Trais yn gyfiawn?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Guto Morgan Jones » Llun 13 Tach 2006 2:01 pm

Er fy mod yn erbyn trais fe ellir ei gyfiawnhau mewn ambell i achos. Dywedodd Saunders Lewis bod yna ffasiwn beth a rhyfel cyfiawn ac nad oedd ildio di-amod (unconditional surrendar) yn iawn fel ddigwyddodd adeg yr ail ryfel byd gyda'r Almaen.
Dyma sut oedd yr IRA yn cyfiawnhau eu hymgyrch treisgar yn erbyn Lloegr. Roedd Lloegr a pobl megis Ian Paisley yn dweud bod rhaid i'r IRA ildio yn ddi-amod. Wrth gwrs gwneud pethau yn waeth yno mae hyn.

Mae'r hyn roedd Saunders Lewis yn gredu ynddo yng nglyn a Rhyfel Cyfiawn yn ran o gredo'r Eglwys Gatholig ('dwi'n credu).
Guto Morgan Jones
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 19
Ymunwyd: Maw 17 Hyd 2006 7:11 pm

Postiogan Huw T » Iau 30 Tach 2006 1:20 am

Os gai ail gynnau ar y ddadl (unrhywbeth i osgoi gwaith) -

Mai dysgeidiaeth Iesu o droi'r foch arall yn gwbl gywir, ac byddaf yn ceisio gwneud hynny bob amser (er yn aml yn aflwyddiannus). Yn anffodus, mae na ddau flaw i hyn mewn byd practical - yn gyntaf, dyw pawb ddim yn Gristion, felly fe gewch chi'ch bwrw'n go aml. Ac yn ail, mae'n amhosibl defnyddio esiampl unigolyn mewn gwleidyddiaeth ryngwladol.

Un o brif gyfrifoldebau arweinydd gwlad (punai yn unben neu wedi ei ethol) yw edrych ar ol eu bobl - amddiffyn eu bywyd, eu rhyddid, eu hawliau. I wneud hyn mae trais weithiau'n anochel.

Esiampl hypothetical - 3 gwlad. Gwlad A yn wlad bwerus gyda sefyllfa ffafriol i ehangu mewn grym (ee cyflenwad bwyd da, adnoddau naturiol).
Gwlad B hefyd yn wlad bwerus, ond heb sefyllfa ffafriol i ehangu ei grym.
Gwlad C yn wlad wan, ond gyda llawer o adnoddau naturiol.

I arweinydd gwlad B, mae Gwlad A i'w hofni, felly mae ganddo'r opsiwn o unai concro gwlad C, i gystadlu gyda A, neu llofnodi pact gyda gwlad C i amddiffyn ei hunain yn erbyn A.

Mae'r opsiwn gyntaf yn sicr yn anghyfiawn yng ngolwg poplogaeth C a gafodd ei concro, ond yn gyfiawn i arweinydd B, sydd wedi cymryd cam concrit i amddiffyn ei boblogaeth ef.

Dyna pam mae siarad am gyfiawnder a thrais yn miso'r pwynt yn gyfangwbl.

O ran heddwch a heddychiaeth...- Gellid galw'r ail opsiwn yn yr esiampl uchod yn 'llwyddiant' o bosib am fod B a C drwy ddiplomatyddiaeth(?) wedi osgoi rhyfel ai gilydd. Ond, eu pwrpas trwy wneud hyn oedd i greu balance of power rhyngddynt hwy ac A. Felly gwelir fod pwer (sy'n cynnwys y defnydd, neu'r bygythiad o drais) yn ganolog i hyd yn oed bolisiau sy'n llwyddo i osgoi trais.

Dyna pam, yn fy marn i, fod heddychiaeth yn gwbl annigonol i ddelio a'r byd sydd ohoni. Heb os fe fydd nifer ar y maes yn anghytuno a mi :winc:

o.n. ymddiheuriadau os yw'r esiampl yn simplistig, ond mae'n osgoi gorfod son am Hitler, ac hefyd yn osgoi'r ddelfryd 'them -bad; us - good' :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan sanddef » Sad 17 Chw 2007 7:58 am

Wel, i roi fy ateb innau, na, onibai'n hollol amlwg o anghenrheidiol. O ran gyfeirio at Ail Ryfel Y Byd, gwell gen i roi esiampl profiad Gwlad Pwyl, lle nad oedd unrhyw ddewis ond i wrthsefyll yr Almaenwyr trwy drais (cafodd y Pwyliaid yr un triniaeth â'r Iddewon, a lladdwyd 3 miliwn ohonynt yn ogystal â'r 3 miliwn o Iddewon gyda dinasyddiaeth Bwylig) , ac yn enwedig y Powstanie Warszawskie, er ei fethiant, fel esiampl eglur o drais gyfiawn gan y Fyddin Gartref.

O ran Heddychiaeth, mae gan bawb yr hawl i beidio â rhyfela.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Foel Gornach » Llun 23 Ebr 2007 9:58 am

Cath Ddu a ddywedodd:Oedd trais Michael Collins yn gyfiawn? Oedd fe haeraf gan ei fod yn cynrychioli mwyafrif sylweddol o drigolion Iwerddon yn 1920/21. Oedd trais DeValera yn gyfiawn yn y rhyfel cartref ddilynodd yr heddwch rhwng Prydain ac Iwerddon? Na - trais er budd lleiafrif (bychan) oedd hyn.

Oedd yr ANC yn iawn i ddefnyddio trais - oedd i mi gan fod cyfundren hiliol a di-gyfaddawd De Affrica yn y 60au a'r 70au yn defnyddio trais i sarthu mwyafrif sylweddol. Yn yr un modd, fe fyddai trais gan 'renegade' Afrikaners yn anghyfiawn gan nad oedd iddynt fandad democrataidd.

Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Fel y dywedodd fy nhaid wrth adael PC yn 1940. "Nid Prydain di'r gelyn bellach". Fo oedd yn gywir. Fe fyddai heddychiaeth amherthnasol PC a Gwynfor Evans wedi gwneud dim i roi stop ar Hitler. Yn hyn o beth, fe fyddai heddychiaeth o'r fath yn 'intervention' bwriadol i stopio unrhyw ymdrech i roi stop ar Hitler. Fe fyddai hynny'n afresymol ac yn anfoesol.

Yn anffodus nid oeddwn ar y we pan gynhaliwyd y drafodaeth hon; byddai'n dda o beth ei hatgyfodi. Rhyfel yw'r bygythiad mwyaf i'r blaned hon a'i dyfodol. Mae'r newid hinsawdd yn mynd i achosi llawer o ryfeloedd yn y dyfodol agos - yn arbennig rhyfeloedd am ddwr. Rhaid i ni greu hinsawdd meddyliol sy'n ymwrthod a rhyfel yn llwyr.

Nid yw dadleuon Cath Ddu o blaid y ddamcaniaeth o 'rhyfel cyfiawn' yn gwneud synnwyr. O ddilyn ei resymeg yr oedd Hitler yn iawn i fynd i ryfel am fod y rhan fwyaf o'r Almaenwyr yn ei gefnogi !! Yr oedd Rhyfel Byd I yn gwbwl gyfiawn; ym mhob gwlad drwy Ewrop yr oedd mwyafrifoedd enfawr yn cefnogi eu llywodraethau i fynd i ryfel !! Ar ddechrau pob rhyfel y mae mwyafrif y boblogaeth yn ei gefnogi - gan gynnwys mwyafrif Prydain ac America parthed Irac.

Ydy Cath Ddu yn dadlau hefyd y dylid atal y rhyfel pan fo'r boblogaeth yn newid ei meddwl? Fel sydd wedi digwydd gydag Irac?

Cwestiwn o foeseg sylfaenol yw mater rhyfel. Penderfyniad o egwyddor, nid rhywbeth sy'n dibynnu ar bolau piniwn. Nid yw rhyfel wedi datrys problemau yn y tymor hir erioed. Er bod pob rhyfel drwy hanes wedi ei ymladd er mwyn creu heddwch (yn ol propaganda'r awdurdodau) rydym, ar ddechrau G21ain, yng nghanol y cyfnod mwyaf peryglus yn hanes y Cread. Pe byddai'r propaganda yn agos at fod yn wir fe fyddem yn byw mewn paradwys heddychol wedi'r miloedd blynyddoedd o ryfela i greu heddwch - ond y gwrthwyneb sy'n wir.

Mae rhyfel yn felltith; ni ellir trechu yr hyn sy'n felltith drwy ddefnyddio arfau melltigedig. Dywed Paul, yn ei lythyr at y Rhufeiniaid - Trecha di ddrygioni trwy ddaioni. Mae heddychiaeth wedi ei hadeiladu ar yr egwyddor nad oes hawl gan unrhyw berson ddinistrio bywyd unrhyw berson arall, beth bynnag fo'r amgylchiadau. Rhaid darbwyllo pobl fel Cath Ddu nad egwyddor 'afresymol ac anfoesol' yw hon, arni y dibynna'n dyfodol. Y gred bod rhyfel yn achosi 'daioni' sy'n afresymol ac yn anfoesol.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Postiogan Gowpi » Llun 23 Ebr 2007 10:32 am

Foel Gornach a ddywedodd:Y gred bod rhyfel yn achosi 'daioni' sy'n afresymol ac yn anfoesol.

Clywch clywch!
I'r rheiny nad sy'n credu bod y pethe bach yn neud gwa'niaeth, triwch rannu stafell gyda mosgito.
Rhithffurf defnyddiwr
Gowpi
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 580
Ymunwyd: Maw 16 Maw 2004 12:51 pm
Lleoliad: cadw cwmni cwn annwn

Postiogan ceribethlem » Maw 15 Mai 2007 8:33 am

Foel Gornach a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Oedd trais Michael Collins yn gyfiawn? Oedd fe haeraf gan ei fod yn cynrychioli mwyafrif sylweddol o drigolion Iwerddon yn 1920/21. Oedd trais DeValera yn gyfiawn yn y rhyfel cartref ddilynodd yr heddwch rhwng Prydain ac Iwerddon? Na - trais er budd lleiafrif (bychan) oedd hyn.

Oedd yr ANC yn iawn i ddefnyddio trais - oedd i mi gan fod cyfundren hiliol a di-gyfaddawd De Affrica yn y 60au a'r 70au yn defnyddio trais i sarthu mwyafrif sylweddol. Yn yr un modd, fe fyddai trais gan 'renegade' Afrikaners yn anghyfiawn gan nad oedd iddynt fandad democrataidd.

Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Fel y dywedodd fy nhaid wrth adael PC yn 1940. "Nid Prydain di'r gelyn bellach". Fo oedd yn gywir. Fe fyddai heddychiaeth amherthnasol PC a Gwynfor Evans wedi gwneud dim i roi stop ar Hitler. Yn hyn o beth, fe fyddai heddychiaeth o'r fath yn 'intervention' bwriadol i stopio unrhyw ymdrech i roi stop ar Hitler. Fe fyddai hynny'n afresymol ac yn anfoesol.

Yn anffodus nid oeddwn ar y we pan gynhaliwyd y drafodaeth hon; byddai'n dda o beth ei hatgyfodi. Rhyfel yw'r bygythiad mwyaf i'r blaned hon a'i dyfodol. Mae'r newid hinsawdd yn mynd i achosi llawer o ryfeloedd yn y dyfodol agos - yn arbennig rhyfeloedd am ddwr. Rhaid i ni greu hinsawdd meddyliol sy'n ymwrthod a rhyfel yn llwyr.

Nid yw dadleuon Cath Ddu o blaid y ddamcaniaeth o 'rhyfel cyfiawn' yn gwneud synnwyr. O ddilyn ei resymeg yr oedd Hitler yn iawn i fynd i ryfel am fod y rhan fwyaf o'r Almaenwyr yn ei gefnogi !! Yr oedd Rhyfel Byd I yn gwbwl gyfiawn; ym mhob gwlad drwy Ewrop yr oedd mwyafrifoedd enfawr yn cefnogi eu llywodraethau i fynd i ryfel !! Ar ddechrau pob rhyfel y mae mwyafrif y boblogaeth yn ei gefnogi - gan gynnwys mwyafrif Prydain ac America parthed Irac.

Ydy Cath Ddu yn dadlau hefyd y dylid atal y rhyfel pan fo'r boblogaeth yn newid ei meddwl? Fel sydd wedi digwydd gydag Irac?

Cwestiwn o foeseg sylfaenol yw mater rhyfel. Penderfyniad o egwyddor, nid rhywbeth sy'n dibynnu ar bolau piniwn. Nid yw rhyfel wedi datrys problemau yn y tymor hir erioed. Er bod pob rhyfel drwy hanes wedi ei ymladd er mwyn creu heddwch (yn ol propaganda'r awdurdodau) rydym, ar ddechrau G21ain, yng nghanol y cyfnod mwyaf peryglus yn hanes y Cread. Pe byddai'r propaganda yn agos at fod yn wir fe fyddem yn byw mewn paradwys heddychol wedi'r miloedd blynyddoedd o ryfela i greu heddwch - ond y gwrthwyneb sy'n wir.

Mae rhyfel yn felltith; ni ellir trechu yr hyn sy'n felltith drwy ddefnyddio arfau melltigedig. Dywed Paul, yn ei lythyr at y Rhufeiniaid - Trecha di ddrygioni trwy ddaioni. Mae heddychiaeth wedi ei hadeiladu ar yr egwyddor nad oes hawl gan unrhyw berson ddinistrio bywyd unrhyw berson arall, beth bynnag fo'r amgylchiadau. Rhaid darbwyllo pobl fel Cath Ddu nad egwyddor 'afresymol ac anfoesol' yw hon, arni y dibynna'n dyfodol. Y gred bod rhyfel yn achosi 'daioni' sy'n afresymol ac yn anfoesol.

Cytuno a phob gair. Mae pobl yn dweud bod heddychiaeth ddim yn mynd i weithio ac fod rhaid rhyfela weithiau i gynnal heddwch. Dyw hwnna ddim yn gwneud synnwyr. Yn ei hanfod mae'r ddadl yma'n dweud:
Rhaid lladd rhywun i'w cadw'n fyw.
Nonsens o'r radd eithaf. Trafod er mwyn deall hanes a thraddodiadau gwahanol yw'r unig ffordd i ddod at heddwch yn y Byd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re:

Postiogan CapS » Maw 05 Chw 2008 9:03 pm

ceribethlem a ddywedodd:

Deall dy safbwynt, ond na ellid dadlau bod yr Ail Rhyfel Byd yn "gyfiawn". Hynny yw, er gwaetha bygythiadau Hitler, Prydain a Ffrainc gychwynodd y rhyfel gyda'r Almaen, a hynny am resymu moesol. Hynny yw, er i Chamberlain geisio "deall" y teimlad o anghyfiawnder (rhannol dealladwy) ymysg nifer helaeth o Almaenwyr ar ol Versailles - trwy rhoi'r Sudetenland i'r Almaen i achub y cam - nid oedd Hitler eisiau trafod na chwaith cael unrhyw un i'w ddeall.

A, i ateb pwynt uchod, dwi ddim yn deall y cyffelybiaeth sydd wedi'i dynnu rhwng moesoldeb rhyfel (neu unrhyw achos) a barn y cyhoedd. Mae mwyafrif llethol o Brydeinwyr o blaid y gosb eithaf i rai troseddwr, ond ychydig iawn o bobol yn eu llawn bwyll fyddai'n cytuno bod y gosb eithaf yn foesol.
CapS
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Gwe 04 Awst 2006 9:04 am

Re: Re:

Postiogan ceribethlem » Maw 05 Chw 2008 9:20 pm

CapS a ddywedodd:

Gellir, fe ellir dadlau fod yr Ail Ryfel Byd yn gyfiawn, yn y cydestun "lesser of 2 evils". Fodd bynnag, pe bai'r Treaty a luniwyd yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf yn un wedi'i selio ar ddealltwriaeth a thrafod yn hytrach na'r system gafwyd, mae yna bosibilrwydd mawr (mwy na thebyg yn fy marn i) na fyddai'r amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd yn bodoli y byddai wedi rhoi'r rhwydd hynt i Hitler a't Natsiaid gipio pwer yno.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Re:

Postiogan CapS » Maw 05 Chw 2008 9:28 pm

Bosib, ond mae hefyd angen cymryd ystyriaeth o'r ffaith bod yr Almanen (a'r Eidal) yn wledydd newydd sbon yn y 30au (llai na 50 mlwydd oed) ac yn bodoli yn yr oes o ymerodraethau Ewropeaidd. Roedd yr Eidal ar ein ochr "ni" yn y Rhyfel Mawr, ond roeddynt dal yn awyddus iawn i ymestyn eu dylanwad mewn i ogledd Affrica (Abyssinia ayb). Roedd gwrth-semitiaeth a gwrth-Comiwynyddiaeth hefyd yn rhemp trwy Ewrop gyfan yn yr 20au o ganlyniad i nifer o ffactorau - ie, yn cynnwys "anhegwch" Versailles ond hefyd o ganlyniad i hiliaeth cyffredinol ac effeithiau'r dirwasgiad mawr yn y gorllewin. Yn y Dwyrain Pell, roedd Siapan yn benderfynol o sefydlu ymerodraeth yng Nghorea, Manchuria a rhannu eraill o'r cyfandir. Roedd Sosialwyr newydd y byd hefyd yn benderfynol o ledu'r chwyldro Comiwnyddol. Mewn geiriau eraill, roedd yna bwerau di-ri oedd yn benderfynnol o ymosod ar eu cymdogion (neu ar eu pobol nhw eu hunain) a'r unig ffordd i'w hatal oedd i ymladd.
CapS
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 90
Ymunwyd: Gwe 04 Awst 2006 9:04 am

Re: Re:

Postiogan ceribethlem » Maw 05 Chw 2008 9:51 pm

CapS a ddywedodd:Bosib, ond mae hefyd angen cymryd ystyriaeth o'r ffaith bod yr Almanen (a'r Eidal) yn wledydd newydd sbon yn y 30au (llai na 50 mlwydd oed) ac yn bodoli yn yr oes o ymerodraethau Ewropeaidd. Roedd yr Eidal ar ein ochr "ni" yn y Rhyfel Mawr, ond roeddynt dal yn awyddus iawn i ymestyn eu dylanwad mewn i ogledd Affrica (Abyssinia ayb). Roedd gwrth-semitiaeth a gwrth-Comiwynyddiaeth hefyd yn rhemp trwy Ewrop gyfan yn yr 20au o ganlyniad i nifer o ffactorau - ie, yn cynnwys "anhegwch" Versailles ond hefyd o ganlyniad i hiliaeth cyffredinol ac effeithiau'r dirwasgiad mawr yn y gorllewin. Yn y Dwyrain Pell, roedd Siapan yn benderfynol o sefydlu ymerodraeth yng Nghorea, Manchuria a rhannu eraill o'r cyfandir. Roedd Sosialwyr newydd y byd hefyd yn benderfynol o ledu'r chwyldro Comiwnyddol. Mewn geiriau eraill, roedd yna bwerau di-ri oedd yn benderfynnol o ymosod ar eu cymdogion (neu ar eu pobol nhw eu hunain) a'r unig ffordd i'w hatal oedd i ymladd.
Dyna'r pwynt, mae yna gymaint o ffactorau gwahanol yn bodoli, nid yw rhyfela yn eu hateb. Pe bai pobl yn deall y problemau yma ac yn ceisio gweithredu i'w datrys, byddai llawer mwy o fodd i'w datrys cyn rhyfela digwydd.
Mae cymaint o bobl wedi rhyfela dros "ryddid" ers mor hir, a chymaint o bobl wedi marw ac wedi lladd dros "rhyddid" dros y canrifoedd. Dyw hwn heb stopio rhyfela rhag digwydd, mae'r treisio a'r rhyfela a'r lladd yn parhau. Felly mae'r hen ystradeb Saesneg "the end justifies the means" ddim yn wir. Pe bai yna ryfel wedi bod, lle gwelwyd heddwch parhaus ar ei ol, yna cytunaf fod cyfiawnder yn bodoli yna. Mae'r gwir, fodd bynnag, wedi dangos fod rhyfel ddim yn arwain at heddwch.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron