeth sef mae o Dduw mae'r cyfan yn dod nid trwy ymdrech bersonol. Fe welw chi wedyn pam fod Arminwyr yn mynd yn het up am bechodau unigol fel "gwrwgydiaeth" - ma nhw'n credu fod modd i ewyllys rydd dyn daclo y pechodau yma. Ple basw ni'n credu mae dim ond Duw all ddelio a nhw, drwy ffydd a chariad.

Dyna pam nad ydw i yn medru uniaethu a mudiadau fel Christian Voice. Fedri di ddim gorfodi pobl sy ddim yn Gristnogion i fyw yn ol y Beibl - beth sy angen gwneud ydy esbonio cyfiawnhad drwy ffydd i bobl ac os don nhw'n Gristnogion fe ddaw nhw i ddeall drostynt hwy eu hunain beth sy'n iawn a beth sy'n anghywir yn ol Duw. Pa ddiben sydd i gael cenedl ar yr wyneb sy'n ddi bechod OND fod calonau pobl dal heb eu troi?! Dyna ma Christian Voice moyn, deddfau gwlad i neud pechodau yn anghyfreithlon - pam? Calonau pobl sydd angen newid nid deddf gwlad, all deddf gwlad ddim newid calon neb - dim ond Duw all.

Os wyt ti Rooney yn credu fod pobl sy ddim a fydd yn Iesu Grist yn mynd i uffern dydio ddim yn gonsyrn i ti fod y bobl yma ti am ddienyddio i bob pwrpas nid yn unig yn marw ond hefyd yn cael eu taflu i uffern heb gyfle i ymchwilio a dod i adnabod Iesu? Yn bersonnol dyna'r consyrn mwyaf sydd gyda mi yn erbyn y gosb eithaf - dwi'n meddwl fod pawb, hyd yn oed Llofruddion a Pedoffeiliaid [contrafersial] yn haeddu cyfle i ddod i adnabod Iesu, yr un wir berson all newid eu ffyrdd. O gael y wladwriaeth yn eu llofruddio mae'r wladwriaeth yn gwadu eu hawl posib i chwilio a dod i adnabod Iesu a ma hynny yn sick a twisted.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan rooney » Iau 24 Ion 2008 4:13 am

Gwenci Drwg a ddywedodd:Does dim angen i ni ddefnyddio'r un trosedd i'u cosbi nhw. Pan dan ni'n rhoi pobl yng ngharchar, dan ni ddim yn gwneud hwn achos eu bod nhw newydd roi rhywun arall yng Ngharchar arall i rheswm anghyfreithlon. Na, i bob trosedd arall, mae'r cosb yn arfer gwahanol o'r trosedd (sbel yn y carchar i ladrad, dirwy i amlygiad*). Pam dylai hwn fod yn wahanol mewn achos llofruddion?


ti'n rhoi nhw mewn i chwarae cardiau a playstation. Am ryw reswm ti ddim yn cytuno gyda cosbi. Felly, rwyt yn anghytuno gyda Duw sydd yn cosbi pechodau a drwgweithredu.
Trwy feirniadu Duw a'i gyfraith yn yr Hen Destament yr wyt yn agor y drws i'r anffyddwyr sgori pwyntiau eitha teilwng yn erbyn cysondeb Cristnogion (nid fod hyn yn cefnogi'r safbwynt anffyddiol o gwbl)

Wel mewn yr achos 'na roedd y ddeddf yn cael ei gorfodi yn mwy uniongyrchol o Dduw, gan proffwyd sydd newydd siarad â fo. Heddiw does gynnon ni ddim bobl fel hynny, ti'n gallu bod yn siwr.


Wyt ti'n meddwl fod Duw wedi newid ei feddwl ynglyn a'i ddigofaint yn erbyn llofruddio? Pam? Lle mae dy sylfaen Beiblaidd am hyn?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan rooney » Iau 24 Ion 2008 4:18 am

Rhys Llwyd a ddywedodd:Cwlt Cristnogol adain-dde (sydd wedi lleoli yng Nghymru fel maen digwydd :ofn: ) ydy Christian Voice Rooney. Dwyt ti'n gwneud dim lles i dy ddadleuon yn pwyso ar ddadleuon a rhesymeg Christian Voice. I ddechrau gwerth nodi nad oes unrhyw gyfeiriadaeth gan Christian Voice at hanfod Cristnogaeth real - sef cyfiawnhad drwy ffydd nid drwy weithredoedd. Fel llawer o Gristnogion Efengylaidd Adain-Dde mae Christian Voice yn swnio'n Arminaidd iawn i mi, hynny yw pwyslais ar weithredoedd yn hytrach na'r traddodiad Cymreig o Galfiniaeth sef mae o Dduw mae'r cyfan yn dod nid trwy ymdrech bersonol. Fe welw chi wedyn pam fod Arminwyr yn mynd yn het up am bechodau unigol fel "gwrwgydiaeth" - ma nhw'n credu fod modd i ewyllys rydd dyn daclo y pechodau yma. Ple basw ni'n credu mae dim ond Duw all ddelio a nhw, drwy ffydd a chariad.


beth, ti'n anghytuno gyda eu dadleuon sydd yn seiliedig ar y Beibl? Yna gyrra dy concerns iddyn nhw a dadleua y ffordd Feiblaidd, ar sail ysgrythur nid ar sail syniadau dyn

Dyna pam nad ydw i yn medru uniaethu a mudiadau fel Christian Voice. Fedri di ddim gorfodi pobl sy ddim yn Gristnogion i fyw yn ol y Beibl - beth sy angen gwneud ydy esbonio cyfiawnhad drwy ffydd i bobl ac os don nhw'n Gristnogion fe ddaw nhw i ddeall drostynt hwy eu hunain beth sy'n iawn a beth sy'n anghywir yn ol Duw. Pa ddiben sydd i gael cenedl ar yr wyneb sy'n ddi bechod OND fod calonau pobl dal heb eu troi?! Dyna ma Christian Voice moyn, deddfau gwlad i neud pechodau yn anghyfreithlon - pam? Calonau pobl sydd angen newid nid deddf gwlad, all deddf gwlad ddim newid calon neb - dim ond Duw all.


wyt ti'n meddwl fod Duw dim ond eisiau un gwlad, Israel, 3000 mlynedd yn ol i fyw yn ol ei ddeddfau a'i foesau? Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr. Unwaith eto mae gormod o Gristnogion yn cefnu ar yr Hen Destament ac felly'n rhoi open-goal i'r anffyddwyr danseilio'r Beibl.

Os wyt ti Rooney yn credu fod pobl sy ddim a fydd yn Iesu Grist yn mynd i uffern dydio ddim yn gonsyrn i ti fod y bobl yma ti am ddienyddio i bob pwrpas nid yn unig yn marw ond hefyd yn cael eu taflu i uffern heb gyfle i ymchwilio a dod i adnabod Iesu? Yn bersonnol dyna'r consyrn mwyaf sydd gyda mi yn erbyn y gosb eithaf - dwi'n meddwl fod pawb, hyd yn oed Llofruddion a Pedoffeiliaid [contrafersial] yn haeddu cyfle i ddod i adnabod Iesu, yr un wir berson all newid eu ffyrdd. O gael y wladwriaeth yn eu llofruddio mae'r wladwriaeth yn gwadu eu hawl posib i chwilio a dod i adnabod Iesu a ma hynny yn sick a twisted.[/


Nope. Fydde nhw'n cael cyfle i edifarhau a bod yn "born again" cyn y gosb eithaf. Wedyn ceith Duw ddelio a nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan rooney » Iau 24 Ion 2008 4:35 am

ceribethlem a ddywedodd: Fi ar goll yn rhywle nawr, ti'n gweud fod Duw wedi newid ei feddwl ar ol iddo osod y Deg Gorchymyn? Ai oherwydd ymddygiad pobol mae e wedi newid ei feddwl? Pam na fyddai Duw holl-wybodus yn gwybod hyn yn y lle cyntaf ac yn creu'r gorchymyn cyntaf yn un addas?
Yn bersonol dwi o'r farn mai pobol sydd wedi cynnig y gosb eithaf nid Duw, ac mai syniad Duw yw 6: Na ladd. heb unrhyw clause 6b.


wrth gwrs ti'n mynd i feddwl hynny fel anffyddiwr, yr wyt yn meddwl mae cynnyrch dynol yw'r Beibl nid gair ysbrydoledig Duw

mae Duw wedi gwneud ei hun yn gwbl glir yn yr Hen Destament ei fod yn gweld llofruddio yn bechod sydd yn ffieiddbeth ac fod y person sy'n gwneud y fath beth yn haeddu'r un mesur
Mae pobl sy'n meddwl fod Iesu wedi canslo dicter Duw tuag at bechod yn camddeall Gair Duw yn syfrdanol.
Fel anffyddiwr esblygaidd fedri di ddim actiwali barnu llofruddiaeth, wedi'r cyfan yr oll ydym yn dy feddylfryd yw casgliad o gemegion sydd wedi esblygu dros biliynau o flynyddoedd i gynhyrchu'r ffliwc yr ydym, ac heb gyfrifoldeb nac atebolrwydd at unrhywun y gelli gyfiawnhau'n ben-baladr o gwbl. Survival of the fittest huh? Natur yn gwneud ei waith, DETHOL
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan ceribethlem » Iau 24 Ion 2008 8:25 am

rooney a ddywedodd:
ceribethlem a ddywedodd: Fi ar goll yn rhywle nawr, ti'n gweud fod Duw wedi newid ei feddwl ar ol iddo osod y Deg Gorchymyn? Ai oherwydd ymddygiad pobol mae e wedi newid ei feddwl? Pam na fyddai Duw holl-wybodus yn gwybod hyn yn y lle cyntaf ac yn creu'r gorchymyn cyntaf yn un addas?
Yn bersonol dwi o'r farn mai pobol sydd wedi cynnig y gosb eithaf nid Duw, ac mai syniad Duw yw 6: Na ladd. heb unrhyw clause 6b.


wrth gwrs ti'n mynd i feddwl hynny fel anffyddiwr, yr wyt yn meddwl mae cynnyrch dynol yw'r Beibl nid gair ysbrydoledig Duw

mae Duw wedi gwneud ei hun yn gwbl glir yn yr Hen Destament ei fod yn gweld llofruddio yn bechod sydd yn ffieiddbeth ac fod y person sy'n gwneud y fath beth yn haeddu'r un mesur
Mae pobl sy'n meddwl fod Iesu wedi canslo dicter Duw tuag at bechod yn camddeall Gair Duw yn syfrdanol.
Fel anffyddiwr esblygaidd fedri di ddim actiwali barnu llofruddiaeth, wedi'r cyfan yr oll ydym yn dy feddylfryd yw casgliad o gemegion sydd wedi esblygu dros biliynau o flynyddoedd i gynhyrchu'r ffliwc yr ydym, ac heb gyfrifoldeb nac atebolrwydd at unrhywun y gelli gyfiawnhau'n ben-baladr o gwbl. Survival of the fittest huh? Natur yn gwneud ei waith, DETHOL

Dwyt ti'n gwybod dim am fy nghredoau crefyddol i, pam wyt ti'n mynnu fy mod yn anffyddiwr? Y cyfan wyt ti'n ei wybod yw fy mod i'n credu mewn esblygiad.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Saddam Hussein wedi cael ei grogi

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 24 Ion 2008 10:51 am

rooney a ddywedodd:wyt ti'n meddwl fod Duw dim ond eisiau un gwlad, Israel, 3000 mlynedd yn ol i fyw yn ol ei ddeddfau a'i foesau? Nid yw hynny'n gwneud unrhyw synnwyr. Unwaith eto mae gormod o Gristnogion yn cefnu ar yr Hen Destament ac felly'n rhoi open-goal i'r anffyddwyr danseilio'r Beibl.


Nid ydw i'n cefnu ar yr Hen Destament ond mae'n rhaid i ti ei ddarllen yng nghyd-destun a law yn llaw a'r Testament Newydd. I fyny at farwolaeth Iesu ar y groes roedd gan Dduw gyfamod arbennig a chenedl Israel, roedd felly yn medru delio gyda eu pechodau mewn modd cyfundrefnol fel cenedl ac uned ynddo ef ei hun. Wedi i Iesu farw ar y groes peidiodd y genedl etholedig yn yr un ystyr a'i ceir yn yr hen destament a daeth y gair yn gnawd i achubiaeth pob un, yn Iddew ac yn genedl ddynion (pawb arall). Nid oes modd i ti gymharu cenhedloedd heddiw gyda chenedl Irsael yr hen destament oherwydd nid yw Duw wedi ethol unrhyw genedl neulltiedig heddiw - delio gyda eneidiau dynion a merched unigol y mae Duw heddiw ac trwy ei ragluniaeth mae nhw yn ymffurfio yn genhedloedd ydyn, ond nid yw Duw yn dosbarthu barn a gras ar lefel y genedl mae yn ddosbarthu ar sail unigolyddol i bob Iddew a chenedl ddyn.

Wrth gwrs fod Duw yn deisyfu i bob cenedl heddiw fyw yn ol ei ddeddfau a'i foesau ond maen gwireddu hynny drwy i bobl yn y cenhedloedd yna ddod i ffydd yng Nghrist, wedi hynny bydd y bobl yna yn cael eu 'trawsffurfio' (Rhuf 12:2) ac y mwya o Gymry bydd wedu eu 'trawsffurfio' y mwya "Cristnogol" fydd y Genedl. Maen digwydd bottom up yn ein dyddia post-Croesholiad ni nid top down fel yn nyddiau pre-Croesholiaid y genedl etholedig yn yr Hen Destament. Maen rhaid i ti ddeall hyn rooney, o ddeall hyn dwi'n tybied y bydd dy "genhadaeth" ysbrydol di ar ei hennill o lawer.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai