Newyddion tu hwnt o drist y penwythnos hwn oedd marwolaeth frawychus Siôn Ifan Evans yn oriau man bore dydd Sadwrn. Siôn oedd Swyddog Ieuenctid Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac is-warden adeilad Coleg y Bala.
Roedd Siôn yn Gristion o argyhoeddiad ac roedd y ffordd yr oedd yn byw ei fywyd bob dydd, yn ffordd yr oedd ei ffrindiau yn ei gweld fel esiampl. Cefaint y fraint o gyd fyw ag ef yn y Bala am flwyddyn; braint oedd ei adnabod a braint oedd ei gael yn ffrind.
Mae’n gadael ei rieni a’i chwaer ac estynnaf fy nghydymdeimlad mwyaf tuag atynt hwy, ei deulu a’i ffrindiau.
“Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint Ef.” Salm 116 ad.15.