Cymedrolwr: Mali
daievans a ddywedodd:R'wy i yn De Califfornia - mewn tref fechan o'r enw Laguna Beach ...
Wedi byw yma am gwarter canrif bellach - yn hirach na cyfnod fy magwraeth yng nghefn gwlad Ceredigion ...
R'wyn mentro adre i Gymru dwy neu dair gwaith y flwyddyn fel arfer - dibynnu ar yr awydd a'r cyfrif banc ...
R'wyn credi mai yma fydda'i nawr, gan mhod i llawer rhy americanaidd fy ffordd i gael croeso mawr adre - mae'n well gennyn nhw Saeson i reoli acw!
dai
daievans a ddywedodd:"Dwy neu dair gwaith y flwyddyn? Bobol bach mae pobol Laguna Beach yn rowlio mewn arian."
Beth ti'n ddisgwyl gan Gardi? R'wyn byw fel llygoden eglwys drwy'r flwyddyn er mwyn llogu Gulfstream i lanio yn Aberporth!
A diolch am "Y Llwynog" gan RWP .... Rhaid i mi feddwl am fy hoff ddarn innau nawr, a'i ddefnyddio fel llofnod ....
Wyt ti ar Ynys Vancouver? R'wyn 'nabod sawl Cymro a Cymraes acw ...
dai
Beth am
"Niw Siland, Ynys Elis, - a Lahor,
Yn y Ffor, a Pharis
Yn Aran, a'r Caneris,
Yn Lourdes, a Los Anjelis"
Twm Morys - Y Gwyddel Gwyn a Du
daievans a ddywedodd:Mae Andrew Doyle yn dysgu mewn Ysgol Fonedd acw - Lake Shawnigan (sillafu)
http://www.sls.bc.ca/slsstaff.html
R'oedd yna Gymry arall acw, ond nid wy'n gweld nhw ar y rhestr bellach - falle bod nhw wedi dychwelyd i'r hen wlad ....
Mae Andrew yn dod o Lanbedr Pont Steffan, fel finnau, ond i fod e hanner yn oedran i ...!
Dai
"O bellter byd r'wyn dod o hyd
I'w gweld dan haul a gwlith,
A briw i'm bron fu cael pwy ddydd
Heb gennad yn eu plith, "
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai