ceribethlem a ddywedodd:Dyna'r pwynt, mae yna gymaint o ffactorau gwahanol yn bodoli, nid yw rhyfela yn eu hateb. Pe bai pobl yn deall y problemau yma ac yn ceisio gweithredu i'w datrys, byddai llawer mwy o fodd i'w datrys cyn rhyfela digwydd.CapS a ddywedodd:Bosib, ond mae hefyd angen cymryd ystyriaeth o'r ffaith bod yr Almanen (a'r Eidal) yn wledydd newydd sbon yn y 30au (llai na 50 mlwydd oed) ac yn bodoli yn yr oes o ymerodraethau Ewropeaidd. Roedd yr Eidal ar ein ochr "ni" yn y Rhyfel Mawr, ond roeddynt dal yn awyddus iawn i ymestyn eu dylanwad mewn i ogledd Affrica (Abyssinia ayb). Roedd gwrth-semitiaeth a gwrth-Comiwynyddiaeth hefyd yn rhemp trwy Ewrop gyfan yn yr 20au o ganlyniad i nifer o ffactorau - ie, yn cynnwys "anhegwch" Versailles ond hefyd o ganlyniad i hiliaeth cyffredinol ac effeithiau'r dirwasgiad mawr yn y gorllewin. Yn y Dwyrain Pell, roedd Siapan yn benderfynol o sefydlu ymerodraeth yng Nghorea, Manchuria a rhannu eraill o'r cyfandir. Roedd Sosialwyr newydd y byd hefyd yn benderfynol o ledu'r chwyldro Comiwnyddol. Mewn geiriau eraill, roedd yna bwerau di-ri oedd yn benderfynnol o ymosod ar eu cymdogion (neu ar eu pobol nhw eu hunain) a'r unig ffordd i'w hatal oedd i ymladd.
Mae cymaint o bobl wedi rhyfela dros "ryddid" ers mor hir, a chymaint o bobl wedi marw ac wedi lladd dros "rhyddid" dros y canrifoedd. Dyw hwn heb stopio rhyfela rhag digwydd, mae'r treisio a'r rhyfela a'r lladd yn parhau. Felly mae'r hen ystradeb Saesneg "the end justifies the means" ddim yn wir. Pe bai yna ryfel wedi bod, lle gwelwyd heddwch parhaus ar ei ol, yna cytunaf fod cyfiawnder yn bodoli yna. Mae'r gwir, fodd bynnag, wedi dangos fod rhyfel ddim yn arwain at heddwch.
Ond dwi newydd gyfeirio at achosion lle rhyfela oedd yr unig ffordd i atal mwy o ladd. Pa ffordd arall oedd i atal Hitler ond rhyfela yn ei erbyn? Beth oedd i "ddeall" o ran credoau Hitler? Y dewis oedd naill ai ei ymladd neu gadael iddo fod yn y gobaith na fyddai'n ymosod ar Brydain. A dangosodd y ffordd iddo dorri'r Ribbentrop-Molotov pact nad oedd ganddo unrhyw fwriad i adael llonydd i unrhyw un. Mewn achos mor du a gwyn a hynny, os bosib bod rhyfel yn "foesol" neu yn "gyfiawn"?
A dyw'r ddadl bod bodolaeth rhesymau (gall fod yn ddilys) dros weithredu'n dreisiol yn golygu mae'r ymateb moesol gan eraill yw anwybyddu'r ymddygiad ddim yn dal dwr. Oes cyfrifoldeb moesol ar y gymuned rhyngwladol i achub ar y di-amddiffyn, neu ai'r cam moesol yw i anwybyddu dioddef y gwan er mwyn cynnal ein hunan-foesoldeb ni? Er enghraifft, beth bynnag dy farn am foesoldeb yr ymyrraeth yn Irac yn 2003, oedd hi'n foesol anwybyddu'r dioddef erchyll ar ran y Cwrdiaid a'r Arabiaid yn ne'r Gwlad? Ar pa bwynt mae moesoldeb anwybyddu dioddef eraill yn torri i lawr? Ar pa bwynt mae ein cyfrifoldeb ni fel pobol tuag at ein cyd-ddyn yn goroesi unrhyw "foesoldeb" hunan-gyfiawn?