Mae'r stori hon am deledu digidol Gaeleg ar dudalen flaen gwefan newyddion Cymraeg y BBC.
Dwi wedi sylwi bod straeon tebyg yn ymddangos yn aml iawn ar y dudalen ond dim sôn am straeon tebyg ar ochr Saesneg y wefan. Pam?
Dwi'n cofio edefyn peth amser yn ôl yn trafod sylw i straeon am yr iaith Gymraeg ar y dudalen Gymraeg ond dim byd ar yr ochr Saesneg, ond mae'r holl straeon yma am ysgolion yn yr Alban a theledu cebl yn Iwerddon yn cael cymaint o sylw ac i weld yn eitha amherthnasol i fi.