Macsen a ddywedodd:Ond dwi'n amau bod yna lot o Gymru Cymraeg allan 'fan na' sydd ddim yn ymwybodol o'r Maes, heblaw a Gymru dramor.
Anghytuno efo chdi. Llwyth o Gymry Cymraeg sy'n byw yn y Fro Gymraeg, YN defnyddio y we-ond 90% o'r amser yn sbio ac yn ymweld a phethau yn yr iaith fain. Tydi mentro i'r byd Cymraeg arlein jyst ddim yn croesi eu meddwl yn aml iawn. Efallai eu bod yn hoffi sgwrsio a malu awyr ar ambell i fforwm Saesneg- jyst ddim wedi cysidro trafod pethau yn Gymraeg (ond ceir digon o amrywiaeth yma i blesio pawb- rhywbeth at ddant pawb)- pobl efallai nad ydynt yn teimlo'n ddigon hyderus i sgwennu yn eu mamiaith. Pe byddet yn sdopio e.e. 100 o siaradwyr Cymraeg (sydd hefyd yn mynd ar y we o bryd i'w gilydd) ar y stryd ac yn gofyn iddynt a ydynt wedi clywed am maes-e yna dwi ddim yn meddwl y byddai'r ffigwr yn uchel ofnadwy.
Pobl sydd ddim wedi bod yn e.e. JMJ, Pantycelyn a sydd ddim yn aelod o CYIG. Y Cofi Dre sydd ddim yn teimlo fod yr Eisteddfod Gen yn cynnig unrhywbeth iddo. Y boi o Shir Gar sydd ddim yn darllen llawer o lyfrau yn y Gymraeg- ond a fyddai (efallai) yn cael blas ar maes-e tasa fo ond yn penderfynu cofrestru un diwrnod. Y teip o bobl sydd ddim yn
hardcore[i][/i]o ran y diwylliant Cymraeg, ond a fyddai yn cael sbort a sbri yma. Y gamp yw plannu'r hedyn, a gweld y peth yn blodeuo. Y teip sydd ddim yn gwylio llawer o ef-ffor-si, ond a fyddai, o bosib, yn mwynhau trafod rhaglenni Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg yma.
Yr Alltud- ni wn faint o siaradwyr Cymraeg sy'n byw y tu allan i Gymru. Gorau Cymro- Cymro oddi cartref. Y cyfan dduda i yw bod yna botensial aruthrol yn fama.
Syniad arall- byddai hysbyseb yn y C & D Herald (i'r Gogs) yn llawer rhatach, am wn i. Mae'r golofn lythyrau yn y papur yma wastad yn brysur- AC MAE'R MWYAFRIF O'R LLYTHYRWYR YN MEDRU'R GYMRAEG. Hysbyseb yn y papur sy'n pwyslesio nad oes raid ichi fod yn berffaith eich Cymraeg i ymaelodi- creoso i bawb. Pwyslesio'r ffaith y trafodir sawl pwnc lleol- perthnasol iawn i'r ardal. Mae'r bobl yma yn hoffi dadlau- ond mae colofn lythyrau wythnosol yn brofiad ara deg- mae mwy o mwy o bobl canol oed yn defnyddio'r we- cewch ddadlau yma hynny liciwch chi.
Yn olaf (am y tro)- faint o bobl myspace sydd yn medru'r Gymraeg, ac wedi sgwennu mymryn o Gymraeg ar eu tudalen arbennig, ond sydd ddim wedi clywed am maes-e?
Y teip sy'n dod o'r Fro Gymraeg, sydd ddim yn gwrando llawer ar gerddoriaeth Gymraeg. Y teip nad yw'n ddigon hyderus i gofrestru?
Hysbysebu'r fforwm mewn/ar rhywbeth prif ffrwd. Glyn Wise yn hyrwyddo'r peth- tasa'r boi yma wedi helpu i hyrwyddo'r peth am yr wythnosau 1af ar ol iddo ddod allan o'r ty yna byddai maes-e llawer mwy poblogaidd.
Ydi'r boi Rhydian 'na yn ffan?