Wel, dyma ni o'r diwedd gydag ychydig o fanylion am y cwrs 'Sgwennu Comedi':
All neb eich dysgu i fod yn ddoniol. Ond yn ystod y penwythnos yma fe gewch eich annog a'ch helpu i wneud y gorau o'ch hiwmor arbennig chi. Trefnir y cwrs mewn cydweithrediad efo BBC Radio Cymru ac er y bydd cyfle i sgwennu comedi o bob math bydd pwyslais ar sgwennu ar gyfer radio. Mae croeso arbennig i rai sydd eisoes yn sgwennu pethau ar gyfer eu cymuned leol ac awydd mentro ymhellach.
Mei Jones
Yn frodor o Landdona ar Ynys Môn, bu bellach yn actio, sgriptio a chyfarwyddo ers deuddeg mlynedd ar hugain. Dechreuodd ei yrfa gyda Chwmni Theatr Cymru cyn dod yn un o aelodau cyntaf Theatr Bara Caws. Ar y radio, bu’n rhan o dîm ‘Pupur a Halen’ ac ‘Wythnos i’w Anghofio’, ac yna fe sgriptiodd, actiodd a chyfarwyddodd dair cyfres yr un o ‘C’Mon Midffild’ ac ‘Anturiaethau Dic Preifat’. Yn ddiweddar, fe’i gomisiynwyd i ysgrifennu drama gomedi o’r enw ‘Planed Patagonia’.
Tudur Owen
Wedi blynyddoedd mewn gwahanol swyddi yn cynnwys ymgymerwr ffensio trôdd at nosweithiau llawen yn perfformio ac ysgrifennu sgetsus a stand up. Bu’n rhan o griw fu’n cynnal nosweithiau stand up ar hyd a lled Cymru am ymron i ddeng mlynedd. Mae’n perfformio comedi stand up yn Saesneg yn wythnosol, yng ngogledd orllewin Lloegr yn bennaf. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer cyfresi teledu a radio gan gynnwys CNEX, Y Rhaglen Wirion ‘Na, Post Mortem a Bwletin. Yn fwy diweddar mae wedi ysgrifennu a pherfformio rhaglenni sgetsus “MAWR” ar gyfer S4C â “Sioe PC Leslie Wynne”. Enillydd gwobr “The Last Laugh” BBC 3 ar gyfer ysgrifennu comedi. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar gyfres gomedi sefyllfa i S4C, ynghyd â pharatoi sioe stand up i’w pherfformio yn ngŵyl Caeredin eleni.
Cysylltwch yn o handi i roi eich enwau i lawr ar gyfer y cwrs hwn - £90 am lety a bwyd ac arbenigedd dau diwtor gwych, mae'n andros o fargen!
post@tynewydd.org 01766 522811